Print preview Close

Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Derbyniodd y tri thraethawd ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith [yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl]. Fe'u hanfonodd at KR ddydd Llun. Awgrymu ei bod yn sylwi ar waith "Mab Gwydyr" ac "Efryd Afraid". Mae'r ail yn ysgrifwr medrus yn null Tegla [Davies]. Mae "Mab Gwydyr" yn rhoi darlun o gymdeithas drwy gyfrwng ysgrifau. Gwell gan Saunders Lewis ei waith ef. Ei duedd ef fyddai atal y Fedal oni bai ei bod hi neu Hugh Bevan yn frwd iawn dros un ohonynt. [Ataliwyd y wobr].

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Mae'n bwriadu anfon llawysgrifau'r Efrydiau Catholig ati i'r swyddfa yr wythnos ganlynol. Sylwadau ar drafodaeth radio yng nghornel y llenor rhwng [D.] Tecwyn Lloyd, [Islwyn] Ffowc Elis ac R. S. Thomas. Mae'r olaf yn fardd Saesneg gwir dda ac ef oedd yr unig feddwl creadigol yn eu plith. Syniadau Seisnig ail-law oedd gan y lleill. Mae darllen beirniadaeth lenyddol Saesneg yn lladd pob annibyniaeth a gwreiddioldeb yn y beirdd a'r beirniaid ifainc Cymraeg. Dywedent nad oes bellach gorff o sumbolau a dderbynnir gan y gymdeithas ac y geill y bardd modern bwyso arno. Ond mae'r beirdd eisteddfodol i gyd o 1900 i 1953 wedi pwyso ar holl gorff y traddodiad Cristnogol. Dyna un gwahaniaeth sylfaenol rhwng sefyllfa'r bardd yng Nghymru a bardd yn Lloegr neu Ffrainc neu'r Almaen. Dynwarediad o'r Saeson yw cymaint a chymaint o'n beirniadaeth ni. Hoffai gael sgwrs gyda KR am Y Faner rywdro.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Drwg ganddo glywed am salwch KR. Mae'n addo adolygu pryddest Kitchener a beirdd Cadwgan iddi, mae'r llyfrau ganddo. [Swn y Gwynt sy'n Chwythu a Cerddi Cadwgan]. Mae ef ar ganol ysgrifennu drama i'r BBC - Siwan. Ni fydd gobaith iddo fynd ymlaen â hi tan y Calan ar ôl i'r coleg ailddechrau ymhen pythefnos. Mwynhaodd atgofion KR am ei mam yn fawr iawn. Mae'n ceisio perswadio Cyngor y Celfyddydau i roi gwobr o gan punt i R. Williams Parry am Cerddi'r Gaeaf. Gweld mwyalchen a phry genwair ar y lawnt yn ymgiprys.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Diolch am gael cyfrol David Bell i'w hadolygu. Mae'n cynnwys adolygiad ar Y Llen [Dyfnallt Morgan]. Rhoddodd lawer o feddwl i'r tri adolygiad - Kitchener Davies, Cerddi Cadwgan a'r bryddest Y Llen, gan obeithio drwyddynt roi cyfeiriad i feddwl y beirdd ifainc. Nid yw'n debyg o fedru ysgrifennu dim arbennig ar gyfer rhifyn Nadolig Y Faner. Mae wedi suddo i gyfrol D. J. [Williams], Hen Dy Ffarm. Mae'r llyfr yn gampwaith o gyfoeth dihysbydd, yn waith mawr.

Llythyr oddi wrth Howell E. James, yn Llandaf, Caerdydd,

Dyfynnu o Haydn's Dictionary of Dates ynglyn â dyddio, e.e. newid dechrau'r flwyddyn i Ionawr y cyntaf yn 1752 yn hytrach na'r 25 Mawrth, dyddio dwbl, etc. Nodi dyddiadau talu rhenti ffermydd yng Nghymru. Gellir prynu copïau ail-law o'r llyfr dyddiadau mewn siopau llyfrwerthwyr.

Results 1 to 20 of 2413