Showing 2258 results

Archival description
Papurau Carneddog Welsh
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

1931, Ebrill 20.

[J. W. Jones]. Minffordd, Oakeley Square, Blaenau Ffestiniog. Heb glywed oddi wrth J. R. Owen, gofyn beth ddylai wneud, sôn am werthu llyfrau ac am John Dafis, y Bwtsiar (diwedd y llythyr yn eisiau).

A. Hughes.

Murcwymp, Four Crosses, Chwilog. Ymddiheuro am beidio â bod adref pan alwodd. Gweld dim diben rhoi'r penillion yn y 'Manion' mwyach. Y penillion yn llaw Carneddog yn amgaeedig.

A. Ivor Parry,

Penarth. Gofyn os yw ail gyfrol Blodau'r Gynghanedd wedi ymddangos, os nad yw, oes posibilrwydd y bydd yn fuan.

A. J. Evans,

Fronheulog, Sarn. Diolch am gyhoeddi ei benillion yn y 'Manion'; amgau arian am gopi o'r gyfrol O Greigiau'r Grug.

A. J. Evans,

Fronheulog, Sarn. Anfon penillion cyfarch i Katie Griffith ar achlysur ei phriodas â Griffith Griffith, 13 Ebrill 1930, i ymddangos yn y 'Manion'.

A. J. Sylvester,

10 Downing Street, Llundain. Llythyr yn ei hysbysu nad yw'n deilwng o bensiwn, ond ei fod yn cael £100 o'r Royal Bounty. Saesneg/English.

A. Lockwood,

Hafod y Gwynt, Penygwryd. Gofyn am gefnogaeth pan yn ceisio am le David Hewitt ar y Cyngor Sir. Saesneg/English.

Aerwen Jones.

Cae Corniog, Penisa'r-waun. Ysgrifennu dros G. O. Williams ynglyn ag ymholiad am y gân 'Cân Sylweddol'.

Alfred Williams,

Beddgelert. Rhywbeth i'w gynnwys yn ei gyfrol; eisiau dau gopi [Cerddi Eryri].

Alun Einion Jones,

Bryntirion, Llanfair, Harlech. Esboniad ar yr enw Erw Gochyn ger Eglwys Llandanwg.

Alva Tomson,

Glasgow. Diolch am gopi o Tannau Tegfelyn. Canmol y gyfrol ac amgau englyn er clod; cymharu atgofion Tegfelyn o'i gartref â'i rai yntau.

Ann Jones,

Rhydau Gloywon, Llithfaen. Pryddest 'Y Mynydd' buddugol yn Eisteddfod yr Aelwyd, Llithfaen.

Results 1 to 20 of 2258