Showing 167 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau D. J. Williams, Abergwaun file Welsh
Print preview View:

Adolygiadau o'i weithiau eraill

Torion o'r wasg yn cynnwys adolygiadau o'i gyfrolau A. E. a Chymru (Aberystwyth, 1929); Hen Wynebau (Aberystwyth, 1934); Storïau'r Tir Glas (Aberystwyth, 1936); Storïau'r Tir Coch (Aberystwyth, 1941); Storïau'r Tir (Aberystwyth, 1966); gwerthfawrogiad Dafydd Jenkins o'r Gyfrol Deyrnged i D. J. Williams a gyhoeddwyd yn 1965 o'r rhaglen radio 'Byd Llyfrau'; ynghyd ag adolygiadau o Straeon ac Ysgrifau Buddugol yn Eisteddfod Castell Nedd a gyhoeddwyd yn 1934 sy'n cynnwys ei dair stori fer a beirniadaeth Kate Roberts ar gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1935. -- Nodwyd ffynhonnell a dyddiad yr adolygiadau gan D. J. Williams ar yr amlenni.

Amrywiol

Ymhlith y papurau ceir llythyr, 1810, oddi wrth Mary Jones, Garregwen, [Trelech, Sir Gaerfyrddin] at ei mab David P. Jones yn Llundain; marwnad brintiedig, 1818, i Margaret Price, Ty-Llwyd ym mhlwyf Cynwyl Gaeo, gan John Jones o'r un plwyf; cerdyn ffolant wag, [1840]-[1860]; llyfr gwaith ysgol Margaret Williams [chwaer D. J. Williams], 1897, tra yn Ysgol Gynradd Rhydcymerau; telynegion 'Cantre'r Gwaelod' gan 'Murmur y Gragen' a anfonwyd i Eisteddfod Gadeiriol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Gwŷl Dewi 1913; beirniadaethau 'Anellydd' [Parch. Arthur S. Thomas] yn Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Sir Abergwaun, 1925; englynion gan 'Briallydd' i 'William Lewis, Abermawr', [1925]-[1969]; a 'Presidential address to the National Association of Colliery managers (South Wales Branch)' gan E[mlyn] Miles [?brawd-yng-nghyfraith D. J. Williams], [1957]. Ceir hefyd 'D.J.D: Some Memories of our Life Together', sef atgofion Dr Noëlle Davies o'i bywyd gyda'i gŵr Dr D[avid] J[ames] Davies, [1958] (copi hefyd yn NLW ex 1377).

Davies, Noëlle, 1899-1983

Anerchiadau

Anerchiadau: 'Breuddwydio' a draddodwyd i Gymdeithas y Cymrodorion Bryste, 1924; 'The Welsh Ideal and the League of Nations' ac 'A ellir gwahanu crefydd oddiwrth wleidydiaeth', [1920]-[1961]; a phwyntiau ar gyfer anerchiadau gan gynnwys 'Diwylliant Sir Gaerfyrddin' i Aelwydydd yr Urdd yn y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn, 1949; 'Tri Syr Rhys o'r Cantref Mawr', 1955, Cymdeithas y Cymrodorion, Llundain, 1955, a Chaerdydd, 1956; a 'Cenedlaetholdeb yr Iddew' ar gyfer Cymanfa Dair Sirol yr Annibynwyr, 1958.

Barddoniaeth Waldo Williams

'Cywydd Waldo i'r Bwm Beili' (pan ddaeth i'w dŷ i gyrchu ei eiddo yn Haf 1955); llyfr nodiadau'n cynnwys drafft o awdl 'Tŷ Ddewi' gan Waldo Williams y dyfarnwyd iddi'r ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936; ynghyd â'r [cywydd mawl a ysgrifennodd i D. J. Williams adeg ei anrhegu yn Ysgol Haf Plaid Cymru, Abergwaun, Awst 1964] yn ei law.

Williams, Waldo, 1904-1971

Beibl Penrhiw

Beibl yn perthyn i John Williams (1808-1886), tad-cu D. J. Williams yn Llansawel, yn cynnwys cofnodion, 1808-1925, ar gyfer genedigaethau a marwolaethau, gan gynnwys ychwanegiadau diweddarach yn llaw D. J. Williams a Siân Williams.

Cofrestr aelodau [Eglwys Bryngwenith]

Cofrestr aelodau [Eglwys Annibynnol Bryngwenith, Llanfair Trelygen], 1859-1860, yn dangos eu cyfraniadau tuag at y weinidogaeth. Ceir nodyn tu mewn i'r clawr gan y [Parch. Dan Evans, tad Siân Williams, gweinidog ar yr eglwys am wyth ar hugain o flynyddoedd]: 'Derbyniwyd y llyfryn hwn 13 Medi '32 trwy law Mr David Jones Crynant oddiwrth Miss Adams Tynewydd'.

Eglwys Bryngwenith (Llanfair Trelygen, Wales)

Cymrodorion Abergwaun

Papurau, 1913-1964, gan gynnwys tocynnau aelodaeth a rhaglenni'r Gymdeithas, cofnodion a chyfrifon ariannol, 1920-1929, a phoster o gyngerdd 'Cyflwyno'r Delyn', 1949, yn Abergwaun.

Cymdeithas Cymmrodorion Abergwaun

Dosbarthiadau Cymraeg yn Abergwaun

Dau lyfr nodiadau, 1920-1921, a 1946-1947, yn ymwneud â dosbarthiadau Cymraeg a gynhaliwyd dan nawdd Prifysgol Cymru yno, ynghyd â thair gwers yn cynnwys ymarferion a luniwyd gan D. J. Williams ar sut i ysgrifennu stori fer ar gyfer Coleg Glyndŵr, Caerdydd, 1949 [coleg yn dilyn cyrsiau drwy gyfrwng gohebiaeth].

Dramâu

Sgriptiau mewn teipysgrif: 'Ann y Wernolau', 1921, drama gan Mrs Teifi Jones, mam Idwal Jones, buddugol yn Eisteddfod Aberaeron (copi hefyd ymhlith Papurau Idwal Jones B/5), 'Kith and kin' sef comedi E. Eynon Evans, [1939]-[1946], ynghyd â 'Gwirionedd', drama un act mewn ffurf alegori, [1922], gan 'Seth' mewn llawysgrif.

Evans, E. Eynon

Results 1 to 20 of 167