Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1878-1986 (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.067 metrau ciwbig (15 cyfrol ac 1 ffolder)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Sefydlwyd y capel yn 1880. Yr oedd dau gapel, Nasareth a'r Pant, ym Mhenrhyndeudraeth eisoes ond oherwydd twf yn y boblogaeth, yn enwedig yng ngwaelod y pentref, rhwng 1870 a 1880 gwelwyd yr angen am drydydd capel. Penderfynwyd adeiladu'r capel newydd ar dir Adwy-ddu a roddwyd gan Mrs A. L. L. Williams, Castelldeudraeth, gweddw David Williams, AS, am brydles o 999 mlynedd. Gosodwyd y garreg sylfaen gan A. Osmond Williams, Castelldeudraeth. Cafwyd lle i eistedd pum cant, ynghyd ag ystafell ddosbarth a festri.
Mae'r capel yn rhan o Ddosbarth Ffestiniog yn Henaduriaeth Meirionnydd.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Adneuwyd ffeil /1 gan Mr Alun Williams, Dolgellau, ym mis Mawrth 2000, ymysg casgliad o ddeunydd o Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd. Adneuwyd y gweddill gan y Parch. Adrian P. Williams, Blaenau Ffestiniog, ym mis Ionawr 2003. Daeth ychwanegiad gan Mr Geraint Lloyd Jones, Ysgrifennydd Henaduriaeth Gorllewin Gwynedd, Hydref 2010.; 0200300902
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion Capel Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth, gan gynnwys llyfr cyfrifon y Gymdeithas Ariannol, 1878-1907, llyfrau cyfrifon, 1878-1986, a llyfr y trysorydd, 1888-1952. Ceir llyfr cofnodion eglwysig, 1909-1986, a llyfr cofnodion pwyllgor yr adeiladau, 1929-1951, ymhlith y cofnodion gweinyddol, ynghyd â chofrestr yr Ysgol Sul, 1885-1886, a phapurau'n ymwneud â threfnu Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 12-15 Mehefin 1978, yn y capel.
Cofysgrifau ychwanegol yn perthyn i'r capel yn cynnwys adroddiadau'r eglwys; llyfr bedyddiadau; llyfr Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1964-1988; tocynnau aelodaeth; tri llyfr cofnodion, 1952-2010; adroddiadau ar yr adeiladau, 2002 a 2006; manylion ewyllys Mr Thomas Charles Jones, 1992; cofnodion Pwyllgor yr Adeiladau, 1975-2002; cofnodion cyfarfodydd swyddogion, 1987-2003; gohebiaeth amrywiol; a manylion rhoddion cyfamod. Nid yw'r ychwanegiad hwn wedi ei catalogio eto.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..
Croniadau
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
System o drefniant
Trefnwyd yr archif yn LlGC yn ddwy gyfres: cofnodion ariannol a chofnodion gweinyddol ac yn ddwy ffeil: Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Penrhyndeudraeth 1978 a chofrestr Ysgol Sul.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Datgorfforwyd yr eglwys 20 Mehefin 2010.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mai 2002 ac Ebrill 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Ellis, Hugh, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol III (Dolgellau, 1928) ac Owen, Robert, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol II (Dolgellau, 1891).