Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn
Print preview View:

W. Hughes-roberts, Catford,

Diolch am yr emyn rhagorol [cf. rhif 81]. Yr emyn-dôn 'Bryn Gilead' o waith ei dad. Yn amgau llythyr, 19 Rhag. 1912, oddi wrth ei gyfaill Dewi [ ] yn diolch am y sypyn llyfrau ac am lun EW [rhif 82a].

L. J. Roberts, Abertawe,

EW ymhlith y clasuron ym mhapurau arholiad plant Cymru. Bu geiriau'r gerdd 'Hwiangerdd Sul y Blodau' o gysur iddo ef ac eraill.

EW at Silyn [Roberts],

Cyfieithiad Syr Francis Edwards o'r gerdd 'Merch yr Hafod'. Cyfrol Miss Ffoulkes. Loes iddo oedd clywed i SR ei 'fwrw allan' o'i ddarlith. Englynion a gaewyd allan o Gyfrol Goffa Hedd Wyn. Awdl goll Hedd Wyn ar y Dr Griffith John.

EW at 'Wil Bryan', Towyn,

Eisteddfod Towyn - diolch am y gydnabyddiaeth hael. Gobeithio nad yw wedi tramgwyddo Geufronydd. Y 'neuritis' wedi ei adael am y tro.

J. R. Morris, Lerpwl,

Penderfynwyd danfon cydnabyddiaeth o dair gini yr un iddo ef a Pedrog am feirniadu yn Eisteddfod y Ddraig Goch. Beirniadaeth EW ar y 'Myfyrdraethau'. Wedi bwriadu danfon pryddest i Eisteddfod Y Bala.

John Lloyd, Dolgellau,

Holi am wybodaeth yngl?n â chyfansoddi'r emyn 'Os wyt yn flin o dan dy faich' a ddewiswyd ar gyfer Cylchwyl Harlech, 1923.

E. Tegla Davies, Dinbych,

Cais am ddarn o farddoniaeth ar gyfer Y Winllan. Yn danfon rhodd [copi o Tir y Dyneddon; gweler rhif 416] fel arwydd o'i barch mawr tuag ato.

EW [at E. Towyn Jones],

Diolch am y gyfrol [gweler rhif 156]. Diolch hefyd am ei ryddhau o'i addewid i ysgrifennu gair o annerch ar gyfer yr argraffiad ysblennydd o'r Telynegion [cf. rhif 155].

Results 1 to 20 of 318