Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [?1945]-[2006] (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
32 cyfrol ac 1 bocs
Context area
Name of creator
Biographical history
Ganwyd Thomas Llewelyn Jones (1915-2009), bardd ac awdur llyfrau plant, ym Mhentre-cwrt, sir Awyrlu a'r Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn hyfforddi'n athro. Bu'n brifathro ar ysgolion cynradd Tregroes a Choed-y-bryn, sir Aberteifi. Ym 1940 priododd â Margaret Jones, un o deulu'r Cilie, a thrwy hynny daeth dan ddylanwad beirdd megis Isfoel ac Alun Cilie. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy, 1958, ac yng Nghaernarfon, 1959. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi, gan gynnwys Sŵn y Malu (Llandysul, 1967) a Canu'n Iach! (Llandysul, 1987). Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau poblogaidd i blant, yn eu mysg Y Ffordd Beryglus (Llandysul, 1963), Ymysg Lladron (Llandysul, 1965) a Dial o'r Diwedd (Llandysul, 1968), Barti Ddu (Llandybïe, 1973), Un Noson Dywyll (Llandysul, 1973), Tân ar y Comin (Llandysul, 1975), Dirgelwch yr Ogof (Llandysul, 1977) a Lleuad yn Olau (Llandysul, 1989). Roedd gan T. Llew Jones ddiddordeb mawr mewn gwyddbwyll. Roedd yn aelod o Undeb Gwyddbwyll Cymru, a daeth yn Is-Lywydd ar y mudiad. Rhannodd y diddordeb yma gyda'i fab iau, Iolo Ceredig Jones (g. 1947), a bu'r ddau yn cystadlu dros Gymru yn yr Olympiad Gwyddbwyll. Ei fab hynaf yw Emyr Llewelyn (g. 1941), ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg a garcharwyd ym 1963 yn sgil ffrwydriad yng Nghwm Tryweryn, Bala. Bu farw T. Llew Jones ym Mhontgarreg, Ceredigion, ar 9 Ionawr 2009.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Rhodd gan Mr T. Llew Jones, Pontgarreg, Medi 2000, A2000/55.
Rhodd gan Mr Iolo Jones; Pontgarreg, Mai 2016, 99653124302419.
Content and structure area
Scope and content
Dyddiaduon y bardd a'r llenor T. Llew Jones, 1957-1999, ynghyd â cherddi ganddo, llythyrau a ysgrifennwyd ato a phapurau amrywiol, [?1945]-[2006]. = Diaries of the poet and author T. Llew Jones, 1957-1999, together with poems written by him, letters written to him and miscellaneous papers, [1945]-[2006].
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
System of arrangement
Trefnwyd yn ddau grŵp yn LlGC: llawysgrifau T. Llew Jones ac archifau T. Llew Jones.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Conditions governing reproduction
Mae hawlfraint T. Llew Jones yn eiddo i'w feibion, Emyr Llewelyn a Iolo Ceredig Jones.
Language of material
Script of material
Language and script notes
Cymraeg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
GEAC system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Jones, Iolo Ceredig, 1947- (Subject)
- Cilie family. (Subject)
- Llywelyn, Emyr (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Gorffennaf 2011 ac Awst 2016.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd, gol. gan Meic Stephens (Caerdydd, 1997); Meic Stephens, 'T. Llew Jones: Foremost children's writer in Welsh literature', Independent, 4 Chwefror 2009; gwefan Wikipedia, gwelwyd 27 Gorffennaf 2011.
Archivist's note
Adolygwyd y disgrifiad gan Bethan Ifan a Rhys Jones, a'i ddiweddaru gan Ann Francis Evans.