Showing 2971 results

Authority record

Jones, T. Llew (Thomas Llew)

  • n 82120744
  • Person
  • 1915-2009

Ganwyd Thomas Llewelyn Jones (1915-2009), bardd ac awdur llyfrau plant, ym Mhentre-cwrt, sir Gaerfyrddin, ar 11 Hydref 1915. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Llandysul a bu'n gwasanaethu yn yr Awyrlu a'r Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn hyfforddi'n athro. Bu'n brifathro ar ysgolion cynradd Tregroes a Choed-y-bryn, sir Aberteifi. Ym 1940 priododd â Margaret Jones, un o deulu'r Cilie, a thrwy hynny daeth dan ddylanwad beirdd megis Isfoel ac Alun Cilie. Ennillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy, 1958, ac yng Nghaernarfon, 1959. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi, gan gynnwys Sŵn y Malu (Llandysul, 1967) and Canu'n Iach! (Llandysul, 1987). Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau poblogaidd i blant, yn eu mysg Y Ffordd Beryglus (Llandysul, 1963), Ymysg Lladron (Llandysul, 1965) and Dial o'r Diwedd (Llandysul, 1968), Barti Ddu (Llandybïe, 1973), Un Noson Dywyll (Llandysul, 1973), Tân ar y Comin (Llandysul, 1975), Dirgelwch yr Ogof (Llandysul, 1977) a Lleuad yn Olau (Llandysul, 1989). Roedd gan T. Llew Jones ddiddordeb mawr mewn gwyddbwyll. Roedd yn aelod o Undeb Gwyddbwyll Cymru, a daeth yn Is-Lywydd ar y mudiad. Rhannodd y diddordeb yma gyda'i fab iau, Iolo Ceredig Jones (g. 1947), a bu'r ddau yn cystadlu dros Gymru yn yr Olympiad Gwyddbwyll. Ei fab hynaf yw Emyr Llewelyn (g. 1941), ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg a garcharwyd ym 1963 yn sgil ffrwydriad yng Nghwm Tryweryn, Bala. Bu farw T. Llew Jones ym Mhontgarreg, Ceredigion, ar 9 Ionawr 2009.

Gwynn, Harri, d. 1985.

  • Person

Yr oedd Harri Gwynn (1913-1985) yn fardd a darlledwr. Fe'i ganwyd yn Wood Green, Llundain, 14 Chwefror 1913, yn fab i Hugh ac Elizabeth Jones. Symudodd y teulu i Garth Celyn, Penrhyndeudraeth, pan oedd Harri Gwynn yn bedair oed, yn dilyn marwolaeth ei dad. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bermo a Choleg y Brifysgol, Bangor. Enillodd radd mewn hanes yn 1935. Rhwng 1935 a 1936 ef oedd Llywydd Cyngor y Myfyrwyr ac enillodd y goron ddwywaith yn Eisteddfod Prifysgol Bangor, ac unwaith yn yr Eisteddfod Rhyngolegol yn Aberystwyth. Yn 1938 cyflwynodd ei draethawd ymchwil MA ar y Crynwr John Kelsall (1683-1743), 'John Kelsall: A study in Religious and Economic History' wedi iddo ennill Ysgoloriaeth Lloyd George. Bu'n athro hanes yn Y Fflint am flwyddyn ac wedyn yn Ysgol Friars, Bangor. Priododd y gwyddonydd Dr Eirwen Gwynn (née St. John Williams) ar Ddydd Calan 1942 a ganwyd eu mab Dr Iolo ap Gwynn tra roeddent yn byw yn Llundain. Bu'n was sifil yn Warwick ac yn Llundain gan gyfrannu at fywyd diwylliannol y brifddinas drwy gynorthwyo i sefydlu Cymdeithas y Ford Gron a chwmni drama'r Ddraig Goch gyda'i wraig Eirwen. Bu'n olygydd papur Cymry Llundain Y Ddinas o 1943 hyd 1950.

Ar ôl byw yn Lloegr am wyth mlynedd penderfynodd ddychwelyd i Gymru yn 1950 i ffermio yn Nhyddyn Cwcallt, Rhoslan, Eifionydd, gan aros yno am ddeuddeng mlynedd. Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955. Yn 1970 symudodd Harri Gwynn o Fangor i Dyddyn Rhuddallt yn Llanrug. Yr oedd yn un o ohebwyr cyntaf y rhaglen 'Heddiw' a dechreuodd weithio ar y rhaglen yn 1962. Bu'n gweithio hefyd fel cynhyrchydd radio ym Mangor. Ymddeolodd o'r BBC yn 1979.

Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi Barddoniaeth Harri Gwynn (1955) ac Yng Nghoedwigoedd y Sêr (1975), a chasgliad o ysgrifau, Y Fuwch a'i Chynffon (1954). Yn 1994 golygodd Dr Eirwen Gwynn gyfrol o ysgrifau'i gŵr Rhwng godro a gwely a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel erthyglau yn Y Cymro rhwng 1952 a 1959. Bu Harri Gwynn yn gystadleuydd brwd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ymgeisiodd am y goron chwech o weithiau rhwng 1948 a 1954. Ef a luniodd 'Y Creadur' sef pryddest anfuddugol Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952 y gwrthodwyd ei gwobrwyo gan yr Athro W. J. Gruffydd a'i gyd-feirniaid. Fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddarach yn Y Cymro.

Bu Harri Gwynn farw ar 24 Ebrill 1985.

Tomos, Angharad, 1958-

  • Person

Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd iaith ac awdur toreithiog sydd wedi ysgrifennu cyfrolau ar gyfer oedolion a phlant, sgriptiau ar gyfer dramâu llwyfan ac erthyglau ar gyfer nifer o gyfnodolion ers diwedd y 1970au.

Fe'i ganwyd ym 1958 a'i magu, yn un o bump chwaer, yn Llanwnda ger Caernarfon. Ymddiddorodd mewn llenydda yn fuan iawn yn ei bywyd gan ennill medal lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym 1981 a 1982 tra yn yr un cyfnod yn ymroi yn ddigyfaddawd i weithgareddau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan dreulio cyfnod yn gweithio iddynt a chan wynebu nifer o achosion llys, dirwyon a charchar. Treuliodd flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ond ymadawodd i weithio i Gymdeithas yr Iaith cyn ailgydio yn ei haddysg uwch a graddio o Brifysgol Cymru, Bangor. Bu am gyfnod yn ddi-waith pryd y mynychodd gyrsiau celf. Gwelir ei gwaith celf a'i gwaith fel awdur yng nghyfrolau Rala Rwdins, cyfres bwysig a phoblogaidd i blant ieuainc yn cynnwys cymeriadau a drosglwyddwyd yn llwyddiannus i'r llwyfan ac i'r sgrîn. Aeth ymlaen i ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ym 1991 a 1997 a Gwobr Tir na n-Óg ddwywaith am ei llyfrau i blant. Enillodd sawl ysgoloriaeth gan Gyngor y Celfyddydau i dreulio cyfnod yn ysgrifennu ac ar gyfer cyfnodau yn awdur preswyl. Dros y blynyddoedd datblygodd yn athrawes a darlithydd poblogaidd gan ymweld ag ysgolion a chymdeithasau ledled Cymru. Bu'n deithwraig frwd erioed, ond ers cyfarfod â'i gŵr, Ben Gregory, a phriodi ym 1999, datblygodd ei diddordeb mewn teithio ac mewn gwleidyddiaeth fyd-eang, yn arbennig y sefyllfa yn Nicaragua. Mae'r ddau bellach yn byw ym Mhen-y-groes, Gwynedd.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

  • n 50032994
  • Person

Cylchgrawn Chwarterol Cymraeg a gyhoeddai weithiau llenyddol o safon uchel oedd Y Llenor, 1922-1955. W. J. Gruffydd oedd golygydd y cylchgrawn ar hyd y cyfnod y cyhoeddwyd ef, ond yn 1946 penodwyd T. J. Morgan yn gyd-olygydd â W. J. Gruffydd. Cyfrannodd Y Llenor yn helaeth i lenyddiaeth ac ysgolheictod Cymraeg y dydd, a bu yn llwyfan i nifer o awduron, beirdd ac ysgolheigion.

Bowyer, Gwilym, 1906-1965

  • Person

Yr oedd Gwilym Bowyer (1906-1965) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn brifathro coleg. Yr oedd yn frodor o Bonciau. Rhosllannerchrugog a chafodd ei addysg gynnar yn Ysgol y Cyngor, Ponciau. Gweithiodd yn gyntaf mewn siop groser lleol cyn mynd i Goleg Bala-Bangor yn 1928 lle graddiodd mewn athroniaeth yn 1932 a derbyn gradd BD yn 1938. Cafodd ei ordeinio yn 1935 a bu'n weinidog yn Llundain a Bangor cyn cymryd swydd Prifathro Coleg Bala-Bangor yn 1946. Bu yma tan ei farwolaeth annhymig yn 1965. Cyhoeddodd dau bamffled a thua phump ar hugain o erthyglau, pregethau ac adolygiadau. Yr oedd yn bregethwr a darlledwr nodedig, yn heddychwr ac yn ddadleuwr cryf dros addysg Gymraeg.

Dafis, Cynog, 1938-

  • no2006001317
  • Person
  • 1938-

Mae Cynog Glyndwr Dafis (g. 1939) yn aelod gweithgar o Blaid Cymru ers 1955. Am 32 mlynedd bu'n athro ysgolion cyfun ym Mhontardawe, Castellnewydd Emlyn, Aberaeron a Llandysul. Roedd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1965-1966. Roedd yn AS Plaid Cymru dros Geredigion,1992-2000 (ar y cychwyn cafodd ei ethol dros Geredigion a Gogledd Penfro ar raglen Plaid Cymru/ y Blaid Werdd), ac yn AC (Aelod y Cynulliad) yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999-2003. Bu'n aelod o Bwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig y Cynulliad, 2002-2003. Mae'n awdur nifer o erthyglau a phamffledi ar fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru, yn cynnwys Migration into Wales: a positive response (1988) ac A sustainable future for Wales (1988) ar y cyd â Victor Anderson.

Untitled

Ganwyd Bobi Jones (Robert Maynard Jones (g. 1929)) yng Nghaerdydd i rieni di-Gymraeg, ac ar ôl iddo ddysgu Cymraeg yn yr ysgol, enillodd radd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd yn 1949. Bu'n athro yn Llanidloes, sir Drefaldwyn, a Llangefni, sir Fôn cyn dod yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac wedyn yn Ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Yn 1966, ymunodd a staff Adran Gymraeg y coleg hwnnw, a bu'n Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg o 1980 tan ei ymddeoliad yn 1989. Dros y blynyddoedd mae Bobi Jones wedi bod y mwyaf toreithiog o awduron Cymraeg ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn cynhyrchu llif o farddoniaeth, straeon byrion, nofelau a beirniadaeth lenyddol. Bu yr un mor doreithiog fel athro, yn cynhyrchu llyfrau i blant, cyhoeddiadau ysgolheigaidd ar farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg a sawl cyfrol ar gyfer myfyrwyr y Gymraeg. Nid oes arwydd ar hyn o bryd y bydd y llif toreithiog hwn yn peidio.

Phillips, Llywelyn, d. 1981.

  • Person

Yr oedd Llywelyn Phillips (1914-1981) yn ohebydd amaethyddol, golygydd a llenor. Parhaodd ei ddiddordeb mewn amaethyddiaeth, yn enwedig ym Mridfa Planhigion Cymru, ac ym mywyd, llenyddiaeth a diwylliant Cymru ar hyd ei oes.

Jones, W. R. (William Richard), Pelidros, 1877-1958

  • Person

Yr oedd y Parch. William Richard Jones ('Pelidros', 1877-1958), o Ferthyr Tudful, Morgannwg, yn weinidog y Bedyddwyr a bardd. Fe'i ganed yn 1877, yn fab i Henry a Sarah Jones. Bu'n weinidog ar nifer o eglwysi'r Bedyddwyr gan gynnwys Tabor, Aberafan, Morgannwg, 1934-1950). Enillodd lawer o gadeiriau eisteddfodol gyda'i farddoniaeth. Sally Jones ('Gwynferch') oedd ei ferch. Bu farw 28 Ebrill 1958. Yr oedd yn awdur Cerddi Ieuengtid (Merthyr Tudful, 1902), Y Dafnau Gwlith (Merthyr Tudful, [c. 1905]), Dilyn Llwybrau'r Iesu (Aberdâr, [1931]), alawgan gyda cherddoriaeth gan ei frawd David Jones, Isaac Lewis: y crwydryn digrif, 2 gyfrol (Merthyr Tudful, 1901-1904) a Tannau'r Wawr: i blant a phob oed (Aberdâr, 1937).

