Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Doris [Strick], yn Guildford

Balch o dderbyn ei llythyr er nad oedd y cynnwys yn galonnog iawn. Sôn am ffrind a adnabu yn Aber[ystwyth] sy'n byw yn y ty yn Kingston-upon-Thames a elwir yn Robin Hill gan Galsworthy yn y Forsyte Saga. Sôn am John Rowley a'i deulu a mynd ymlaen i drafod neuadd gymysg Gymraeg Pantycelyn yn Aberystwyth. Sôn am Mrs Llewelfryn Davies. Sôn am berfformiad o "Pilgrim's Progress" yn Theatr y Werin. Trafod amgylchiadau ariannol. Beirniadu'r ysgolion cyfun mawr. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Doris Strick, yn Guildford

Daeth ar draws gerdyn a'i hatgoffodd o KR a bu'n siarad amdani fyth ers hynny. Gobeithio ei bod yn cofio am y dyddiau hapus a dreuliodd yn Y Swistir. Mae hi yn bedwar ugain. Gwelodd gip ohoni unwaith ar raglen deledu Gymraeg. Mae'n mynd i aduniad [myfyrwyr] Aber[ystwyth] bob Pasg ond bod ei chydnabod yn prinhau'n enbyd. Cafodd ei hethol yn llywydd cangen Llundain o'r Cyn-fyfyrwyr a dyfynnodd Alun Mabon "Aros mae'r mynyddau mawr" iddynt yn ei hunig araith. Atgofion am Aberdâr. Bydd yn mynychu'r aduniad yno hefyd ac yn galw gyda'i chydnabod. Saesneg/English.

Curriculum Vitae Kate Roberts pan oedd yn 43 oed ynghyd ag adysgrifau o dystlythyrau E. Prosser Rhys, 1934, a rhai ...,

Curriculum Vitae Kate Roberts pan oedd yn 43 oed ynghyd ag adysgrifau o dystlythyrau E. Prosser Rhys, 1934, a rhai Margaret S. Cook, Prifathrawes ysgol Ramadeg y Merched, Aberdâr, yr Athro W. J. Gruffydd, Caerdydd, a'r Athro Ifor Williams, Bangor, 1927, pan ymgeisiodd Kate Roberts am swydd dirprwy Arolygydd Ysgolion. 7 Tt. Teipysgrif. Saesneg/English.

Results 1 to 20 of 2413