Showing 2971 results

Authority record

Bowen, David, 1874-1955

  • no2009179523
  • Person

Gweinidog, bardd a golygydd oedd David Bowen, 'Myfyr Hefin', a aned ym 1874 yn Nhreorci, Rhondda. Fe'i addysgwyd yn ysgol fwrdd Treorci, ysgol golegol Pontypridd, a Choleg Prifysgol Cymru Caerdydd. Bu'n gweithio ym mhwll glo Tyn-y-Bedw a dechreuodd bregethu yn ystod diwygiad 1904, gan dderbyn ei alwad gyntaf i gapel Bedyddwyr Bethel, Capel Isel, ger Aberhonddu ym 1909. Ym 1913 symudodd i gapel Horeb, Pump-Hewl ger Llanelli.
Yn ystod ei fywyd bu'n weithgar iawn gyda nifer o gymdeithasau gan gynnwys Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru ac Undeb y Cymdeithasau Cymreig. Sefydlodd Urdd y Seren Fore yn 1929 a bu'n olygydd ar gyfnodolyn yr Urdd, sef Seren yr Ysgol Sul. Bu hefyd yn golygu colofn Gymraeg y Llanelli Mercury, 1936-1945, ac yno cyhoeddwyd llawer o'i weithiau llenyddol. Cyhoeddodd David Bowen hefyd nifer o gyfrolau gan gynnwys Oriau Hefin, 1902, Cerddi Brycheiniog, 1912 a Salmau'r Plant, 1920. Enillodd dair cadair ar ddeg mewn eisteddfodau lleol yn bennaf, gan gynnwys cadair eisteddfod y myfyrwyr yng Nghaerdydd, 1909. Bu hefyd yn beirniadu mewn eisteddfodau lleol a chadwodd gopïau o weithiau nifer o'r cystadleuwyr.
Yn ogystal â chyhoeddi ei waith ei hun, bu David Bowen yn ddiwyd yn golygu a chasglu ynghyd ddeunydd yn ymwneud â'i frawd, Ben Bowen, ac eraill gan gynnwys Ioan Emlyn, Mathetes a Timothy Richard. Ymddangosodd ei erthyglau mewn cylchgronau amrywiol ac mewn cyfresi megis Cyfres y Bedyddwyr Ieuanc a Chyfres Cedyrn Canrif a gyd-olygwyd ganddo. Yr oedd hefyd yn gasglwr brwd o doriadau papur newydd yn ymwneud â gwaith Ben Bowen, ei waith ei hun ac amrywiol destunau.
Bu'n briod ddwywaith a chafodd dair merch, Myfanwy, Rhiannon ac Enid. Ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1939 a bu farw yn 1955.

Bennett, Elinor, 1943-

  • nr 94039225 |z no2011188144

Ganwyd Elinor Bennett ar 17 Ebrill 1943 yn Ysbyty Llanidloes i Emrys Bennett Owen a’i wraig Hannah. Symudodd y teulu i Lanuwchllyn pan oedd hi’n chwech mlwydd oed. Dechreuodd gael gwersi telyn gan Alwena Roberts pan oedd yn ddeg mlwydd oed. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth gan raddio yn 1963 a symud i Lundain. Enillodd ysgoloriaeth i astudio gydag Osian Ellis yn yr Academi Frenhinol. Priododd Dafydd Wigley ar 26 Awst yn 1967.

Mae Elinor Bennett wedi cynnal cyrsiau telyn er 1978 ac wedi arwain Gŵyl Delynau Rhyngwladol Caernarfon er 2008. Bu’n ganolog i’r gwaith o sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon yn 1999 lle bu’n Gyfarwyddwraig Artistig, 2003-2008.

Bu hefyd yn perfformio gyda cherddorfeydd a grwpiau siambr blaenllaw ac mewn cyngherddau i glybiau cerdd. Bu’n Gyfarwyddwraig artistig i Ŵyl Cricieth ganol y nawdegau. Bu’n perfformio deuawdau gyda’r delynores Meinir Heulyn a gyda’r ffliwtydd Judith Hall.

