Showing 2974 results

Authority record

Bebb, Edward Hughes, d. 1902

  • Person

Ganwyd Edward Hughes Bebb (marw 1902) yng Nghricklas, Swyddffynnon, cyn symud yn ddiweddarach i Flaendyffryn, Goginan, y ddau le yng Ngheredigion. Yn 1887, teithiodd Edward o gwmpas America, gan nodi ei brofiadau mewn dyddiadur. Roedd yn briod ag Anne a chawsant o leiaf un plentyn, W. Ambrose Bebb (1894-1955), yr hanesydd, llenor a gwleidydd. Tua 1896 symudodd Edward a'i deulu i'r Camer Fawr, ger Tregaron, Ceredigion, lle bu farw Edward yn 1902. Arhosodd brawd iau Edward, William Breeze Bebb, ym Mlaendyffryn; priododd ei ŵyr, Aled Bebb, â Bethan; ymchwiliodd Bethan Bebb i hanes y teulu trwy ddefnyddio y dyddiaduron.

Bennett, Elinor, 1943-

  • nr 94039225 |z no2011188144

Ganwyd Elinor Bennett ar 17 Ebrill 1943 yn Ysbyty Llanidloes i Emrys Bennett Owen a’i wraig Hannah. Symudodd y teulu i Lanuwchllyn pan oedd hi’n chwech mlwydd oed. Dechreuodd gael gwersi telyn gan Alwena Roberts pan oedd yn ddeg mlwydd oed. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth gan raddio yn 1963 a symud i Lundain. Enillodd ysgoloriaeth i astudio gydag Osian Ellis yn yr Academi Frenhinol. Priododd Dafydd Wigley ar 26 Awst yn 1967.

Mae Elinor Bennett wedi cynnal cyrsiau telyn er 1978 ac wedi arwain Gŵyl Delynau Rhyngwladol Caernarfon er 2008. Bu’n ganolog i’r gwaith o sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon yn 1999 lle bu’n Gyfarwyddwraig Artistig, 2003-2008.

Bu hefyd yn perfformio gyda cherddorfeydd a grwpiau siambr blaenllaw ac mewn cyngherddau i glybiau cerdd. Bu’n Gyfarwyddwraig artistig i Ŵyl Cricieth ganol y nawdegau. Bu’n perfformio deuawdau gyda’r delynores Meinir Heulyn a gyda’r ffliwtydd Judith Hall.

Cafodd ei gwahodd i fod yn aelod o’r panel a fyddai’n dewis cynllun i adeilad y Cynulliad yn 1998.

Cyhoeddwyd ei hunangofiant Tannau tynion yn 2011.

Berea (Church : Bangor, Wales)

  • Corporate body

Cychwynnwyd yr achos yn yr ardal ym 1857 ac agorwyd drysau capel Berea, Glanadda, ym 1860 ar draul o £300. Roedd eisteddleoedd ar gyfer 200 o bobl o fewn y capel gwreiddiol. Ailadeiladwyd y capel ym 1881 gydag eisteddleoedd ar gyfer 300. Parhaodd y ddyled a gododd yn sgîl yr ailadeiladu tan y flwyddyn 1900. Yn fuan datblygodd achos cenhadol pwysig mewn cysylltiad â'r capel. Daeth i chwarae ran ganolog ym mywyd yr ardal a'r plwyf drwy gydol yr ugeinfed ganrif. Caeodd ei drysau am y tro olaf yn 2002 a dymchwelwyd y capel yng Ngorffennaf yr un flwyddyn.

Berry, R. G. (Robert Griffith), 1869-1945

  • Person

Gweinidog, llenor a dramodydd oedd Robert Griffith Berry. Fe'i ganed yn 1869 yn Llanrwst. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac i Goleg Bala-Bangor cyn mynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr yng Ngwaelod-y-garth, Morgannwg. Ysgrifennodd nifer fawr o ddramâu ar gyfer eu perfformio gan gwmnïau drama amatur capeli. Bu hefyd yn ysgrifennu straeon byrion. Bu farw yn 1945.

Results 81 to 100 of 2974