File NLW MS 24050C. - Darnau i Blant

Identity area

Reference code

NLW MS 24050C.

Title

Darnau i Blant

Date(s)

  • [?1935], [1955] (Creation)

Level of description

File

Extent and medium

30 ff. (testun yn bennaf ar y rectos) ; 230 x 180 mm. a llai.

'The Viaduct Exercise Book', cloriau papur; 'Waldo Williams', 'Darnau i Blant' a 'Mair a Fi a Deio Bach' (inc ar y clawr blaen).

Context area

Name of creator

Biographical history

Ganed Waldo Goronwy Williams ar 30ain o Fedi 1904, yn fab i'r heddychwr a'r sosialydd John Edwal Williams ac Angharad Williams (née Jones). Ynghyd â'i brodyr a'i chwiorydd, mynychodd Angharad goleg a bu'n athrawes cyn ei phriodas. Er mai Cymro Cymraeg oedd John Edwal, magwyd Angharad yn ddi-Gymraeg yn Lloegr, felly Saesneg oedd iaith aelwyd gynnar Waldo ac ni ddysgodd Gymraeg nes i'r teulu symud ym 1911, pan oedd Waldo'n saith mlwydd oed, i Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, lle 'roedd ei dad yn brifathro'r ysgol gynradd yno. Ym 1915, bu i'r teulu symud drachefn pan benodwyd John Edwal yn brifathro Ysgol Brynconin, Llandysilio. Mynychodd Waldo Ysgol Ramadeg Arberth ac yna Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, gan raddio mewn Saesneg ym 1926. Yn dilyn hyfforddiant fel athro, bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion o fewn Sir Benfro, yn Ysgol Ramadeg Botwnnog ym Mhen Llŷn o 1942 hyd 1944, ac mewn ysgolion yn Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos ac addysg bellach ar gyfer oedolion, ac yn ddarlithydd gwâdd. Ym 1941, priododd Waldo â Linda Llewellyn, ond bu farw hithau o'r diciâu ddwy flynedd yn ddiweddarach. Treuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Maynooth, Swydd Kildare yn ystod haf 1961, lle dysgodd Wyddeleg yn rhugl. Ac yntau'n heddychwr gydol oes, cofrestrodd Waldo fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, safiad a achosodd wrthdaro rhyngddo a'r awdurdodau. Oherwydd ei wrthwynebiad i Ryfel Corea (1950-1953), gwrthododd dalu ei dreth incwm ac fe'i carcharwyd am ei safiad ar ddechrau 1960. Yn genedlaetholwr a brogarwr, safodd fel ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1959. Bu farw Waldo Williams ar yr 20fed o Fai 1971 a'i gladdu yn yr un bedd â'i rieni a'i wraig Linda ym mynwent Capel y Bedyddwyr, Blaenconin, y capel lle priodwyd Waldo a Linda ddeg mlynedd ar hugain ynghynt. Yn ddiweddarach, codwyd coflech i Waldo ar weundir Rhos Fach, ger Mynachlog-ddu. Fe ddylanwadwyd Waldo a'i dad ill dau yn gryf gan yr athronydd a'r bardd sosialaidd Edward Carpenter (1844-1929). Er fod y teulu, mewn enw, yn aelodau o Gapel y Bedyddwyr, nid oedd Waldo, mwy na'i rieni, yn arddel unrhyw grefydd ffurfiol, gyfundrefnol, ac, yn ystod y 1950au, fe ymunodd â'r Crynwyr yn eu tŷ cwrdd yn Aberdaugleddau. 'Roedd Waldo yn berson dwys ac ystyriol ac fe achosodd cyflwr y byd a'i gyd-ddyn gyfnodau o bruddglwyf difrifol iddo yn ystod ei fywyd. Cyhoeddodd Waldo ei unig gyfrol o gerddi, Dail Pren, ym 1956.

Name of creator

Biographical history

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Dr Sharon Morris, merch D. J. Morris; Llundain; Rhodd; Gorffennaf 2013; 006619111.

Content and structure area

Scope and content

Llyfr ysgrifennu yn cynnwys cerddi, [?1935], yn llaw Waldo Williams a gyhoeddwyd yn E. Llwyd Williams a Waldo Williams, Cerddi'r Plant (Aberystwyth, 1936). = An exercise book containing holograph poems, [?1935], by Waldo Williams, published in E. Llwyd Williams and Waldo Williams, Cerddi'r Plant (Aberystwyth, 1936).
Mae pob un o'r ugain cerdd y cyfrannodd Waldo i'r gyfrol yn bresennol yn y llawysgrif, yn ogystal â chwe cherdd ychwanegol, 'Y Falwaden' [sic] (f. 7), 'Twmi Bach Pendre' (ff. 11-12), 'Y Ceiliog Gwynt' (f. 18), 'Storiau Tadcu' (ff. 25-27), 'Can y Fegin' (f. 28) ac 'Ar y Ffordd' (f. 29) (cyhoeddwyd 'Y Falwaden', 'Storiau Tadcu' a 'Can y Fegin' yn Robert Rhys, Chwilio am Nodau'r Gân (Llandysul, 1992), tt. 222-225). Mae braslun, [1955], gan D[avid] J. Morris, [Clunderwen], o'r darlun a ddefnyddiwyd ar glawr Cerddi'r Plant, 2il arg. (Aberystwyth, 1955) hefyd wedi ei gynnwys (f. 30). Mae ff. 23-30 yn ddail rhydd ychwanegol. = All twenty of the poems contributed to the volume by Waldo are present in the manuscript, as well as six additional poems, 'Y Falwaden' (f. 7), 'Twmi Bach Pendre' (ff. 11-12), 'Y Ceiliog Gwynt' (f. 18), 'Storiau Tadcu' (ff. 25-27), 'Can y Fegin' (f. 28) and 'Ar y Ffordd' (f. 29) ('Y Falwaden', 'Storiau Tadcu' and 'Can y Fegin' appeared in Robert Rhys, Chwilio am Nodau'r Gân (Llandysul, 1992), pp. 222-225). A sketch, [1955], by D[avid] J. Morris, [Clunderwen], of the drawing used on the cover of Cerddi'r Plant, 2nd ed. (Aberystwyth, 1955) is also included (f. 30). Folios 23-30 are additional leaves loose in the volume.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Cymraeg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Ceir copïau holograff eraill o ddeuddeg o'r cerddi yn NLW MS 20882C (heb ei gatalogio); mae copi personol Waldo Williams o Gerddi'r Plant, 2il arg. (Aberystwyth, 1955) yn LlGC (Cad 1955 A56); ceir copi arall yn NLW MS 23897B.

Related descriptions

Notes area

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Note

Preferred citation: NLW MS 24050C.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls006619111

Access points

Subject access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Gorffennaf 2014.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Morgan Jones.

Accession area

Related subjects

Related people and organizations

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: NLW MS 24050C.