fonds GB 0210 MORELE - CMA: Cofnodion Capel Y Morfa, Abergele

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 MORELE

Teitl

CMA: Cofnodion Capel Y Morfa, Abergele

Dyddiad(au)

  • 1930-2003 (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.009 metrau ciwbig (1 bocs bach)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Adeiladwyd ac agorwyd Capel y Morfa yn 1866, ond roedd cynulleidfa o Fethodistiaid Calfinaidd wedi bodoli yn y cylch ers troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Buont yng Nghapel Penbrynllwyni o 1826 hyd 1864, pryd y tynnwyd y capel i lawr. Bu'r gynulleidfa'n cwrdd yn nhŷ 'Y Sun' am ddwy flynedd cyn i Gapel y Morfa gael ei adeiladu. Unwyd gofalaeth Capel y Morfa â Rhuddlan rhwng 1924 ac 1933, ac eto rhwng 1952 ac 1961. Bu o dan yr un ofalaeth ag Eglwys Warren Road, Y Rhyl, 1947-1950. Mae'r capel yn Nosbarth Rhuddlan, Henaduriaeth Dyffryn Clwyd.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan y Parch. J. E. Wynne Davies, Aberystwyth, Gorffennaf 2003.; 0200308186

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Capel y Morfa, Abergele, gan gynnwys dau lyfr cofnodion, 1930-1996, dau lyfr cyfrifon, 1967-2002, pamffledi yn ymwneud â hanes y capel a'r henaduriaeth, 1966-2003, a phapurau perthnasol eraill, 1966-2003.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn LLGC yn ddwy gyfres: cofnodion a chyfrifon; ac yn dair ffeil: llyfrau nodiadau, pamffledi a rhaglenni cyfarfodydd.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg oni nodir yn wahanol.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Mae cofrestr bedyddiadau Capel Penbrynllwyni, 1831-1837, ar gadw yn yr Archifdy Gwladol (PRO: RG4/3872) a cheir copi microffilm yn LlGC; ceir adroddiadau blynyddol, 1986-1995, yn LlGC, ystadegau'r Ysgol Sul, 1818-1821, yn CMA 27639 ac atgofion am y capel, 1935, yn CMA 17842.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004297883

GEAC system control number

(WlAbNL)0000297883

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Tachwedd 2003

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Hywel Gwynn Williams.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Cronfa ddata CAPELI yn LLGC; Y Parch. F. Jones, gol., Dechreuad a Chynnydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn, Bettws, Llysfaen, Llanddules, Pen Bryn Llwyni, Morfa, a Thywyn (Dolgellau, 1908).

Ardal derbyn

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: CMA: Cofnodion Capel Y Morfa, Abergele.