Civil rights -- Wales.

Taxonomy

Code

Scope note(s)

Source note(s)

Display note(s)

Hierarchical terms

Civil rights -- Wales.

Equivalent terms

Civil rights -- Wales.

Associated terms

Civil rights -- Wales.

4 Archival description results for Civil rights -- Wales.

4 results directly related Exclude narrower terms

Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,

  • GB 0210 CYMAEG
  • Fonds
  • 1967-1998 /

Mae'r archif yn cynnwys: pamffledi, cylchlythyron etc., amrywiol; dwy gyfrol o gofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Canolog (1967-70) a Senedd (1970-Ionawr 1975) Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a rhai y cyfarfodydd cyffredinol blynyddol; cofnodion y Senedd,1974-1981 ac adroddiadau gan wahanol grwpiau o'r Gymdeithas, 1976-1981; papurau gweinyddol,1970-1981, yn cynnwys copïau o benderfyniadau a gyflwynwyd yng nghyfarfodydd cyffredinol y Gymdeithas a deunydd printiedig; papurau yn ymwneud â Grŵp y Dysgwyr, 1974-1985; papurau yn ymwneud â Mudiad Rhyddid yr Iaith, 1977; papurau yn ymwneud ag ymgyrchoedd y bu'r Gymdeithas yn eu canlyn,1970-1981, gan gynnwys yr ymgyrch dros sianel deledu Cymraeg; ffeiliau gohebiaeth,1966-1986; ffeiliau swyddfa,1971-1981; datganiadau i'r wasg etc., 1970-1990; cofnodion y Senedd,1979-1991; ffeiliau amrwiol,1975-1991; papurau yn ymwneud â darlledu, 1974-1980; ffurflenni aelodaeth, 1979-1990; papurau ynghylch y grŵp addysg, 1982-1989; papurau ynghylch tanysgrifiadau i Tafod y Ddraig, 1980-1990; llyfrau lloffion, 1965-1967, yn cynnwys papurau yn adlewyrchu ymgyrchoedd a gweithgareddau y Gymdeithas; cofnodion cyfarfodydd, 1966; atgofion am sefydlu'r Gymdeithas yn 1962 a'i datblygiad cynnar; amrywiol dorion o'r wasg; a phosteri amryfal. Y mae grŵp Mai 1996 yn cynnwys papurau, 1971-1993, yn ymwneud â gwahanol ranbarthau y Gymdeithas a phapurau,1984-1993, yn ymwneud â'i chynghorau, cyfarfodydd seneddol etc. Y mae'r grŵp mawr o gofnodion a dderbyniwyd ym mis Gorffennaf 1998 a mis Ionawr 1999 yn cynnwys y canlynol: llyfrau lloffion,1971-1996,yn cynnwys torion o'r wasg yn disgrifio ymgyrchoedd a gweithgareddau y Gymdeithas a bywyd gwleidyddol Cymru; papurau yn ymwneud ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, 1986-1994, gohebiaeth oddi wrth y Swyddfa Ganolog,1988-1997; papurau ynglŷn â chelloedd a rhanbarthau y Gymdeithas, 1977-1996; papurau gweinyddol, 1977-1998, yn cynnwys dyddiaduron swyddfa, rhestrau aelodaeth, papurau yn perthyn i wahanol swyddogion y Gymdeithas, papurau ynglŷn â grŵp addysg y Gymdeithas, deunydd yn deillio o lawer o ymgyrchoedd y Gymdeithas, papurau ynglŷn â chyrsiau ar gyfer dysgwyr, papurau ynglŷn â'r Ddeddf Eiddo, a datganiadau i'r wasg. = The archive comprises: a series of forms bearing signatures supporting the Welsh Language Society's Petition to the new local authority bodies in Wales requesting them to strengthen the Welsh Language and Welsh Society; a series of forms bearing signatures supporting the Society's declaration of support for the workers of Shotton; miscellaneous pamphlets, circulars; etc.; two volumes of minutes of meetings of the Central Committee (1967-70) and Senate (1970-January 1975) of the Welsh Language Society and of some of the annual general meetings; minutes of the Senate, 1974-1981 and reports from various groups of the Society, 1976-1981; administrative papers, 1970-1981, including copies of resolutions presented to the general meetings of the Society and printed matter; papers concerning the Learners' Group, 1974-1985; papers concerning the Language Freedom Movement, 1977; papers concerning the campaigns pursued by the Society, 1970-1981, including the campaign for a Welsh language television channel; correspondence files, 1966-1986; office files, 1971-1981; press releases etc., 1970-1990; Senate minutes, 1979-1991; miscellaneous files, 1975-1991; papers relating to broadcasting, 1974-1980; membership forms, 1979-1990; papers concerning the education group, 1982-1989; papers concerning subscriptions to Tafod y Ddraig, 1980-1990; scrapbooks, 1965-1967, containing papers reflecting the campaigns and activities of the Society; minutes of meetings, 1966; reminiscences on the establishment of the Society in 1962 and its early development; miscellaneous press cuttings; and miscellaneous posters. The May 1996 group comprises papers, 1971-1993, relating to the various regions of the Society and papers, 1984-1993, relating to its councils, parliamentary meetings etc. The large group of records received in July 1998 and January 1999 comprise the following: scrapbooks, 1971-1996, containing press cuttings describing the campaigns and activities of the Society and Welsh political life; papers relating to the Urdd National Eisteddfod and the Welsh National Eisteddfod, 1986-1994, correspondence from the Central Office, 1988-1997; papers concerning cells and regions of the Society, 1977-1996; administrative papers, 1977-1998, including office diaries, membership lists, papers belonging to various officials of the Society, papers concerning the Society's education group, material deriving from many of the Society's campaigns, papers concerning courses for Welsh learners, papers concerning the Property Act, and press releases.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Papurau Cymdeithas yr Iaith (Rhodri Williams),

  • GB 0210 CYMAMS
  • fonds
  • 1974-1980 /

Cofnodion yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith, 1974-1980, yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â Chyfarfodydd Cyffredinol, 1974-1980, a chofnodion cyfarfodydd y Senedd, 1974-1980 = Records relating to the Cymdeithas yr Iaith, 1974-1980, including records relating to General Meetings, 1974-1980; and records of Senedd meetings, 1974-1980.

Williams, Rhodri.

Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent

  • GB 0210 CYMIAITHMORGWE
  • Fonds
  • 1984-2007

Papurau, 1984-2007, Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ranbarth Morgannwg Gwent, yn cynnwys gohebiaeth, datganiadau i’r wasg, nodiadau, a thorion o’r wasg, yn ymwneud â gweithredu polisi iaith Gymraeg fewn siopau, busnesau, a chwmniau preifat yn ardal Morgannwg Gwent. Mae rhan fwyaf o’r papurau yn deillio o Gell Caerdydd y Gymdeithas.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent

Achos Brewer-Spinks,

  • NLW ex 2566.
  • file
  • 1965.

Cyfrol yn cynnwys llythyrau o gefnofaeth yn ymwneud â safiad dau weithiwr ffatri ym Mlaenau Ffestiniog, wedi iddynt golli'u swyddi am siarad Cymraeg yn y gweithle yn 1965, a thorion o'r wasg yn ymwneud â'r achos. Enwyd yr achos ar ôl perchennog y ffatri sef Brewer-Spinks. = A scrapbook containing letters of support following the sacking of two factory workers in 1965 in Blaenau Ffestiniog for speaking Welsh in the workplace, and press cuttings relating to the case. It was named after the owner of the factory, Brewer-Spinks.