Fonds GB 0210 URDD - Archifau Urdd Gobaith Cymru

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 URDD

Teitl

Archifau Urdd Gobaith Cymru

Dyddiad(au)

  • 1910-1996 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

2.899 metrau ciwbig (199 bocs, 70 cyfrol, 55 ffeil, 2 ffolder)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Mudiad i blant a phobl ifanc yw Urdd Gobaith Cymru, sydd yn trefnu gwahanol weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda'r bwriad o feithrin y Gymraeg a diwylliant Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1922, yn dilyn lansio apêl gan Ifan ab Owen Edwards, y golygydd, (1895-1970) yn Cymru'r Plant. Erbyn diwedd y flwyddyn honno roedd gan yr Urdd 720 o aelodau, gan gynyddu i dros 5000 erbyn 1927. Trefnwyd yr aelodau lleol yn adrannau ac aelwydydd, a sefydlwyd yr adran gyntaf yn Nhreuddyn, sir y Fflint, yn 1922. Erbyn 1927 yr oedd dros 80 o adrannau. Mae gan yr Urdd 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed yn awr. Ar y cychwyn gweinyddwyd y cyfan gan Edwards a'i wraig, ac yn 1932 datblygodd yr Urdd yn Gwmni Urdd Gobaith Cymru [Corfforedig] gyda chyhoeddi ei Memorandwm ac Erthyglau Cwmni y flwyddyn honno. Trefnodd yr Urdd ei gwersyll haf gyntaf yn 1928 yn Llanuwchllyn, sir Feirionnydd. Dilynwyd hyn yn 1932 gan sefydlu canolfan breswyl barhaol yn Llangrannog. Ceredigion. Ychwanegwyd ati gan Lan-llyn ar lannau Llyn Tegid, sir Feirionnydd, yn 1950. O 1932 ymlaen trefnodd yr Urdd gystadlaethau chwaraeon, y cyntaf yn Llanelli. Trefnodd yr Urdd fordeithiau hefyd rhwng 1933 a 1939, y cyntaf yn cludo 500 o aelodau i Sgandinafia. Ers 1925 y mae'r Urdd wedi darlledu Neges Heddwch ac Ewyllys Da oddi wrth Ieuenctid Cymru at Ieuenctid y Byd bob blwyddyn. Datblygiad pwysig a noddwyd gan yr Urdd oedd agor yr Ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Lluest, Aberystwyth, yn 1939, gyda saith disgybl. Erbyn 1945 yr oedd gan yr ysgol 85 o ddisgyblion a phedwar athro. Mae'r Urdd wedi cynhyrchu amryw o gylchgronau a chyfnodolion dros y blynyddoedd. Yn ogystal â Cymru'r Plant, oedd yn dal yn boblogaidd, yr oedd Cymraeg(1954) yn gylchgrawn i ddysgwyr a Cymru (1957) ar gyfer aelodau hŷn. Yn 2003 roedd tri chylchgrawn: Cip, ychwanegiad i Cymru'r Plant, Bore Da a IAW! i ddysgwyr. Efallai mai cyfraniad mwyaf arwyddocaol y mudiad i fywyd yng Nghymru yw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yng Nghorwen, Meirionnydd, yn 1929. Oddi ar hynny fe'i cynhaliwyd yn flynyddol, mewn lleoliad yn ne a gogledd Cymru bob yn ail, ac mae'n parhau am chwe diwrnod erbyn hyn (2003). Yn ogystal, rhagflaenir yr Eisteddfod Genedlaethol gan eisteddfodau lleol a rhanbarthol i ddewis y cystadleuwyr terfynol. Parhaodd ymlyniad cadarn Ifan ab Owen Edwards â'r Urdd tan ei farwolaeth yn 1970.Yn 1948 ymddeolodd o'i waith fel darlithydd i roi ei amser yn llwyr i'. Ffigwr arall pwysig yn y dyddiau cynnar oedd R. E. Griffith (1911-1975) a ymunodd â'r Urdd fel Trefnydd yn 1932, chael ei ddyrchafu yn Brif Drefnydd yn 1935 a'i apwyntio yn Gyfarwyddwr yn 1959. Ymddeolodd c. 1972. W. J. Williams oedd trysorydd cyntaf y Cwmni yn 1932.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Urdd Gobaith Cymru; Rhodd; 1989, 1997.
Urdd Gobaith Cymru; Adnau; 1958, 1973.
Mr Cynfal Roberts; Rhodd; 1965-1970.
Mr William Williams; Aberystwyth; Rhodd.
Mr Elvey MacDonald; Rhodd; 1994.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Cofnodion Urdd Gobaith Cymru, yn cynnwys papurau gweinyddol, yn eu plith adroddiadau a gohebiaeth, 1931-1990; cofnodion Pwyllgor, is-bwyllgorau a phaneli yr Urdd, 1939-1995, cofnodion ariannol, 1931-1996l, papurau yn ymwneud â theithiau tramor a drefnwyd gan Urdd Gobaith Cymru a Negeseuon Heddwch ac Ewyllys Da, 1931-1984; cofnodion, dogfennaeth ariannol ac arall perthynol i Gronfa Goffa O.M. Edwards, 1928-1976; papurau yn ymwneud â changhennau (adrannau ac aelwydydd), 1938-1960; gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â chyrsiau a drefnwyd gan yr Urdd,1948-1965, a phapurau eraill yn ymwneud â'r cylchgronau, 1948-1990; trefniadau ar gyfer gwahanol wyliau, 1936-1995; cofnodion gweinyddol ac ariannol yn ymwneud â'r gwersylloedd yn Llangrannog a Glanllyn,1940-1995; deunydd printiedig, 1932-1963; llythyrau at O.M. Edwards, 1910-1920; cofnodion yn ymwneud â'r Cyngor, 1972-1991, a Chwmni yr Urdd, 1972-1989; cofnodion yn ymwneud ag aelodau staff, 1975-1995; gohebiaeth a thaflenni yn ymwneud ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd,1930-1965; papurau yn ymwneud â Maes yr Eisteddfod, 1972-1985, seremonïau yr Eisteddfod, 1952-1982, sioeau'r theatr, 1981-1991, a chystadlaethau; a chofnodion yn ymwneud â threfnu pob un o'r Eisteddfodau Cenedlaethol, 1946-1996 = Records of Urdd Gobaith Cymru, comrpising general administrative papers, including reports and correspondence, 1931-1990; records of Urdd Committee, sub-committees and panels, 1939-1995; financial records, 1931-1996; papers relating to overseas trips organized by Urdd Gobaith Cymru and international meetings, 1931-1962; papers relating to the Messages of Peace and Goodwill, 1931-1984; minutes, financial and other records of the O. M. Edwards Memorial Fund, 1928-1976; papers relating to the Welsh School, Aberystwyth, 1939-1952; papers relating to branches (adrannau and aelwydydd), 1938-1960; correspondence and papers relating to courses organized by the Urdd, 1948-1965; papers relating to the annual conferences to discuss the Urdd's magazines, 1952-1973, and other pars relating to the magazines, 1948-1990; arrangements regarding various festivals, 1936-1995; administrative and financial records relating to the camps at Llangrannog and Glanllyn, 1940-1995; printed material, 1932-1963; letters addressed to O. M. Edwards, 1910-1920; records relating to the Council, 1972-1991, and Cwmni'r Urdd, 1972-1989; records relating to staff members, 1975-1995; correspondence and literature relating to the Urdd National Eisteddfod, 1930-1965; papers relating to the Eisteddfod Maes, 1972-1985, Eisteddfod ceremonies, 1952-1982, theatre shows, 1981-1991, and competitions; and records relating to the organisation of individual National Eisteddfodau, 1946-1996.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell.

