Dangos 2971 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Morfa (Church : Abergele, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd ac agorwyd Capel y Morfa yn 1866, ond roedd cynulleidfa o Fethodistiaid Calfinaidd wedi bodoli yn y cylch ers troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Buont yng Nghapel Penbrynllwyni o 1826 hyd 1864, pryd y tynnwyd y capel i lawr. Bu'r gynulleidfa'n cwrdd yn nhŷ 'Y Sun' am ddwy flynedd cyn i Gapel y Morfa gael ei adeiladu. Unwyd gofalaeth Capel y Morfa â Rhuddlan rhwng 1924 ac 1933, ac eto rhwng 1952 ac 1961. Bu o dan yr un ofalaeth ag Eglwys Warren Road, Y Rhyl, 1947-1950. Mae'r capel yn Nosbarth Rhuddlan, Henaduriaeth Dyffryn Clwyd.

Richards, Lily, 1923-1998.

  • Person

Yr oedd Lily Richards (1923-1998) a'i gŵr Herbert Prothero Richards (1899-1991) yn aelodau gweithgar yn aelwyd Caerffili o Urdd Gobaith Cymru.

Roberts, D. J. (David John).

  • Person

Gwnaeth y Parch. D. J. Roberts, Gweinidog yr Annibynwyr, Aberteifi, ymchwil ar hanes ei gapel, Capel Mair, ac ysgrifennodd fywgraffiad o weinidog arall yr Annibynwyr, Dr Peter Price (1864-1940), ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1949. Roedd hefyd yn aelod o'r pwyllgor gwaith a drefnodd Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.

Cymdeithas Cymry Ariannin.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Cymdeithas Cymru-Ariannin ym 1939 gan bobl â chysylltiad â'r Wladfa Gymreig yn Chubut, yr Ariannin, i fod yn ddolen gyswllt rhwng y ddwy wlad. Mae'r Gymdeithas yn trefnu a noddi cyfnewid athrawon, myfyrwyr a gweinidogion yr efengyl rhwng Cymru a'r Ariannin. Mae'n noddi cystadleuaeth lenyddol flynyddol (yn y Gymraeg) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ers 1978. Yn ogystal mae'n noddi unrhyw fyfyriwr o'r Ariannin sydd am ddod i Gymru i ehangu gorwelion eu haddysg. Cafwyd cydweithredu agos â Choleg Harlech. Ymysg y sefydliadau a noddwyd yn y blynyddoedd diweddar mae Ysgol Gymraeg Trelew, Ysgol Feithrin y Gaiman a'r Ganolfan Gymraeg yn Esquel. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Capel Gibea (Cwmgwili, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd capel Gibea, Cwmgwili, yn 1899, yn gangen i gapel yr Hendre, Llandybïe.

Cychwynnwyd yr Ysgol Sul yn yr ardal, 31 Ionawr 1897, mewn llofft stabl o eiddo Mr a Mrs Anthony, Brynrodyn. Ymhen tua blwyddyn a hanner aeth y llofft yn rhy fychan, a chafwyd darn o dir yn rhad ac am ddim gan Mr Rees Jones, Tanyfan, i adeiladu ysgoldy. Codwyd yr adeilad yn 1899 ar gyfer tua cant ac ugain o gynulleidfa.

Roedd y capel yn rhan o Ddosbarth yr Hendre, Henaduriaeth Gogledd Myrddin. Mae'r achos bellach wedi dod i ben.

Capel Newydd (Pontrobert, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd capel Pontrobert, Meifod, plwyf Llangynyw, Sir Drefaldwyn yn 1800, ond fe'i defnyddiwyd fel ysgol am gyfnod pan oedd John Hughes Pontrobert yn dysgu yno. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Methodistiaid yn 1814 a daeth yr adeilad yn gapel eto, gyda John Hughes a'i wraig Ruth yn byw yn y tŷ. Gelwir y capel hwn yn Hen Gapel John Hughes, ac ailagorwyd y drysau yn 1995 fel 'Canolfan Undod ac adnewyddiad Cristnogol i'r genedl'.

Adeiladwyd Capel Newydd Pontrobert, a elwir hefyd yn Capel uchaf, yn 1865 ac fe'i sefydlwyd yn yr un flwyddyn. Fe gostiodd dros £500 i'w adeiladu, ac fe gliriwyd y rhan fwyaf o'r ddyled trwy gynnal casgliad cyffredinol trwy Sir Drefaldwyn.

Canlyniadau 661 i 680 o 2971