Showing 1729 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau File
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Dysgwyr

Cerdd: ‘Gobaith’ (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: ‘Taith’ (y tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson mewn caffi; dyddiadur wythnos; llythyr yn annog rhywun i ddysgu Cymraeg; adolygiad o unrhyw ffilm neu raglan deledu; a chasgliad o ddeunydd i ddenu ymwelwyr i’ch ardal mewn unrhyw ffurf (gwaith grŵp neu unigol).

Rhyddiaith

Stori fer: ‘Cyfrinach’; stori fer ar gyfer pobl ifanc yn ei harddegau: ‘Perthyn’; ysgrif i ddathlu bywyd unrhyw berson; colofn newyddiadurol yn trafod pwnc llosg; ysgrif naturiaethol addas ar gyfer ei chyhoeddi yn Y Naturiaethwr; sgript gomedi ar gyfer radio (agored); traethawd yn cofnodi enwau lleoedd cysylltiedig ag afon neu ran o afon; darn o ryddiaith: ‘Ffoi’; cystadleuaeth i rai sydd wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith): ‘Dathlu can mlynedd a hanner yn y Wladfa’ ar ffurf traethawd, cyfres o negeseuon e-bost neu flog.

Dysgwyr

Cerdd: 'Y Ffin (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: ‘Pontydd’ (tlws rhyddiaith); sgript rhwng dau berson ar drên; darn o ryddiaith: ‘Y gwyliau gorau erioed’; llythyr at eich cyngor lleol yn mynegi barn am ailgylchu; adolygiad o unrhyw lyfr neu ffilm; casgliad o ddeunydd i ddenu ymwelwyr i’ch ardal chi mewn unrhyw ffurf; a pharatoi deunydd ar gyfer dysgwyr.

Cyfansoddiadau cerddorol

Gosodiad dan 25 oed ar y geiriau 'Tymhorau' gan Dewi Jones; darn i fand pres yn seiliedig ar y thema seryddiaeth (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Cen Williams; darn rhwng 4 a 6 munud i ensemble siambr o unrhyw offerynnau; darn i gôr plant/ieuenctid SSA/SAB; darn i gerddoriaeth i gyd-fynd â ffilm o'r archif Sgrin a Sain y Llyfrgell genedlaethol gyda'r ffilm ar y thema gofod a/neu sêr; a chân werinol ac acwstig ei naws (Tlws Sbardun).

Barddoniaeth

Awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol: 'Porth'; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Olion’; englyn unodl union: ‘Llwybr Arfordir Cymru'; englyn ysgafn: Cawdel/Llanast’; telyneg: ‘Heddwch’; cywydd hef fod dros 24 o linellau: ‘Bae’; soned: ‘Esgidiau’; filanél: ‘Breuddwyd’; pum triban i’r synhwyrau; chwe limrig: ‘Cwynion’; cyfansoddi cerdd i’w llefaru ar lwyfan gan bobl ifanc 12-16 oed; deg cyfarchiad mewn cardiau ar gyfer amrywiaeth o achlysuron; a hyd at ugain o gerddi sydd yn waith gwreiddiol a newydd gan yr awdur (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg).

Traethawd: 'Country life in any commot[e] in Wales during the first half of the 19th century' gan 'Pennant' (Lewis Davies ...,

Traethawd: 'Country life in any commot[e] in Wales during the first half of the 19th century' gan 'Pennant' (Lewis Davies, Cymer, Port Talbot) ynghyd â beirniadaeth G. Hartwell Jones. Dewisiwyd Penderyn yn Ne Brycheiniog fel testun [rhif 17 yn y Rhestr Testunau].

Cyfieithiad o'r Ffrangeg i'r Saesneg: 'La Destinée de la France' (Renan) gan 'Brython' (W. Ifor Jones, Penbedw), 'Eira' (Lily Blodwen ...,

Cyfieithiad o'r Ffrangeg i'r Saesneg: 'La Destinée de la France' (Renan) gan 'Brython' (W. Ifor Jones, Penbedw), 'Eira' (Lily Blodwen Gittins, Dolanog, Y Trallwng) ac 'Un o lan y Fawddach' (Maggie Higgins, Y Trallwng) ynghyd â beirniadaeth Miss J. Davies. Rhannwyd y wobr gyntaf rhwng 'Brython' ac 'Eira' y dyfarnwyd yr ail wobr i 'Un o lan y Fawddach' [rhif 22 yn y Rhestr Testunau].

Timothy Lewis ar 'Cyfieithu i'r Gymraeg: Treasure Island neu Peter Pan a Lords Men of Littlebourne'. Dyfarnwyd y wobr i ...,

Timothy Lewis ar 'Cyfieithu i'r Gymraeg: Treasure Island neu Peter Pan a Lords Men of Littlebourne'. Dyfarnwyd y wobr i 'Min y Ffrwd' (Huw Edwards, Y Rhyl) [rhif 20 yn y Rhestr Testunau]. [Gweler llawysgrif LlGC 13742C am gyfieithiad [Philip Thomas], 'Ynys y Trysor'].

Results 1 to 20 of 1729