Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor, 1915:. D10: Llyfr ysgrifennu; pensel, gyda nodiadau a newidiadau pensel, 11 Mai 1914. D11: Llyfr ysgrifennu; inc, gyda nifer bychan o newidiadau pensel. D12-42: Llythyrau (31), 1963, oddi wrth gyfeillion ac ysgolheigion, yn cydnabod derbyn copi o adargraffiad preifat o Y Ddinas (Llandysul, 1962). Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Glyn Ashton (D12), E. Gwyndaf Evans (D14), Idris Ll. Foster (D15), Ll. Wyn Griffith (D16), Ll. Bruce Griffiths (D17), Mathonwy Hughes (D18), David Jenkins (D20), Gwilym R. Jones (D21), John Gwilym Jones, Y Groeslon (D24), D. Tecwyn Lloyd (D27), 'Meuryn' [Robert John Rowlands] (D29), Iorwerth C. Peate (D31), Brinley Rees (D33), T. Ifor Rees (D34), Goronwy Roberts (D35), Ben Bowen Thomas (D36), Alun Llywelyn-Williams (D39), J. E. Caerwyn Williams (D40), Stephen J. Williams (D42).