Dangos 58022 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Bethania (Church : Aberdare, Wales).

  • Corporate body

Dechreuwyd adeiladu Capel Bethania, Aberdâr, yn 1853. Roedd cant o aelodau yn bresennol yn yr agoriad ym mis Ebrill 1854. Ym mis Gorffennaf 1885 ail-agorwyd Capel Bethania wedi cyfnod o ymestyn ac adnewyddu'r adeilad. Caewyd y Capel yn y 1990au cynnar.

Bethania (Church : Bargoed, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd Eglwys Bresbyteraidd Cymru Bethania, Bargoed yn 1876. Fe adeiladwyd yr Eglwys yn 1879.

Bethel Chapel (Talsarnau, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd yr achos ym Methel, Talsarnau, ym mhlwyf Llanfihangel-y-traethau, Sir Feirionnydd, yn 1797. Yr oedd tair cangen i'r eglwys - Yr Ynys a godwyd yn 1868, Bryntecwyn yn 1902 a Peniel yn 1903. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1812 a'r ail yn 1865. Ychwanegwyd galeri yn 1887.

Bu Bethel yn rhan o Ddosbarth y Dyffryn yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd tan y caewyd y capel yn [1980], a chysegrwyd Yr Ynys fel eglwys yn dilyn hyn. Datgorfforwyd Capel Yr Ynys yn 1986. Erys Capel Bryntecwyn, Llandecwyn, ar agor.

Canlyniadau 101 i 120 o 58022