Showing 811 results

Archival description
Papurau Gwenith Gwyn,
Print preview View:

Llyfr nodiadau, yn cynnwys.

Llyfr nodiadau, yn cynnwys:. A 'Dwy bregeth o eiddo Joh Edwards Tynyfron, arweinydd cyntaf y Bedyddwyr Albanaidd yn Nglynceiriog'. O'r Greal, Mawrth 1865, (tt. 1-7). B 'William Griffiths Tyn-y-mynydd Glynceiriog. Prif ffeithiau ysgrif goffaol Dew Mawrth yn y Greal am Tachwedd 1867' (tt. 7-9). C Rhestr yn Saesneg o blant di-fedydd yng Nghofrestr Plwyf Croesoswallt (tt. 10-13).

'Borau Oes Ceiriog' (13 tud.), yn cynnwys, er enghraifft, hanes dylanwad Moses Hwmffra, gwas ym Mhen y Bryn, arno (yr ....

'Borau Oes Ceiriog' (13 tud.), yn cynnwys, er enghraifft, hanes dylanwad Moses Hwmffra, gwas ym Mhen y Bryn, arno (yr oedd yn rhigymwr ac yn ddarllenwr) a dylanwad ei fam, Phoebe Hughes (Evans, gynt). 'O ochor ei dad disgynnai o deulu tywysogol Powys: o ochor ei fam disgynnai o deulu hynod am eu talent i rigymu a'u gwybodaeth lysieuol ... Ar ol dychwelyd o Loeger a chyn priodi ymdaflodd Phoebe Evans i ysbryd rhan uchaf Dyffryn Ceiriog yn nechra y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyrchai i eglwys plwyf Llanarmon Dyffryn Ceiriog ... Yna ar ol cinio elai at Hafod Adams fferm hynafol ar lan y Galedwyn i ddawnsio a chwara gyda ienctid y cylch. Byddai yno grwth neu delyn bob prynhawn Sul trwy yr haf. Yr oedd hefyd yn ffyddlon i'r Twmpathau Chwara, a cherddai filltiroedd i weld action anterliwdiau. Cofiai dorraeth o hen rigymau a chwedlau ...'.

'Enwogion Dyffryn Ceiriog'. Llyfr (tt. 1-23), yn cynnwys nodiadau byrion ar 26 o enwogion, yn eu plith: Y Parch John ....

'Enwogion Dyffryn Ceiriog'. Llyfr (tt. 1-23), yn cynnwys nodiadau byrion ar 26 o enwogion, yn eu plith: Y Parch John Jones, awdur carolau; Edward Roberts (Iorweth Goch) 'Bardd Carolau ac Anterliwdydd'; John Jones, telynor a chrythor; Phoebe Hughes, mam Ceiriog; Racher Jones y Crythor (brawd John Jones); Sara Davies, 'meddyges lysieuol ddihafa ... a chantores'; Edward Isaac, gof a 'rhedegwr di-guro'; Richard Evans, 'gwr hoff o chwaraeon'.

Llyfr nodiadau, yn cynnwys.

Llyfr nodiadau, yn cynnwys:. A 'Hanes Cymanfaoedd y Bobl a Elwir Yn Fedyddwyr Yn Y Flwyddyn M.D.cc., XCIV. (tt. 1-17). B 'Enwau yn Llanengan, Sir Gaerynarfon, a'u hystyron. Gan 'Bachgen' Sef Mr Huw Roberts (Ceiriad) Abersoch. Yn awr, Penrhiwceibr'. Yn llawysgrifen Gwenith Gwyn (tt. 18-21).

Results 1 to 20 of 811