Showing 2971 results

Authority record

Bowen, David, 1874-1955

  • no2009179523
  • Person

Gweinidog, bardd a golygydd oedd David Bowen, 'Myfyr Hefin', a aned ym 1874 yn Nhreorci, Rhondda. Fe'i addysgwyd yn ysgol fwrdd Treorci, ysgol golegol Pontypridd, a Choleg Prifysgol Cymru Caerdydd. Bu'n gweithio ym mhwll glo Tyn-y-Bedw a dechreuodd bregethu yn ystod diwygiad 1904, gan dderbyn ei alwad gyntaf i gapel Bedyddwyr Bethel, Capel Isel, ger Aberhonddu ym 1909. Ym 1913 symudodd i gapel Horeb, Pump-Hewl ger Llanelli.
Yn ystod ei fywyd bu'n weithgar iawn gyda nifer o gymdeithasau gan gynnwys Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru ac Undeb y Cymdeithasau Cymreig. Sefydlodd Urdd y Seren Fore yn 1929 a bu'n olygydd ar gyfnodolyn yr Urdd, sef Seren yr Ysgol Sul. Bu hefyd yn golygu colofn Gymraeg y Llanelli Mercury, 1936-1945, ac yno cyhoeddwyd llawer o'i weithiau llenyddol. Cyhoeddodd David Bowen hefyd nifer o gyfrolau gan gynnwys Oriau Hefin, 1902, Cerddi Brycheiniog, 1912 a Salmau'r Plant, 1920. Enillodd dair cadair ar ddeg mewn eisteddfodau lleol yn bennaf, gan gynnwys cadair eisteddfod y myfyrwyr yng Nghaerdydd, 1909. Bu hefyd yn beirniadu mewn eisteddfodau lleol a chadwodd gopïau o weithiau nifer o'r cystadleuwyr.
Yn ogystal â chyhoeddi ei waith ei hun, bu David Bowen yn ddiwyd yn golygu a chasglu ynghyd ddeunydd yn ymwneud â'i frawd, Ben Bowen, ac eraill gan gynnwys Ioan Emlyn, Mathetes a Timothy Richard. Ymddangosodd ei erthyglau mewn cylchgronau amrywiol ac mewn cyfresi megis Cyfres y Bedyddwyr Ieuanc a Chyfres Cedyrn Canrif a gyd-olygwyd ganddo. Yr oedd hefyd yn gasglwr brwd o doriadau papur newydd yn ymwneud â gwaith Ben Bowen, ei waith ei hun ac amrywiol destunau.
Bu'n briod ddwywaith a chafodd dair merch, Myfanwy, Rhiannon ac Enid. Ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1939 a bu farw yn 1955.

Bowen, Zonia

  • n 78011758
  • Person
  • 1926-

Ganwyd Zonia M. Bowen yn Norfolk a'i magu yn Swydd Efrog ac fe ddysgodd Cymraeg wedi iddi symud i Gymru i fyw. Bu'n ffigwr blaenllaw yn hanes sefydlu Merched y Wawr ac yn weithgar fel yr Ysgrifennydd Cenedlaethol cyntaf, 1967-1970, golygydd Y Wawr, 1968-1975, ac fel Llywydd Anrhydeddus hyd nes iddi ymddiswyddo yn 1975 yn dilyn dadl rhyngddi hi ac aelodau eraill ynglŷn â lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol y Mudiad.
Sefydlwyd Merched y Wawr yn Y Parc, ger Y Bala, ym mis Mai 1967 yn dilyn anghydfod ynglŷn â'r iaith rhwng Sefydliad y Merched Y Parc a swyddogion sirol y Sefydliad yn Rhagfyr 1966. Er bod aelodau cangen Y Parc yn cynnal eu cyfarfodydd a'u gweithgareddau oll drwy'r Gymraeg, yr oedd disgwyl i holl ddogfennau'r Sefydliad fod yn y Saesneg. Codwyd y mater gan Zonia M. Bowen, Ysgrifennydd y Sefydliad ar y pryd, ond gwrthododd swyddogion sirol y Sefydliad wrando ar ei chwynion. Yn y diwedd, er nad oeddynt wedi bwriadu ar hyn yn wreiddiol, torrodd aelodau Y Parc i ffwrdd o Sefydliad y Merched gan benderfynu parhau i gwrdd bob mis yn annibynnol.
Wedi ychydig fisoedd, awgrymodd Zonia M. Bowen wrth aelodau Y Parc y dylid cychwyn mudiad newydd i ferched Cymru oedd yn rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg. Y bwriad oedd dechrau'r ymgyrch yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ond, wedi i'r wasg adrodd y stori, fe sefydlwyd cangen gyntaf Merched y Wawr yn Y Parc ym mis Mai 1967. O fewn wythnos yr oedd cangen arall wedi'i sefydlu yn Y Ganllwyd, ger Dolgellau, a chynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf ar faes yr Eisteddfod yn Y Bala ychydig yn ddiweddarach.

Results 121 to 140 of 2971