Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau (heb eu trefnu'n gronolegol) oddi wrth Timothy Richard, a dau oddi wrth ei wraig Mary (ff. 1 a 6), wedi eu hysgrifennu yn bennaf at ei fam. Sonnir ynddynt am ei waith cenhadol a'r Eglwys yn China.
Mae'r ffeil yn cynnwys ysgrifau crefyddol ar destunau yn cynnwys 'Cymundeb', 'Cymundeb Rhydd', a 'Spinther' sef amddiffyniad o'i erthygl wreiddiol ar y cymundeb a ysgrifennwyd yn Lisbon, Portiwgal, Gorffennaf 1902. Cyhoeddwyd yr atodiad i'r amddiffyniad yn Rhyddiaith Ben Bowen fel 'Cwestiwn yr Atgyfodiad'.
Mae'r ffeil yn cynnwys copi gorffenedig o 'Goleuni'r Byd' a ysgrifennwyd yn Ne Affrica ac a enillodd Gadair Eisteddfod Llundain yn 1902, ynghyd â'r feirniadaeth ohoni gan Elfed; copi o 'Ymadawiad Arthur' ar gyfer Eisteddfod Bangor a cherddi eraill.
Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau papur newydd am Ben Bowen; llythyrau at David Bowen yn cynnwys un gan Vincent Evans, 1905; llyfryn 'Gŵyl Llyfrau Cymru 1934' ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'r ŵyl a rhaglen cwrdd dadorchuddio cofeb Ben Bowen.