Showing 163 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon file Welsh
Print preview View:

Aelodaeth

Llyfr yn cofnodi enwau'r rhai a ddaethant â thocynnau aelodaeth o eglwysi eraill i Eglwys Engedi, 1886-1894, ac yng nghefn y gyfrol ceir enwau'r rhai a dderbyniwyd yn gyflawn aelodau, 1886-1893. Ceir llyfr hefyd yn rhestru'r ymgeiswyr am aelodaeth, 1867-1886, gan gynnwys rhai a dderbyniwyd o Eglwysi eraill ac aelodau a ddiarddelwyd. Yn ogystal ceir nifer helaeth o docynnau aelodaeth, 1939-1997.

Cofrestr

Yn y gyfrol a ddisgrifir fel 'scrap book' ceir rhestri, 1916-1939, o'r aelodau newydd a dderbyniwyd a'r dull o wneud hynny ac o ba Eglwys, ynghyd â phapurau rhydd, 1947-1948, yn ymwneud â galw'r Parch. D. Tudor Jones yn weinidog i'r eglwys yn 1948. Yng nghefn y gyfrol ceir rhestr o'r rhai a fu farw, 1916-1938.

Cofrestr Eglwysig

Nodir y dechreuwyd defnyddio'r gyfrol o 1 Ionawr 1905 ymlaen ond ceir dyddiadau cynt na hwn fel y dyddiad y derbyniwyd yr aelodau i gymundeb. Rhestrir yr aelodau a'u cyfeiriadau, ynghyd ag unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â'u symudiadau, a dyddiad marwolaeth. Yng nghefn y gyfrol ceir manylion am swyddogion yr Eglwys ac am lyfrau casgliad misol y weinidogaeth, 1905-1936.

Results 1 to 20 of 163