Untitled

Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion pwyllgor eisteddfod cymdeithasau cystadleuol capeli Bryn'rodyn, Bwlan, Tynlon, Glanrhyd a Saron.

Untitled

Mae Angharad Tomos wedi ysgrifennu llyfrau llwyddiannus ar gyfer oedolion a phlant. Y gyfrol gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Rwy'n gweld yr haul, cyfrol fuddugol, medal lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1981. Ers hynny cyhoeddodd bedair nofel arall ar gyfer oedolion, cyfres Rala Rwdins a Guto Col Tar ar gyfer plant bychain a nofel Sothach a Sglyfath ar gyfer plant ychydig yn hŷn, yn ogystal â chyfrolau unigol eraill.

Untitled

Bu Angharad Tomos yn ysgrifennu colofn i Y Faner, yn olygydd Tafod y Ddraig ac yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg rhwng 1979 a 1983.

Untitled

Treuliodd Angharad Tomos gyfnod yn awdur preswyl yn ysgolion cynradd Bro Dysynni yn ystod gwanwyn 1993.

Union of Welsh Publishers and Booksellers.

  • Corporate body

Sefydlwyd Undeb Cyhoeddwyr a Llyfrwerthwyr Cymreig (Union of Welsh Publishers and Booksellers) fel cymdeithas masnachu. Un o'i amcanion oedd lobïo am gefnogaeth y llywodraeth i wrthweithio anawsterau economaidd a wynebai cyhoeddi yn y Gymraeg yn sgil rhediadau argraffu byr. Yn 1951, cyflwynodd femorandwm ar y pwnc i Gyngor Cymru a Mynwy, a arweiniodd at sefydlu Pwyllgor Cyhoeddi Llyfrau Cymraeg a chyfundrefn o grantiau i gyhoeddwyr. Parhaodd i weithredu hyd yr 1980au, gan ddefnyddio'r teitl Saesneg, Union of Welsh Publishers and Booksellers.

Bryfdir, 1867-1947

  • no2007032190
  • Person

Roedd 'Bryfdir', Humphrey Jones (1867-1947), yn chwarelwr a bardd. Ganwyd ef yng Nghwm Croesor, Meirionnydd, ar 13 Rhagfyr 1867. Ar ôl gadael ysgol yn 12, bu'n chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog lle treuliodd weddill ei fywyd. Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth a chystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn ifanc, gan ymuno â Gorsedd y Beirdd yn 1890 ac ennill dim llai na 64 cadair farddol ac 8 coron yn ystod ei fywyd. Roedd yn enwog fel arweinydd eisteddfodau. Cyfrannodd at gylchgronau Y Genhinen a Cymru yn ogystal â chyhoeddi dwy gyfrol o'i farddoniaeth: Telynau'r Wawr (Blaenau Ffestiniog, 1899) a Bro Fy Mebyd a Chaniadau Eraill (Bala, 1929) Roedd ganddo 5 o blant, a bu farw 22 Ionawr 1947.

Peate, Iorwerth Cyfeiliog, 1901-1982.

  • Person

Roedd Iorwerth Cyfeiliog Peate (1901-1982) yn ysgolhaig ac yn fardd.

