Ardal dynodi
Math o endid
Person
Ffurf awdurdodedig enw
Gwynfor, 1875-1941
Ffurf(iau) cyfochrog enw
Ffurf(iau) safonol o enw yn ôl rheolau eraill
Ffurf(iau) arall o enw
Dynodwyr ar gyfer cyrff corfforaethol
Ardal disgrifiad
Dyddiadau bodolaeth
Hanes
Ganwyd Thomas Owen Jones ('Gwynfor') (1875-1941), dramodydd, ym Mhwllheli, sir Gaernarfon. Aeth yn brentis i groser yn bymtheg oed, a symudodd i Gaernarfon yn 1893, lle agorodd ei siop gigydd ei hun ymhen amser. Yn ei oriau hamdden bu Gwynfor yn cynorthwyo Beriah Gwynfe Evans (1848-1927) gyda hyrwyddo drama yng Nghaernarfon, a daeth ef ei hun yn actor a dramodydd medrus. Sefydlodd Cwmni Theatr y Ddraig Goch yn 1900, a bu'n gyfarwyddwr iddo tan 1935, a dyma'r cwmni a berfformiodd y ddrama Gymraeg gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yng Nghaernarfon yn 1906. Enillodd Gwynfor ei hun nifer o gystadlaethau drama mewn eisteddfodau, a bu'n feirniad cenedlaethol o 1924 ymlaen. Datblygodd ddiddordeb dwfn mewn barddoniaeth a llenyddiaeth Cymraeg o bob math, yn enwedig hynny'n ymwneud â'r môr, gan gasglu storiâu a gwybodaeth gan hen forwyr Pwllheli a Chaernarfon, yn ogystal â chan faledwyr sir Gaernarfon. Yn 1917 cafodd Gwynfor ei benodi'n Llyfrgellydd Sirol cyntaf sir Gaernarfon, yn gyfrifol am ddosbarthu llyfrau trwy ysgolion a phentrefi gwledig y sir. Priododd Margery Winifred ('Madge') Jones, aelod o Gwmni Drama'r Ddraig Goch, yn 1922, a bu'n byw yng Nghaernarfon hyd ei farwolaeth yn 1941.