Showing 173 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd, file
Print preview View:

Llyfrgell Coleg y Bala,

Cardiau mynegai o'r Llyfrgell a achubwyd ganddo wedi iddynt gael eu taflu ar ôl arwerthiant yna, Medi 1964, ynghyd â thoriad o'r Cymro, 1962, 'Coleg y Bala i gau? Bu'n Brifysgol Gymraeg - felly cadwn ddrws agored yno medd D. Tecwyn Lloyd' a phapurau'n ymwneud ag amgylchiadau gwerthu'r Llyfrgell gan gynnwys adroddiad gan Tecwyn Lloyd 'Gwerthiant Llyfrgell Coleg y Bala. Haf 1964', 1965.

Llythyrau awduron at Hughes a'i Fab,

Llythyrau, 1909-1949, gan gynnwys rhai oddi wrth E. Tegla Davies, O. M. Edwards (12), T. Gwynn Jones (13), H. Elvet Lewis (2), Thomas Richards, 'Meuryn', 'Moelona' (4), J. Ellis Williams (3) a R[ichard] Hughes Williams (2).

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967.

Llythyrau K-W,

Llythyrau, 1942-1992. Ymhlith y gohebwyr mae Phyllis [Kinney] (2), Tom [Parry], Derec Llwyd Morgan, James Nicholas, Bryn Roberts, Meic Stephens, Enid [Pierce Roberts], W. D. [Williams], [J.] [E.] Caerwyn [Williams] (3), a Gruffydd Aled [Williams], ynghyd â chopi teipysgrif o gyflwyniad [J.] [E.] Caerwyn [Williams] i D. Tecwyn Lloyd, John Saunders Lewis (Dinbych, 1988).

Kinney, Phyllis, 1922-

Llythyrau A-H,

Llythyrau, [1958]-[1970] . Ymhlith y gohebwyr mae Cynan (2), John Cule (2), Hafina Clwyd, Alun [Talfan Davies], Aneirin Talfan Davies (4), Pennar [Davies], Cassie Davies (2), Donald Evans, Gwynfor Evans (4), Alun R. Edwards (2), Hywel [Teifi] Edwards (7), Ifan ab Owen Edwards, Ifans [Meredydd Evans] (2), Tom [T. I. Ellis] (6), Islwyn [Ffowc Elis] (3), Bruce Griffiths, Gwenallt, ac W. R. P. George (2).

Cynan, 1895-1970.

Adroddiadau ysgol,

Ei adroddiadau ysgol tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Bala, 1927-1933, ynghyd ag adroddiad a dderbyniodd yn Ysgol y Cyngor, Llawrybetws, 1927.

Ymweliadau tramor,

Papurau'n ymwneud â'i ymweliad ag Iwgoslafia, Medi 1976, gydag Undeb y Llenorion, taith Côr Meibion Bro Glyndwr i'r Iseldiroedd, 1988, a thaith i Fflandrys i goffáu Hedd Wyn, 1992. Ceir ei basbort hefyd, 1958-1968.

DLitt,

Rhaglen y seremoni ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, 14 Gorffennaf 1990, a rhaglen yn cynnwys sgript cyfarfod Cylch Llenyddol Bro Glyndŵr a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Cyfnod, y Bala, i'w longyfarch ar ei radd, Chwefror 1990. Ceir hefyd fwydlen y noson gyda chartŵn o waith E. Meirion Roberts ar y clawr.

Roberts, E. Meirion.

Papurau arholiad,

Papurau a osodwyd gan Fwrdd Canol Cymru, 1923; papurau arholiad Prifysgol Cymru, 1934-36, ynghyd â chardiau aelodaeth cymdeithasau, taflen ei seremoni raddio yn BA, 1937 a rhaglen, 11 Gorffennaf 1990, y seremoni pan y'i dyfarnwyd yn Gymrawd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor, a thoriad o'r Cyfnod yn cofnodi'r achlysur.

Nodiadau ymchwil,

Dau lyfr nodiadau'n cynnwys nodiadau o Archifau'r Coleg Seisnig yn Rhufain, Archifau'r Fatican ac eraill am y pererinion o Gymru, ynghyd â llythyr oddi wrth olygydd Trivium (Cylchgrawn Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan) yn ymwneud â'i erthygl 'Welsh Pilgrims at Rome', a gwahanlithoedd o'r erthygl a gyhoeddwyd mewn dwy ran yn y cylchgrawn, 1971-1972. Ceir hefyd ffolder yn dwyn y teitl 'Recusants' sy'n cynnwys ei waith ymchwil a braslun o'i ddarlith 'Rome and Wales', Croesoswallt, 1959.

Llyfrau nodiadau,

Llyfrau nodiadau, 1939-1963, gan gynnwys cyrsiau ar 'Y cenhedloedd bychain’, 'Hanes Cymru hyd 1890', 'Hanes Llenyddiaeth Gymraeg’, 'Theori wleidyddol’, ynghyd â chyrsiau Ysgol Haf 1950.

Ceisiadau am swyddi,

Ceisiadau am swyddi fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Astudiaethau Efrydiau Allanol ym Mhrifysgol Caeredin, [cyn 1955], tiwtor cynorthwyol yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Bangor, 1955, a darlithydd cynorthwyol yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol Caerdydd (llenyddiaeth ddiweddar), 1957.

Results 1 to 20 of 173