Showing 2971 results

Authority record

Davies, T. J. (Thomas James)

  • n 85096017
  • Person
  • 1919-2007

Roedd y Parch. Dr Thomas James Davies (1919-2007) yn weinidog ac yn awdur. Fe'i ganed yn Llanfihangel-y-Creuddyn ar 12 Rhagfyr 1919, ac ar ôl cyfnod fel ffermwr aeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn ddiweddarach yr Annibynwyr. Ymhlith ei waith cyhoeddedig mae Dilyn David Livingstone (Llandybie, 1974), Nabod Bro a Brodorion (Abertawe, 1975), Ieuan Gwyllt (Llandysul, 1977), Pencawna (Abertawe, 1979), Paul Robeson (Abertawe, 1981) a Iechyd Da (Llandysul, 1983); ysgrifennai hefyd y golofn 'O Ben Dinas' yn y Cambrian News. Wedi iddo symyd i Gaerdydd daeth yn ysgrifennydd cyffredinol y Cyngor Unedig ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ac yn weinidog ar Eglwys Annibynnol Bethlehem, Gwaelod y Garth. By farw yng Nghaerdydd ar 30 Mehefin 2007.

Williams, J. E. Caerwyn (John Ellis Caerwyn)

  • n 80149567
  • Person
  • 1912-1999

Roedd yr Athro J. E. Caerwyn Williams (1912-1999) yn un o brif ysgolheigion Cymraeg a Cheltaidd yr ugeinfed ganrif.

Fe'i ganwyd yng Ngwauncaegurwen, Morgannwg, 17 Ionawr 1912, yr hynaf o dri phlentyn John R. a Maria Williams. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Ystalyfera, Coleg y Brifysgol, Bangor, Coleg y Brifysgol a Choleg y Drindod, Dulyn, a Cholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala. Ymunodd â staff Adran y Gymraeg, Bangor, yn 1945, a'r flwyddyn ganlynol fe'i priodwyd â Gwen Watkins o Abertridwr. Fe'i penodwyd yn Athro'r Gymraeg ym Mangor yn 1953. Yn 1965 symudodd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i fod yn Athro cyntaf yr Wyddeleg ym Mhrifysgol Cymru. Cafodd radd D.Litt.Celt.Er Anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon yn 1967 a Phrifysgol Cymru yn 1983, a'i ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1978 ac yn Aelod Mygedol o Academi Frenhinol Iwerddon yn 1989. Fe'i etholwyd yn Llywydd yr Academi Gymreig yn 1988. Ar ôl ymddeol yn 1979 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Arhosodd yn y swydd honno tan 1985. Bu farw 8 Mehefin 1999.

Yr oedd yn awdurdod ar y gwareiddiad Celtaidd ac ysgrifennodd yn helaeth am draddodiadau llenyddol Cymru ac Iwerddon. Ymhlith ei brif gyfraniadau fel ysgolhaig Cymraeg mae ei astudiaethau ar y Gogynfeirdd a llenyddiaeth grefyddol yr Oesoedd Canol, gan gynnwys Beirdd y Tywysogion (1973), Canu Crefyddol y Gogynfeirdd (1977) a The Poets of the Welsh Princes (1978). Ysgrifennodd hefyd ar lenyddiaeth mwy diweddar Cymru, gan gynnwys ei astudiaethau o waith Edward Jones, Maes-y-Plwm, geiriadurwyr Cymraeg cyfnod y Dadeni, John Morris-Jones a'i gylch, ac amryw o'r prif lenorion cyfoes, megis Syr T. H. Parry-Williams, Waldo Williams a Saunders Lewis. Fel ysgolhaig Gwyddeleg ei brif gyfraniadau oedd Traddodiad Llenyddol Iwerddon (1958), Y Storïwr Gwyddeleg a'i Chwedlau (1972) a The Court Poet in Medieval Ireland (1972). Roedd yn gyd-awdur The Irish Literary Tradition (1992). Cyhoeddodd gyfieithiadau o storïau Gwyddeleg a Llydaweg, ynghyd ag astudiaethau ieithyddol ar yr ieithoedd hyn a'r Gymraeg. Yn ogystal â golygu cyfrolau fel Llên a Llafar Môn (1963), Llên Doe a Heddiw (1964) a Literature in Celtic Countries (1971), bu'n olygydd Y Traethodydd ac Ysgifau Beirniadol o 1965 ymlaen, Studia Celtica o 1966 a chyfres Llên y Llenor o 1983. Bu'n olygydd ymgynghorol Geiriadur Prifysgol Cymru er 1968, ac yn olygydd Llyfryddiaeth yr Iaith Gymraeg (1988) a Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (1994).

Results 41 to 60 of 2971