- 5/3
- Ffeil
- 1941-1959
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau darlithiau ar gyfer cyrsiau a gynhaliwyd gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) yng Nghorwen a Dinbych, Dinbych a Henllan a'r Rhyl ar lenyddiaeth Gymraeg.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau darlithiau ar gyfer cyrsiau a gynhaliwyd gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) yng Nghorwen a Dinbych, Dinbych a Henllan a'r Rhyl ar lenyddiaeth Gymraeg.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Papurau amrywiol gan gynnwys llyfr nodiadau 'Nodiadau a dyfyniadau. Llên a barddoniaeth', 1930 a llyfrau nodiadau amrywiol; llyfr torion o'r Faner, 1970, am 'Stori Oberammergau' gan Gwilym R. Jones; taflen dathlu chwarter can mlwyddiant Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych yn 1985 yn cynnwys cerdd ganddo: ‘I ddathlu pen-blwydd Ysgol Twm o’r Nant’; a thaflen ‘Teyrnged i Gwilym R.’ a drefnwyd gan Yr Academi Gymreig yn 1983.
Bywyd a gwaith E. Prosser Rhys, 1901-1945
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Traethawd buddugol 'Llŷr' [Rhisiart Hincks], Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978. Yr oedd Gwilym R. Jones yn un o'r beirniaid.
Hincks, Rhisiart
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Cerddi, 1937-[1988], gan gynnwys 'Codasom gaer' mewn copi o Tir newydd, Tachwedd 1937; 'Siwrnai'r dewiniaid', trosiad o [Journey of the Magi] gan T. S. Eliot; ‘Cyfarchiad i’r Cymry ar wasgar’ a ‘Mynydd fy mynyddoedd’.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Cerddi gan gynwys torion o'i gerddi a gyhoeddwyd yn Barn a'r Faner a llyfr wedi'i labelu ganddo yn 'Cerddi newydd Gwilym R.' gyda nodiadau cefndirol wedi'u hychwanegu yn ddiweddarach, ynghyd â llythyr oddi wrth aelod o dîm golygyddol y cylchgrawn Woman's Own yn dychwelyd ei bennill 'Compensation (for men)' gyda'r ffugenw 'Rhys Colwyn' .
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Crud ein cred : taith i Israel
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Papurau’n ymwneud â threfnu'r daith i Israel adeg y Pasg 1981, ynghyd â llawysgrif y gyfrol Crud ein cred a gyhoeddwyd yn 1983.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Papurau’n ymwneud â dosbarthiadau yn Llanrhaeadr, ger Dinbych, Carrog, Yr Wyddgrug, Henllan a Colwyn a Glyndŵr.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Darlithiau gan gynnwys rhai ar 'Tafodiaith Arfon'; T. H. Parry-Williams; Catrin o Ferain; Daniel Owen; Ieuan Gwynedd. 'R. Williams-Parry a Choleg Bangor 1927-34' ; 'Ai Williams-Parry yw'n bardd mwyaf?', ynghyd ag 'Englynion i RWP'.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Ymhlith y sgriptiau mae ‘Y crocbren’ sef drama bropaganda mewn pedair act ar ffurf torion o’r wasg a berfformiwyd gan Gwmni Talysarn; ‘Y deryn brith’; ‘Mawrion Sir Ddinbych’; a '‘Y blwch’, sgript a anfonodd i gystadleuaeth ysgrifennu drama, ynghyd â llythyr oddi wrth Is-bennaeth rhaglenni Cymru, 1970, yn cynnwys sylwadau am y ddrama.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Sgriptiau gan gynnwys ‘Yr argae’ (cystadleuaeth drama radio y BBC), 'Y fflam' a ‘Ffarwel haf’.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Emynau, 1967-1969, a anfonodd i gystadlaethau cyfansoddi emyn yn eisteddfodau Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan, gan gynnwys emyn ar gyfer gwasanaeth priodas, ynghyd â chopi o’r Drysorfa, Mehefin 1957, yn cynnwys ei erthygl ‘Crefftwr o emynydd’ (Thomas Jones o Ddinbych).
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Llythyrau ato fel golygydd Y Faner, 1969-1972, oddi wrth nifer o Gymry blaenllaw yn ymwneud â chyfrannu erthyglau i’r papur newydd wythnosol.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
'Y prociadau a'r cymhellion a'u hanes cudd', nodiadau cefndirol gan y bardd ar rai o'i gerddi.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Tair pennod o nofel 'Y dorch ddrain', a phennod gyntaf nofel heb deitl mewn teipysgrif.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Cerddi gan J. Rhosydd Williams; nodyn bywgraffyddol gan J. Glyn Davies am ei daid John Jones, Talysarn, 1950; llyfr nodiadau yn cynnwys ‘O gell fy nghof’ gan J. R. Williams o’r Rhondda; sgript J. Idris Owen ar Twm o’r Nant; a sgript ‘Y glas cledd’ (Cylch Llenyddol Dyffryn Clwyd), rhaglen ddramatig o farddoniaeth a llenyddiaeth, 1966.
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Cyfieithiad o’r gerdd ‘Cwm tawelwch’ gan Kenneth Lloyd Jones, disgybl chweched dosbarth o Ysgol Quarry bank, Lerpwl, ynghyd â llythyr oddi wrth y cyfieithydd at Gwilym R. Jones. Fe’i cyhoeddwyd yn 'The Quarry', cylchgrawn yr ysgol yn 1955,
Rhan oPapurau Gwilym R. Jones
Sgript 'Plas Penucha', 1969, y bu'n cymryd rhan yn y darllediad ac yn annerch yn seremoni cyflwyno plac i goffau Thomas Jones ym Mhlas Penucha, Caerwys.