Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1921x1930], a 1970-2017 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
12 bocs mawr (0.344 metr ciwbig)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn sefydliad ymchwil sy'n cynnal prosiectau cydweithredol ar hanes, iaith, a llên Cymru, a gwledydd Celtaidd eraill. Roedd Coleg Prifysgol Cymru wedi cydnabod Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ers 1971, sef yr adrannau Cymraeg, Gwyddeleg, a Hanes Cymru. Yn 1976, lansiodd Athrawon yr Ysgol apêl er cof am y llenor Syr Thomas Parry-Williams, a fu farw yn 1975, ac i ddathlu’r ysgolheigion ac Athrawon Astudiaethau Celtaidd eraill a ddysgodd yn Aberystwyth, sef (o’r Adran Gymraeg) Timothy Lewis, Thomas Jones, Garfield Hughes, a J.R.F. Piette; ac (o Adran Hanes Cymru) E.A. Lewis, T. Jones-Pierce, David Williams, ac W. Ogwen Williams. Bwriad yr Apêl oedd codi arian er mwyn sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, gyda'i adeilad ei hun a chysylltiad agos gyda'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yr Apêl yn llwyddiannus, ac agorodd y Ganolfan yn swyddogol yn 1979 yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, gyda'r Athro J.E. Caerwyn Williams fel y Cyfarwyddwr Mygedol gyntaf. Yn 1983 fe wnaeth Coleg Prifysgol Cymru gais llwyddiannus i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion am arian i gyflogi tîm o chwe staff swyddogol yn y Ganolfan, ac yn 1985 apwyntiwyd ei chyfarwyddwr swyddogol cyntaf, Yr Athro R. Geraint Gruffydd. Yn 1988, fe wnaeth y Ganolfan gais llwyddiannus pellach i’r Pwyllgor Grantiau i adeiladu adeilad pwrpasol i gartrefi’r Ganolfan ochr yn ochr ag Uned Geiriadur Prifysgol Cymru. Agorodd yr adeilad newydd yn Aberystwyth, ar bwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn 1993, a chymerodd Yr Athro Geraint H. Jenkins drosodd fel Cyfarwyddwr yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Daeth y Geiriadur o dan gyfarwyddiaeth y Ganolfan yn 2007. Ar ôl ymddeoliad Yr Athro Geraint H. Jenkins yn 2008 apwyntiwyd Yr Athro Dafydd Johnston fel Cyfarwyddwr y Ganolfan tan 2021, pan benododd y Ganolfan ei chyfarwyddwr presennol, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones.
Hanes archifol
Roedd y casgliad o dan ofal y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd cyn iddo gael ei drosglwyddo i'r Llyfrgell yn 2019.
Ffynhonnell
Rhodd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru trwy law Dr Angharad Elias, Aberystwyth, Mehefin 2018, a'r Athro Ann Parry Owen, Aberystwyth, Mawrth 2019.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Gohebiaeth a phapurau, [1921x1930]; 1970-2017, yn ymwneud â sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gweithgareddau'r Ganolfan, ac adran cyntaf Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn cynnwys papurau gweinyddol a gohebiaeth gysylltiedig; yn cynnwys llythyrau oddi wrth staff a myfyrwyr y Ganolfan a phrifysgolion a sefydliadau academaidd eraill. Mae’r cofnodion yn cynnwys cofnodion pwyllgorau a chyrff gweinyddol y Ganolfan, a phapurau cysylltiedig, 1977-2017; papurau yn ymwneud â gweithgareddau’r Ganolfan a’i staff, yn cynnwys digwyddiadau, 1974-1994, a gwaith ymchwil a pharatoi cyhoeddiadau, 1980-1993; papurau ariannol, 1972-1991, yn cynnwys papurau yn ymwneud â chodi arian ac Apêl Syr Thomas Parry-Williams, ysgoloriaethau, a cheisiadau am grantiau mewnol ac allanol; a chofnodion yn ymwneud â datblygiad sefydliadol y Ganolfan, [1921]-1993, yn cynnwys rhai cofnodion yr Adran Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, agoriad swyddogol y Ganolfan, cartrefi’r Ganolfan, materion staffio, a datblygiad Llyfrgell y Ganolfan.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Cadwyd pob cofnod a roddwyd i LLGC, heblaw rhai dyblygion sydd wedi cael eu tynnu o'r casgliad.
Croniadau
Disgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn ôl pwnc mewn pum grŵp yn dilyn yn fras y drefn wreiddiol: Pwyllgorau a chyrff gweinyddol; Gweithgareddau a digwyddiadau; Cyhoeddiadau ac ymchwil; Materion ariannol; a Datblygiad sefydliadol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Dilynir y cyfreithiau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Almaeneg
- Cymraeg
- Ffrangeg
- Gaeleg yr Alban
- Gwyddeleg
- Lladin
- Llydaweg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg a Saesneg yn bennaf; hefyd rhywfaint o Ffrangeg, Almaeneg, Lladin, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, a Llydaweg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Nodyn cyhoeddiad
Cyhoeddwyd rhai o'r gweithiau yn y casgliad hwn fel y canlynol: C1/3: 'Where was "Rhaedr Derwennydd" (Canu Aneirin line 1114)?' yn 'Celtic Language, Celtic Culture: a festschrift for Eric P. Hamp', (Van Nuys, California: Ford & Bailie, 1990), pp.261-266; a C1/5: ‘The Strathcarron interpolation (Canu Aneirin, Lines 966-71)', mewn 'A Festschrift for Professor D.S. Thomson', Scottish Gaelic Studies 17 (1996), 172-178.
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Nodiadau
Mae rhai papurau yn y casgliad sy'n cynnwys data sensitif wedi cael eu golygu, a gynrychiolir gyda thudalennau porffor.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Alma system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Mae'r disgrifiad hwn yn dilyn canllawiau LLGC yn seiliedig ar ISAD(G) 2il arg.; RDA NACO; a LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Full
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Awst 2019. Adolygwyd Mawrth 2021.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Gwnaethpwyd y disgrifiad hwn gan Lucie Hobson. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad: papurau o fewn yr archif; gwefan y Ganolfan Uwchefrydiadau Cymreig a Cheltaidd (gwelwyd Awst 2019).