Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1953-1967 (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.009 metrau ciwbig (1 gyfrol)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Adeiladwyd capel Salem, Dolgellau yn 1808. Yn 1877 sefydlwyd dwy eglwys allan ohoni, sef Bethel a'r Eglwys Saesneg a adeiladwyd yn y dref. Yna cychwynnwyd ysgol arall gan aelodau Salem yn Nhynygraig, tua thair milltir o'r dref. Symudwyd yr achos i bentref Penmaen a chodwyd ysgoldy yno ar dir a gafwyd gan Mrs Jones, Penmaenisaf.
Adeiladwyd capel Penmaen yn 1870 ar fin y ffordd fawr rhwng Llyn Penmaen ac Arthog. Unwyd Penmaen yn achos gydag eglwys Salem, ac yn 1899 fe'i corfforwyd hi'n eglwys. Roedd Eglwys Penmaen yn Nosbarth Dolgellau, Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.
Am un cyfnod yr oedd y tair eglwys - Bethel, Penmaen a Salem yn un ofalaeth dan ofal un gweinidog, a'r eglwys Saesneg ar ei phen ei hun. Ond erbyn tua 1928 yr oedd y pedair eglwys wedi eu rhannu'n ddwy ofalaeth fugeiliol, sef Salem a'r Penmaen; Bethel a'r capel Saesneg. Caewyd y capel yn 1967.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Adneuwyd gan Mr Alun Williams, Cil-y-coed, Ffordd y Bermo, Dolgellau, Mawrth 2000, ymysg casgliad o ddeunydd o Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys Llyfr y Trysorydd, 1953-1967.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yr archif yn LLGC yn un ffeil: Llyfr y Trysorydd, 1954-1967.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LSCH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mai 2002
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Nia Mai Williams.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Owen, Robert, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol I, (Dolgellau, 1889); Ellis, Hugh, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol III, (Dolgellau, 1928); Y Swyddiadur, Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru / Official Handbook, The Presbyterian Church of Wales, (Caernarfon, 1967 a 1968).