Fonds GB 0210 DILYS - Archif Gerddorol Dilys Elwyn-Edwards

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 DILYS

Teitl

Archif Gerddorol Dilys Elwyn-Edwards

Dyddiad(au)

  • [1935]-[2005] (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

2 focs, 1 waled

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd Dilys Elwyn-Edwards (1918-2012) yn gyfansoddwraig. Ganwyd Dilys Roberts yn Nolgellau a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Dr Williams i Ferched yn y dref. Enillodd radd BMus yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Yno y dechreuodd gyfansoddi a darlledwyd ei chaneuon gan y BBC. Ei gwaith enwocaf yw Mae hiraeth yn y môr a gomisiynwyd gan y BBC yn 1961. Bu’n fyfyrwraig yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ar ôl ennill ysgoloriaeth agored mewn cyfansoddi gan astudio gyda Herbert Howells .

Priododd â David Elwyn Edwards 3 Medi 1947. Bu farw Dilys Elwyn-Edwards ar 13 Ionawr 2012 mewn cartref gofal yn Llanberis yn 93 mlwydd oed.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Rhodd gan Mr Geraint Lewis, Caerdydd, Mawrth 2015, 006835672

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Llawysgrifau cerddorol y gyfansoddwraig Dilys Elwyn-Edwards, gan gynnwys portffolio o’i gwaith a gyflwynodd fel ymgeisydd am Ysgoloriaeth Gerddoriaeth Turle i Goleg Girton, Caergrawnt; llawysgrifau o ganeuon heb eu cyhoeddi; trefniannau; llawysgrifau Caneuon y Tri Aderyn, [1961] a’r offeren fer Missa Brevis, [1994]. = Musical manuscripts of the composer Dilys Elwyn-Edwards, including a portfolio of her work presented as a candidate for the Turle Music Scholarship, Girton College, Cambridge; manuscripts of unpublished songs; arrangements; manuscripts of Caneuon y Tri Aderyn, [1961] and the short mass Missa Brevis, [1994].

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Trefnwyd yn bedair cyfres yn LlGC: cerddoriaeth wreiddiol heb ei chyhoeddi, llawysgrifau caneuon, gyda fersiynau cyhoeddedig, llungopïau o ganeuon, heb lawysgrifau a chaneuon printiedig, heb lawysgrifau.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 1998 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library. = Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Mae'r hawlfraint yn eiddo i Mr Geraint Lewis, Caerdydd, Mehefin 2016.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Trosglwyddwyd dyblygion o'r casgliad hwn i Tŷ Cerdd, trwy ganiatâd y rhoddwr, 13 Mehefin 2016.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Alma system control number

99383084202419

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mawrth 2016

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Ann Francis Evans. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein a theyrnged Geraint Lewis iddi yn Barn, Mawrth 2012.

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig