Mae'r fonds yn cynnwys llyfrau Casgliad y Weinidogaeth, 1944-1996; llyfrau cyfrifon amrywiol, 1972-1996; cofnodion gweinyddol, megis cytundebau, gohebiaeth, llungopi o gofrestr bedyddiadau ac ystadegau, [1965]-1992; llyfrau Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1925-1996; llyfrau cyfrifon yr Ysgol Sul, 1950-1996; a phapurau amrywiol megis llyfr tonau a dyddiaduron, 1838, 1978-[1999].
Daeth cofysgrifau ychwanegol i law, yn cynnwys llyfr cofnodion Pwyllgor Blaenoriaid, 1954-1995; llyfr cofnodion y Pwyllgor Adeiladau, 1962-1987; tri llyfr casgliadau, 1947-1957, 1958-1962 a 1963-1967; pedair cyfrol y Trysorydd, 1957-1963, 1958-1961, 1962-1966 a 1966-1972; a chyfrol yn nodi derbyniadau a thaliadau, 1972-1981.