Y Gronfa Gynnal (llyfr 5): 1961-1966
- A5/9
- file
- 1961-1966
Y Gronfa Gynnal (llyfr 5): 1961-1966
Y Gronfa Gynnal (llyfr 1): 1964-1966
Y Gronfa Gynnal (llyfr 4): 1964-1966
Y Gronfa Gynnal (llyfr 6): 1965-1966
Ffurflenni cyfamodi, 1956-1986, ynghyd â rhestri o gyfamodwyr, a phapurau cysylltiedig, 1951-1984.
Cofrestri anghydffurfiol, 1866-1998; cofrestri Eglwysig, 1864-1975; llyfrau cofnodion, 1882-1999; llyfrau cofnodion eraill, 1871-1996; gohebiaeth, 1940-1998; papurau'n ymwneud â chynnal a chadw'r adeilad, 1901-1998; gweithredoedd, 1809-1929; cyfarfodydd gweddi, 1867-1909; tocynnau aelodaeth, 1939-1997; ffurflenni claddedigaeth, 1917-1944; ystadegau, 1938-[1993]; eiddo'r Eglwys, 1937-1990; a holiadur, [1922]-[1998], am gynnal oedfaon.
Llyfr nodiadau a ddefnyddiwyd i restru priodasau, marwolaethau a bedyddiadau, aelodau newydd, a'r rhai a ymadawodd, 1986-1998, ynghyd â llythyrau aelodaeth, 1993-1998.
Rhestrir yr aelodau a'u cyfeiriadau, ynghyd ag unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â'u symudiadau, a dyddiad marw.
Llyfr cofnodion: 1934-1978 (Ebrill)
Ymhlith y cofnodion mae adroddiadau am ddathliadau canmlwyddiant yr achos yn 1942, teyrngedau i Anthropos a thaflen y cyfarfod coffa a gynhaliwyd iddo yn 1944, ynghyd â thaflenni sefydlu gweinidogion yr Eglwys.
Llyfr cofnodion: 1978 (Medi)-1999
Ceir llawer o gofnodion yn trafod cyflwr a dyfodol yr Eglwys, 1998. Nodir fod y cofnodion yn gorffen yn Rhagfyr 1998 ar glawr y gyfrol ond ceir cofnodion ar gyfer Chwefror 1999 yn ogystal.
Cymdeithasfa'r Gaeaf 1967, 1970
Llythyrau, 1986-1991, yn trafod materion amrywiol yn ymwneud â'r Eglwys.
Llythyrau a phapurau ariannol, 1991.
Ymhlith y papurau ceir rhaglen Cymdeithas Lenyddol Engedi, 1997-1998.
Llythyrau a chynlluniau, 1901-1905, yn ymwneud â chodi ysgoldy newydd yn 1906 a phrynu adeiladau er mwyn cael y tir, mewn amlen yn dwyn enw Owen Roberts, un o ysgrifenyddion yr Eglwys, ynghyd ag adroddiad, 1929, ar yr adeilad gan arolygwr y sir.
Llythyrau, 1975-1976, oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Arfon yn ymwneud â'r cynllun arfaethedig i ailddatblygu gan ddefnyddio'r Eglwys. Llythyrau, 1979-1985, yn ymwneud ag adnewyddu Eglwys Engedi, gan gynnwys adroddiad, 1979, ar gyflwr yr adeiladau.
Cofnodion Ysgolion Sul Engedi a Mark Lane, 1871-[1990].