Cafodd ei gwahodd i fod yn aelod o’r panel a fyddai’n dewis cynllun i adeilad y Cynulliad yn 1998.

Cyhoeddwyd ei hunangofiant Tannau tynion yn 2011.

BBC Wales

  • nr 95042808
  • Corporate body
  • 1923-

Sefydlwyd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (sydd yn fwy adnabyddus fel y BBC), gyda'i chanolfan yn Broadcasting House, Portland Square, Llundain, trwy Siarter Frenhinol yn 1927, gydag awdurdod i ddarparu gwybodaeth, i addysgu ac i ddiddanu ei chynulleidfa ar draws nifer fawr o feysydd yn cynnwys materion cyfoes, y celfyddydau a diwylliant, addysg, crefydd a chwaraeon. Derbyniodd ei rhagflaenydd, y Cwmni Darlledu Prydeinig, ei drwydded i ddarlledu yn 1923, a dechreuodd y gwasanaeth darlledu cyhoeddus yng Nghymru yr un flwyddyn pan agorwyd gorsaf radio yng Nghaerdydd, gan ddarparu rhaglenni yn y Gymraeg a Saesneg. Derbyniodd Rhanbarth Cymru y BBC ei thonfedd arbennig ei hun ar gyfer darllediadau sain ym 1937, a rhoddwyd tonfedd arall ar wahân iddi ym 1964 ar gyfer darllediadau teledol; adnabyddir y Rhanbarth Cymreig yn BBC Wales ers hynny. Cafodd rhaglenni Cymraeg eu darlledu gyntaf ar y teledu yn 1953, a darlledir darpariaeth ddyddiol ers 1957; mae'r sianel Gymraeg yn cael ei hadnabod fel BBC Cymru. Bu'r gorsafoedd radio Saesneg a Chymraeg (Radio Wales a Radio Cymru) yn unedau ar wahân ers 1977. Erbyn hyn, adnabyddir y BBC yng Nghymru yn ei chyfanrwydd - yn cynnwys BBC Wales, BBC Cymru, Radio Wales a Radio Cymru - fel BBC Cymru Wales hefyd.

Ceiriog Jones, Huw

  • nr 97022127
  • Person
  • [blodeuo 1969-2023]

Ers 1969 mae Huw Ceiriog Jones wedi bod yn berchennog ar nifer o weisg Cymraeg yn cynnwys Gwasg Llety Gwyn, Gwasg yr Arad Goch, Gwasg y Wern a Gwasg Nant y Mynydd.

Selwood, Nansi

  • nr 97041183
  • Person

Yr oedd Nansi Selwood yn athrawes, ffermwraig, hanesydd lleol ac awdures nifer o nofelau hanesyddol. Fe’i ganwyd yn Annie Roderick Williams ar 8 Tachwedd 1921 yn Fferm Trebannog Isa, Penderyn, Rhigos, ac wedyn symudodd y teulu i Hirwaun. Bu’n astudio hanes ym Mhrifysgol Caerdydd a bu’n athrawes Gymraeg a Hanes yn ysgolion uwchradd Cathays, Caerdydd, a Phwllheli. Priododd Jack Selwood yn 1948. Cyfieithiwyd ei nofel Brychan dir (1987) i’r Saesneg gan ei gŵr Jack, The land of Brychan, yn 1994, a’r nofel i blant Dan Faner Dafydd Gam (1991) ganddo i Beneath the banner of Dafydd Gam (1992). Dyfarnwyd iddi Wobr Griffith John Williams 1987 am ei nofel Brychan dir. Lluniodd gyfrol am hanes Cwm Cynon sef A history of the villages of Hirwaun and Rhigos yn 1997. Dysgodd ddarllen braille yn ei hwythdegau. Bu Nansi Selwood farw ar 18 Chwefror 2017 mewn cartref gofal yn Nhrecynon, Aberdâr.

Results 121 to 140 of 2971