Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1603-1759 (Creation)
Lefel y disgrifiad
ffeil
Maint a chyfrwng
149 ff. (ff. 1-16, 119-45 yn wag) ; 180 x 125 mm.
Rhwymiad hanner lledr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Lewis Morris ('Llewelyn Ddu o Fôn', 1701-1765) was a poet and scholar.
Hanes archifol
'The Gift of Lewis Morris Es[q] to Jno. Bradford of Bettus in Sepr. 7th 1759 at Penbryn' (f. 17 verso). Bu'r gyfrol yn eiddo i ddisgynyddion Bradford hyd nes ei gwerthu i'r Llyfrgell Genedlaethol.
Ffynhonnell
Ms Margaret McMenemy; Rustington, Gorllewin Sussex; Pryniad; Awst 2007; 004464302
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Copi anghyflawn o gyfrol William Middelton, 'Psalmae y brenhinol brophwyd Dafydh' (Llunden, 1603) [Libri Walliae 466-9, ESTC S90848], gyda'r chwe dalen gyntaf, a dalennau 1-30, 229-30, 233-87 ar goll (awgryma nodyn ar f. 118 verso iddynt gael eu colli cyn y ddeunawfed ganrif). Ceir yn y gyfrol nifer o fân nodiadau mewn inc yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg (y mwyafrif wedi gwisgo neu wedi eu tocio), gan gynnwys enwau Richard Jones (ff. 45, 65 passim), Kadwalad[r] Wynn (f. 55), Hugh Jones (ff. 88 verso, 89 passim), ac Owen Parry, 1690 (f. 63). = Incomplete copy of William Middelton's 'Psalmae y brenhinol brophwyd Dafydh' (Llunden, 1603) [Libri Walliae 466-9, ESTC S90848], lacking the six preliminary leaves and ff. 1-30, 229-30, 233-87 (the note on f. 118 verso suggests that they were lost before the eighteenth century). The volume bears a number of minor annotations in ink of the seventeenth century (most faded or cropped), including the names of Richard Jones (ff. 45, 65 passim), Kadwalad[r] Wynn (f. 55), Hugh Jones (ff. 88 verso, 89 passim), and Owen Parry, 1690 (f. 63).
Yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif, roedd y gyfrol yng ngogledd Môn, fel y tystia enwau Richard Owen, Llanfihangel-yn-Nhywyn, 1711 (ff. 81, 85 verso) a John Hughes o Lanfair-yn-neubwll (ff. 26, 36, a ddarlunnir efallai ar f. 112 verso). Bu wedyn ym Mhentreiriannell, Môn, lle'r ysgrifennwyd arno enwau Lewis Morris, 1721 (f. 62), Siôn Morris, 1721/2 (f. 49) a Rhisiart Morris, 1725 (f. 17), ac ychwanegodd Lewis Morris nifer o ddarnau o farddoniaeth, yn Gymraeg a Saesneg, ar ff. 90, 91, 111 verso, 114, 115 verso, a 116 verso. Wedi ei chludo i Benbryn, Ceredigion, cyflwynodd Lewis y gyfrol ym Medi 1759 i Siôn Bradford o Fetws Tir Iarll, Morgannwg (f. 17 verso). = Early in the eighteenth century, the volume was in the north of Anglesey, as witness the names of Richard Owen, Llanfihangel-yn-Nhywyn, 1711 (ff. 81, 85 verso) and John Hughes of Llanfair-yn-neubwll (ff. 26, 36, and possibly pictured on f. 112 verso). Subsequently at Pentreiriannell, Anglesey, it was inscribed with the names of Lewis Morris, 1721 (f. 62), John Morris, 1721/2 (f. 49) and Richard Morris, 1725 (f. 17), and Lewis Morris added numerous fragments of verse, in both Welsh and English, on ff. 90, 91, 111 verso, 114, 115 verso, and 116 verso. Having been transported to Penbryn, Cardiganshire, the volume was in September 1759 presented by Lewis to John Bradford, of Betws Tir Iarll, Glamorgan (f. 17 verso).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Y dail yn frau wedi iddynt gael eu gwlychu yn y gorffennol.
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Nodiadau
Preferred citation: NLW MS 23966B.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Bradford, John, 1706-1785 (Pwnc)
- Morris, Siôn, 1713-1740 (Pwnc)
- Morris, Richard, 1703-1779 (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Hydref 2008.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Maredudd ap Huw;