Showing 811 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Gwenith Gwyn, Welsh
Print preview View:

"Casgliad o Ffeithiau Cysylltiedig a Hanes y Bedyddwyr Cymreig yn Mhenrhiwceibr Morganwg", yn cynnwys nodiadau, 1882-6, o gofnodion dyddiol Thomas ....

"Casgliad o Ffeithiau Cysylltiedig a Hanes y Bedyddwyr Cymreig yn Mhenrhiwceibr Morganwg", yn cynnwys nodiadau, 1882-6, o gofnodion dyddiol Thomas Edwards, "Iorwerth Goch", Llety Ifor, Aberpennar (tt. 1-17); copi o lythyr oddi wrth Joshua Davies, Aberteifi, 1911, yn olrhain hanes yr Ysgol Sul ym Mhenrhiw-ceibr (tt.18-21); nodiadau o lawlyfr Eglwys y Rhos, Aberpennar, 1882, ynglyn â Phenrhiw-ceibr (tt. 22-24); nodiadau gan "Iorwerth Goch" o Seren Cymru ynglyn ag achos Penrhiw-ceibr (tt. 25-27); a dalen rydd yn cynnwys hanes Eglwys Jerusalem, Penrhiw-ceibr.

Cerdd, 'Dinah', ar ffurf pennillion pedair llinell, wedi'i rhannu'n un adran ar ddeg. 16 tud. deipiedig. (gw. 753).

Hanes Dinah Puw, merch bwthyn tlawd, Stablau, Rhyd y Felin, Môn, yn cael ei thwyllo a'i beichiogi gan Tom, mab Plas y Caera, gerllaw. Priododd Miss Morus, merch gyfoethog o Fôn yn ei lle. Bu Dinah farw'n ddeunaw oed. Dyma dri phennill, gan gynnwys y cyntaf a'r olaf. . Yn Ynys Môn, ar gyrrau rhos,. Ym murmur tair o ffrydiau. Mae bwthyn bychan, isel, gwyn,. Yn dwyn yr enw 'Stablau' ... . A Hannah Puw, ar gyfyng awr,. A aeth yn amser chwinsa. Â Thecell pres, a dwy lwy wen,. Yn rhodd i Tom y Caera ... . 'Ymwrthod raid â Dinah Puw. Am dorri Rheol Seithfed.'. A Dinah er ys awr yn gorff. Ar 'styllen gul, dan dorsed!.

Cerdyn, yn cynnwys y pennill.

Cerdyn, yn cynnwys y pennill:. Ar wahodd Cymrodorion. Y Barri yn y De,. O Bengwern bwa Hafren. Daeth Spurrell fawr i'n tre. Yn westai ei Gwyl Ddewi. Am nineteen twenty nine,. I godi iaith y Cymro. Heb sarnu'r Saesneg fain.

Chwe toriad o'r Barry and District News, (c.1926), sef chwe rhifyn o'r gyfres 'Ye Daies of Yore, Archaeological and Legendary ....

Chwe toriad o'r Barry and District News, (c.1926), sef chwe rhifyn o'r gyfres 'Ye Daies of Yore, Archaeological and Legendary Notes, by Gwenith Gwyn' - yn ymwneud â Chymru a gwledydd eraill. Dyma rai eitemau:. A Y rhigymau Saesneg a ddefnyddid gan Gymru i ysgrifennu enw mewn Llyfr. B Casgliad o rigymau poblogaidd. Ee. Arwyddocâd gwahanol ddyddiau'r wythnos ynglyn â phriodi, geni, a golchi.

Results 81 to 100 of 811