Showing 2971 results

Authority record

Davies, Alun Eirug, 1932-

  • nb 98072986
  • Person

Ganwyd Alun Marles Eirug Davies yn 1932 yn Llanbedr Pont Steffan, y chweched o wyth o blant y Parch T. Eirug Davies a’i wraig Jennie. Mynychodd Ysgol Sir Tregaron. Graddiodd mewn hanes o Brifysgol Aberystwyth yn 1954. Enillodd ddiploma mewn llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol Llundain yn 1960. Yr oedd yn Ddirprwy Lyfrgellydd yn Llyfrgell y Brifysgol yn Aberystwyth gan ymddeol yn 1997 ar ôl 36 mlynedd o wasanaeth.

Priododd Lyn [Eluned] Jones ar 28 Mawrth 1966. Ganwyd dau fab iddynt. Golygodd nifer o lyfrau yn cynnwys gweithiau ei Dad. Cyhoeddwyd Traethodau ymchwil Cymraeg a Chymreig a dderbyniwyd gan Brifysgolion Prydeinig, Americanaidd ac Almaenaidd, 1887-1971 (Caerdydd, 1976) sef rhestr a gasglwyd ganddo. Ef hefyd oedd awdur y gyfrol Papermaking in Wales 1658 - 2000 (Aberystwyth, 2010). Bu Alun Eirug Davies farw ar 21 mis Awst 2019 wedi cystudd byr.

Jones, Dewi Stephen, 1940-

  • nb2005012672

Yr oedd Dewi Stephen Jones yn fardd a beirniad a oedd yn hanu o’r Ponciau, Rhosllannerchrugog, ac yn fab i Stephen a Lottie Jones. Ganwyd ef yn 1940. Enillodd Wobr Griffith John Williams yn 1995 am ei gyfrol o farddoniaeth Hen ddawns (1993). Lluniodd ddwy astudiaeth ar farddoniaeth Bobi Jones yn y gyfres Llên y Llenor ac roedd yn cyfrannu’n gyson i gylchgrawn Barddas ac eraill. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o farddoniaeth Ffynhonau uchel yn 2012. Bu farw ar 14 Ionawr 2019.

Rees, W. T. (William Thomas), 1838-1904

  • no2004041605
  • Person

Roedd 'Alaw Ddu', William Thomas Rees (1838-1904), yn gyfansoddwr a aned ym Mhwll-y-glaw, Pont-rhyd-y-fen, Morgannwg. Yn 1851 symudodd i Aberdâr lle y gweithiodd fel glöwr. Yno daeth dan ddylanwad 'Ieuan Gwyllt' (John Roberts) a cherddorion eraill y cyfnod. Yn 1861 symudodd i Dinas, Cwm Rhondda, lle y cyfansoddodd y dôn 'Glanrhonddda'. Yn 1870 symudodd i Lanelli, sir Gaerfyrddin. Arweiniodd gymanfaoedd canu a beirniadu mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru, ac roedd yn godwr canu mewn sawl capel, yn cynnwys Trinity, Llanelli. Ffurfiodd y Llanelli Philharmonic Society a golygu ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer nifer o gylchgronau cerddorol diwedd y 19eg ganrif. Yn ogystal â'r darnau sydd yn yr archif, ysgrifennodd yr alawganau 'Llywelyn ein Llyw Olaf'; a 'Y Bugail Da' a phedwar Offeren dros y meirw. Bu farw ar 19 Mawrth 1904 a chladdwyd ef ym Mynwent Capel Newydd, Llanelli.

Results 81 to 100 of 2971