Diolch i KR am ysgrifennu ato ynglyn â Chae'r Gors. Mae Cae'r Gors yn gyfrifoldeb i'r genedl. Nid oes rheidrwydd arni hi brynu'r lle. Esbonio sut y gofelir am Y Gangell, cartref Elfed. Mae'n credu eu bod yn bryd cael Cymdeithas Ddiogelu Cartrefi Cymru. Mae'n warthus fod yn rhaid i rywun alw sylw o hyd at gartrefi enwogion wedi mynd â'u pen iddynt cyn bod neb yn gweithredu.
Diolch am siec. Mae am geisio ei gorau i fynd i'r ysgol ramadeg y flwyddyn ddilynol. Nid yw yn hoffi symiau ond bydd yn darllen llawer. Mae wedi agor llyfr cynilo yn y post efo'r siec ac yn bwriadu prynu gym shorts.
Sôn am ei brysurdeb llenyddol. Adroddiad hir ar gynllun Cae'r Gors. Mae'r perchennog yn gofyn £550 am y lle bellach. Mae Elwyn Roberts yn symud ymlaen yn syth i brynu'r lle.
Diolch am ddau lythyr. Cawsant golled fawr o golli Men. Dioddefai gyda'r fogfa. Y mae eu tristwch yn anhraethadwy. Mae ei fam yno er ei bod mewn oed mawr. Diolch am ddycnwch KR yn Y Faner.
Mae'n ymddiheuro na fydd yn medru bod yng nghyfarfod anrhydeddu KR yn [Ysgol Haf y Blaid] ym Machynlleth. Mae Cronfa Deyrnged KR yn awr yn ddeuddeg cant o bunnoedd. Mae llawer yn teimlo yn amharod i achub adeilad ond yn ddigon parod i gyfrannu tuag at rodd ariannol iddi hi. Gofyn am gyfraniad ar gyfer rhifyn Nadolig Taliesin.
Maent newydd ddychwelyd o'u gwyliau yn Abergwaun lle cawsant amser difyr yng nghwmni D. J. Williams a Waldo Williams. Y mae'n cytuno gyda'r syniadau a luniodd am ei nofel The Island of Apples. Mae dehongliad arall posibl sef nofel ar y bywyd mewnol. Mae'n egluro yr hyn a oedd ganddo ef mewn golwg wrth lunio'r gyfrol.
Mae'n cael pwl o bronchitis am tua thair awr bob nos cyn cysgu. Mae'n falch fod cyfrol Alun y Cilie wedi ennill gwobr yr Academi. Dylai fod hanes y llyfr yn Taliesin. Cyfeirio at ei ddarlith ar Ann Griffiths [yn Eisteddfod y Drenewydd]. Y peth sy'n ei flino fwyaf yw bod pobl yn dweud mai pregeth oedd y ddarlith ac mae sôn am ei brofiadau ef yr oedd ac nid rhai Ann Griffiths. Mae'n cael llyfrau Cymraeg i'w hadolygu gan y Western Mail ac nid oes ganddo le iddynt ar ei silffoedd, byddai'n barod i anfon rhai ati.
Diolch am y sylw a roddwyd i'w syniadau yn Y Ddraig Goch. Trafod y W.I. a'r mudiad newydd. Ni fedr fynd i bwyllgor Merched y Blaid ond anfonodd awgrym ynglyn â "Termau Ty".
Atgof am David Ellis a oedd yn dysgu mewn ysgol ym Mae Colwyn. Mae'n cofio'r prifathro yn hysbysu'r ysgol iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Mawr. Cyfarfod y prifathro'n ddiweddarach a hwnnw'n dweud nad cael ei ladd a wnaeth David Ellis ond diflannu o'r gwersyll a phriodi merch i bennaeth llwyth brodorol. Mae hanesyn tebyg gan Cynan mewn pryddest. Bu'n pregethu yn Ninmael ac yr oedd llun David Ellis yn y festri.
Mwynhaodd erthygl Kate Roberts ar David Ellis (Penyfed) yn Taliesin. Mae'n anfon copi o gywydd o eiddo David Ellis, sef 'Cywydd Gyrru Eryr i Gymru'. Atgofion am David Ellis a thrafod ei farddoniaeth. Bu'n gwasanaethu ar long o'r enw 'Warilda' yn cludo clwyfedigion o Salonica i Malta ac Alexandria nes dychwelyd i Loegr yn 1916. Copi o'r cywydd.
Diolch am ei llythyr. Yr oedd yn fraint cael croesawu KR. Cafodd y pentrefwyr siom na chawsant gyfle i gwrdd â KR. Awgrymu dillad isaf sy'n rhoi cryn esmwythyd i'r aelodau. Trafferthion ynglyn â dysgu'r Gymraeg yn ei hysgol.
Ni fedr ymweld â Garthewin tan y Sadwrn. Mae gweithwyr ganddo yn ychwanegu darn at y ty. Penderfynodd gael un ystafell ar gyfer y llyfrau i gyd. Mae'n gorfod bwyta drws nesaf.
Anfon copi o lythyr oddi wrth S. Powell Bowen, Bae Colwyn ynglyn â Chae'r Gors. Amgau copi o'r llythyr sy'n nodi'r taliadau posbil wrth yr awr i'r adeiladydd. Saesneg/English.
Diolch am ei chyfraniad i "Glas Gledd". Tybed na ddylid cyhoeddi blodeugerdd o farddoniaeth ryfel? Dylai glywed oddi wrth Lorraine Davies ynglyn â syniadau sydd ganddo am raglenni radio yn seilieidig ar waith KR. Canmol y stori "Dau Hen Ddyn" yn Barn [rhif 50, Rhag. 1966, tt 36-7 a 39]. Roedd ei hagoriad yn ei atgoffa am linellau yn nhelyneg fach Thomas Hardy i William Barnes. Awgrymu darlledu storïau KR gyntaf cyn eu cyhoeddi - byddai'n atgyfnerthiad o safbwynt cyllid iddi.