fonds GB 0210 BWLTRE - CMA: Cofysgrifau Capel Bwlchgwynt, Tregaron

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 BWLTRE

Teitl

CMA: Cofysgrifau Capel Bwlchgwynt, Tregaron

Dyddiad(au)

  • 1871-1912 (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.009 metrau ciwbig (1 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1774, a'i alw ar ôl y cae y'i codwyd arno sef 'Llain Bwlch y Gwynt', ym mhlwyf Caron-is-clawdd, Sir Aberteifi. Helaethwyd yr adeilad hwn ym 1809, ond ym 1833 codwyd yr ail gapel ar y safle. Ychwanegwyd oriel at y capel hwn fel rhan o'r gwaith adnewyddu ym 1865.

Ffurfiwyd Cymdeithas Eglwysig yn yr ardal yn Nhanyrallt ym 1744, a symudodd y gynulleidfa yn gyntaf i Benlan ym 1758, wrth y dref, cyn iddynt godi'r capel cyntaf ym Mwlchgwynt. Mae'r Capel yn rhan o Ddosbarth Caron-Llanbedr yn Henaduriaeth De Aberteifi.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan Mr Cyril Evans, Tregaron, Rhagfyr 2001.; 0200204876

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r fonds yn cynnwys Llyfrau Cyfrifon Casgliadau, 1871-1912, a Llyfr yr Ysgrifennydd, 1898-1902.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System o drefniant

Trefnwyd ar sail cynnwys yn LlGC yn ddwy ffeil: Llyfrau Cyfrifon Casgliadau a Llyfr yr Ysgrifennydd.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir cofnodion eraill yn LlGC, sef llyfr nodiadau amrywiol ynglŷn â'r Capel gan gynnwys rhestri o aelodau, 1831-1834, CMA I/5940; copi o brydles ar dir er mwyn codi'r Capel, 1774, ymysg nodiadau amrywiol gan David Davies, CMA I/9648; teipysgrif o bregeth a roddwyd yn ystod gwasanaeth a ddarlledwyd o'r Capel, 1949, CMA I/27848; nodiadau am hanes yr achos yn 'Hanes Crefydd yn Sir Aberteifi' [gan Joseph Rees], yn Llsgr. LlGC 361A; cyfrifon a nodiadau parthed y Capel, 1841-1882, Llsgr. LlGC 4429A; a lluniau o'r Capel, yn LlGC Ffeil Lleoedd: Tregaron. Ceir hefyd adroddiadau blynyddol, 1907-1977 (gyda bylchau), yn LlGC. Ceir Cofrestri Bedyddiadau'r Capel, 1810-1837, yn yr Archifdy Gwladol (copi meicroffilm yn LlGC, NPR Rîl 9/3806 [Cd/11]).

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004241385

GEAC system control number

(WlAbNL)0000241385

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mai 2002.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Martin Robson Riley.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Rees, D. C., Tregaron: Historical and Antiquarian (Llandyssul, 1936); Bwlchgwynt, Tregaron: Dau Canmlwyddiant y Capel, 1774-1974 (Llanbedr [Pont Steffan], 1974); [Rees, Joseph], 'Hanes Crefydd yn Sir Aberteifi' (Llsgr. LlGC 361A, [c. 1847]).

Ardal derbyn