Dangos 38967 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Person

Amanwy, 1882-1953

  • Person

Roedd 'Amanwy', sef David Rees Griffiths (1882-1953) o'r Betws, Rhydaman, sir Gaerfyrddin, yn fardd, yn awdur ac yn ddarlledwr. Cafodd ei eni yn y Betws ar 6 Tachwedd 1882, ac roedd yn frawd hŷn i James Griffiths (1897-1975), yr AS dros Lanelli ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Gadawodd yr ysgol yn 12 mlwydd oed, a bu'n gweithio ym Mhantyffynnon a gweithfeydd glo eraill yn ardal Rhydaman. Oherwydd salwch, gadawodd y gwaith glo yn 1927, a chymryd swydd gofalwr Ysgol y Sir yn Rhydaman. Yn 1907, wrth wella ar ôl damwain ddifrifol yn y pwll, dechreuodd ymddiddori mewn llenyddiaeth, yn enwedig gwaith John Milton a Thomas Hardy. Dechreuodd ysgrifennu a chystadlu mewn eisteddfodau lleol a'r genedlaethol, gan ennill i gyd tua 80 cadair a sawl coron. Bu hefyd yn feirniad eisteddfodol cyson. Cyfrannodd golofnau cyson i'r Amman Valley Chronicle a Y Cymro ac ysgrifennodd hefyd i adran Radio y BBC, a bu ef ei hun yn ddarlledwr. Tua'r flwyddyn 1950 ymddangosodd yn David, ffilm a seiliwyd ar ei fywyd. Cyhoeddwyd casgliad o waith Amanwy dan y teitl Ambell Gainc (Rhydaman, 1919), ac ef oedd golygydd O lwch y lofa (Rhydaman, 1924), sef casgliad o waith chwech o lowyr sir Gaerfyrddin. Cyhoeddwyd cyfrol bellach, Caneuon Amanwy (Llandysul, 1956) ar ôl ei farw. Roedd gan Amanwy bedwar o blant o'i ddwy briodas; Gwilym, Ieuan, Menna a Mallt. Bu farw yn Ysbyty Middlesex, Llundain, ar 27 Rhagfyr 1953 a'i gladdu yng Nghapel Gellimanwydd. Rhydaman.

Anthropos, 1853?-1944.

  • Person

Roedd 'Anthropos', y Parch. Robert David Rowland ([1953]-1944), yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn fardd ac yn llenor. Cafodd ei fagu yn Nhyn-y-cefn, ger Corwen, sir Feirionnydd. Dechreuodd bregethu yn 1873 a chofrestru yng Ngholeg y Bala yn 1874. Tra'r oedd yn y Bala bu'n athro yn yr ysgol leol a chyhoeddodd gyfrol o gerddi, Y Blodeuglwm (Bala, 1878). Symudodd i Gaernarfon lle bu'n newyddiadurwr, gan weithio ar Yr Herald Gymraeg, Amseroedd ac Y Genedl Gymreig, y bu'n olygydd arni o 1881 i 1884. Ordeiniwyd ef yn 1887, a chael ei alw yn weinidog Capel Beulah yng Nghaernarfon yn 1890, lle yr arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1933. Parhaodd i ysgrifennu'n doreithiog, yn cyhoeddi cyfrolau o gasgliadau o gerddi, storiâu a thraethodau. Ymysg y pwysicaf ohonynt ceir Y Ffenestri Aur (Dinbych, 1907) a Y Pentref Gwyn (Wrecsam, 1909) lle rhydd atgofion am ei blentyndod. Bu hefyd yn olygydd Trysorfa'r Plant o 1912 i 1932 ac ysgrifennai i Baner, 1904-1914, yr Herald ac amryw o gyfnodolion eraill. Bu farw yng Nghaernarfon ar 12 Tachwedd 1944. Ymhlith ei gydnabod yr oedd Lewis William Lewis ('Llew Llwyfo', 1831-1901), bardd, newyddiadurwr, nofelydd a chanwr o Ben-sarn, sir Fôn, a weithiodd ar lawer o'r un cyfnodolion ag Anthropos.

Canlyniadau 1 i 20 o 38967