Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1872-1976 (Creation)
Level of description
fonds
Extent and medium
0.018 metrau ciwbig (8 cyfrol, 1 ffolder)
Context area
Name of creator
Administrative history
Yn 1872 cafwyd tir ym Maentwrog gan Mr Oakley, Tanybwlch, ac fe adeiladwyd capel arno a fedrai ddal cant ac wythdeg o bobl. Codwyd y capel ar godiad tir ar y ffordd o bentref Maentwrog i gyfeiriad Ffestiniog. Dechreuwyd addoli yno yn 1873, ac yn 1875 rhannwyd y teithiau fel bod Capel y Babell gyda Maentwrog Uchaf, a Llennyrch gyda Maentwrog Isaf.
Erbyn 1891 roedd capeli Maentwrog Isaf, Llennyrch a Maentwrog Uchaf gyda'i gilydd, ond caewyd eglwys Llennyrch yn 1895. Roedd capel Maentwrog Isaf yn Nosbarth Ffestiniog, Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd. Gelwid y capel ar lafar gwlad yn 'gapel newydd' er bod capeli eraill yn yr ardal wedi eu hadeiladu'n fwy diweddar. Caewyd y capel yn 1977.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Adneuwyd gan Mr Alun Williams, Cil-y-coed, Ffordd y Bermo, Dolgellau, Mawrth 2000, ymysg casgliad o ddeunydd o Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.
Content and structure area
Scope and content
Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion y Capel, 1872-1976, a chofnodion yr Ysgol Sul, 1925-1964, gan gynnwys gwybodaeth am gyfraniadau ariannol, enwau aelodau a phregethwyr.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd yr archif yn LLGC yn ddau grŵp: cofnodion y capel a chofnodion yr Ysgol Sul.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg oni nodir yn wahanol.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
GEAC system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Capel Maentwrog Isaf (Wales) -- Archives. (Subject)
- Capel Maentwrog Isaf (Wales) -- Accounting. (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Mai 2002
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd gan Nia Mai Williams.
Archivist's note
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Owen, Robert, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol II, (Dolgellau, 1891); Ellis, Hugh, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol III, (Dolgellau, 1928); Y Blwyddiadur, 1976 a 1977, cyfrolau LXXIX-LXXX, (Caernarfon, 1976 a 1977).