Fe'i ganwyd ym Mhandy Rhiwsaeson, Llanbryn-mair, Trefaldwyn, yr ail o dri phlentyn George H. ac Elizabeth Peate. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Machynlleth a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r astudiodd dan T. Gwynn Jones a H. J. Fleure a gafodd gryn ddylanwad arno. Arbenigodd mewn Archaeoleg Geltaidd ac yn 1927 penodwyd ef yn Is-Geidwad yn Adran Archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dyrchafwyd Iorwerth Peate yn Bennaeth Is-adran Diwylliant a Diwydiannau Gwerin yn 1932, a gweithiodd yn ddiflino i sefydlu amgueddfa werin yng Nghymru ar batrwm amgueddfeydd awyr-agored gwledydd Llychlyn. Gwireddwyd ei freuddwyd pan agorwyd Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yn 1948 a phenodwyd yntau'n Guradur cyntaf hyd ei ymddeoliad yn 1971. Roedd yn ŵr o argyhoeddiadau cryf ac un annibynnol ei farn ac ymhyfrydai yn 'nhraddodiad Llanbryn-mair' y magwyd ef ynddi, sef traddodiad anghydffurfiol, radicalaidd. Bu'n heddychwr gydol oes a chollodd ei swydd fel Curadur am gyfnod oherwydd ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd Iorwerth Peate yn awdur toreithiog o weithiau ysgolheigaidd Cymraeg a Saesneg yn ogystal â barddoniaeth, rhyddiaith a beirniadaeth lenyddol. Ymhlith ei brif gyfraniadau ym maes diwylliant gwerin mae Y crefftwr yng Nghymru (1933), The Welsh house (1940), Diwylliant gwerin Cymru (1942), Clock and watch makers in Wales (Caerdydd, 1945), a Tradition and folk life: a Welsh view (1972). Cyhoeddodd amryw gyfrolau o ryddiaith, yn eu plith Sylfeini (1938), Syniadau (1969), a'r gweithiau hunangofiannol Rhwng dau fyd (1976), a Personau (1982); bu'n olygydd monograffau megis Hen Gapel Llanbrynmair 1739-1939 (1939), John Cowper Powys: letters 1937-54 (1974), a'r cylchgronau Dragon (1922-1923), Y ddraig goch (1926-1927), a Gwerin. An international journal of folk life (1956-1962). Ymhlith y casgliadau o farddoniaeth a gyhoeddwyd mae Y cawg aur a cherddi eraill (1928), Canu chwarter canrif (1957) sef detholiad o'i gerddi, a Cerddi diweddar (1982) wedi iddo farw. Cyfrannodd nifer helaeth o erthyglau ac adolygiadau i'r wasg, rhai ohonynt dan y ffugenw 'Gwerinwr', ac roedd yn ddarlledydd radio poblogaidd.

Roedd Iorwerth Peate yn aelod o amryw bwyllgorau a bu'n Llywydd y Gymdeithas Fywyd Gwerin, Llywydd Adran H (Anthropoleg) o'r British Association for the Advancement of Science, Is-Lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, un o sefydlwyr a chyn-Gadeirydd yr Academi Gymreig, ac aelod o Lys a Chyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Derbyniodd gydnabyddiaeth am ei gyfraniad ysgolheigaidd gyda'r graddau D. Litt. Celt. er anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon (1960), a D. Sc. (1941) a D. Litt. honoris causa (1970) gan Brifysgol Cymru. Cyflwynwyd bathodyn y Cymmrodorion iddo yn 1978 am ei waith dros Gymru, a chyfrol festschrift, Studies in folk life, gol. J. Geraint Jenkins, yn 1966.

Priododd Nansi (Annie) Davies, yn 1929, a ganwyd mab iddynt, Dafydd (1936-1980). Bu farw Iorwerth C. Peate ar 19 Hydref 1982.

Owen, Ellis, 1789-1868.

  • Person

Yr oedd Ellis Owen (1789-1868), Cefnymeysydd, Ynyscynhaearn, Eifionydd, sir Gaernarfon, yn ffermwr, hynafiaethydd a bardd.

Lloyd, D. Myrddin (David Myrddin), 1909-1981

  • Person

Roedd David Myrddin Lloyd (1909-1981) yn ysgolhaig, beirniad llenyddol a golygydd. Cafodd ei eni yn Fforest-fach, Morgannwg, a derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgolion Abertawe a Dulyn. Yn llyfrgellydd o ran ei alwedigaeth, bu'n Geidwad Llyfrau Printiedig Llyfrgell Genedlaethol yr Alban rhwng 1953 a 1974. Ef oedd awdur Beirniadaeth lenyddol (1962), ysgrif ar Emrys ap Iwan yn y gyfres Writers of Wales (1974), a Rhai agweddau ar ddysg y Gogynfeirdd 91977). Bu'n olygydd gweithiau yn cynnwys Erthyglau Emrys ap Iwan (3 cyfrol 1937, 1939, 1940), A book of Wales (1953), A reader's guide to Scotland (1968), ac O erddi eraill (1981), blodeugerdd o gerddi mewn deunaw iaith a gyfieithwyd i'r Gymraeg.

Results 2921 to 2940 of 2971