Croniadau

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System o drefniant

Trefnwyd y grŵp cyntaf fel y ganlyn: cofnodion gweinyddol; cofnodion cyllidol; teithiau a mordeithiau; negeseuon heddwch ac ewyllys da; Cronfa Goffa Syr O.M. Edwards, adrannau ac aelwydydd; defnyddiau tramor a rhyngwladol; eisteddfodau yr Urdd; cyrsiau, cyfnodolion; gwyliau; gwersylloedd; amrywiol; deunydd printiedig. Mae adnau Hydref 1989 ar ffurf atodiad gyda threfn debyg. Trefnwyd yr ail grŵp yn: ffeiliau cyffredinol; ac eisteddfodau.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Y mae embargo am 20 mlynedd ar y trafodion ariannol. Rhaid cael caniatâd Y Cyfarwyddwr, Urdd Gobaith Cymru, Aberystwyth, cyn cael gweld y deunydd hwn. Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Saesneg
  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copïau caled o'r catalogau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalogau ar gael ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir cofnodion pellach Urdd Gobaith Cymru yn LlGC, Urdd Gobaith Cymru (Aberystwyth) ac Urdd Gobaith Cymru (Ceredigion). Grŵp o weithredoedd ar adnau gan Urdd Gobaith Cymru yw LlGC, Casgliad Urdd Gobaith Cymru.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844412

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Ebrill 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Archifau Urdd Gobaith Cymru; LlGC, Rhestr o Bapurau Swyddfa Ganolog Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 2 gyfrol; Griffith, R. E., Urdd Gobaith Cymru, 3 chyfrol (Aberystwyth, 1971-1973); gwefan Urdd Gobaith Cymru (www.urdd.org), edrychwyd Ebrill 2003; Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986)

Ardal derbyn

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Archifau Urdd Gobaith Cymru.