Showing 31 results

Archival description
Papurau John Stoddart
Print preview View:

Cyfieithiadau cerddorol: eisteddfodau cenedlaethol

Mae'r is-gyfres yn cynnwys llungopïau, llawysgrifau, teipysgrifau a chopïau cyhoeddedig o gyfieithiadau gan John Stoddart o ganeuon, 1987-2001, a ddefnyddiwyd ar gyfer eisteddfodau cenedlaethol, ynghyd â rhai a olygwyd ganddo a darnau lle bu'n ymgynhgorydd lleisiol. Ceir hefyd gohebiaeth berthnasol.

Caneuon Lieder

Mae'r ffeil yn cynnwys cyfieithiadau (geiriau'n unig), 1988-1998, ar gyfer Cystadleuaeth Lieder.

Gohebiaeth a chofnodion ariannol

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1987-2000, yn ymwneud â chyfieithiadau o ganeuon ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Ceir sylwadau a nodiadau'n ymwneud â chyfieithiadau unigolion eraill yn bennaf gyda rhai cyfieithiadau gan John Stoddart yn eu plith. Ceir hefyd taliadau am waith cyfieithu, golygu, ac ymgynghori lleisiol, 1987-2000.

Cerddi

Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi llawysgrif a theipysgrif, [1970x2000], gan John Stoddart yn ôl pob tebyg.

Cyfieithiadau o straeon Gaeleg

Mae'r ffeil yn cynnwys cyfieithiadau gan John Stoddart, [1995x2000], o straeon nas cyhoeddwyd yn y gyfrol Y meudwy a storïau Gaeleg eraill (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 2000).

'Cerddi'r Gael'

Mae'r ffeil yn cynnwys copïau o'r sgript, 'Cerddi'r Gael. Darlith Deledu gan John Stoddart', 9 Ebrill 1984.

Osian

Mae'r ffeil yn cynnwys llungopïau o erthyglau, 1895-1988, yn ymwneud ag ymchwil John Stoddart ar Osian.

'Osian'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif, [1980x2000], o lyfr arfaethedig John Stoddart ar 'Osian', ynghyd â nodiadau llawysgrif perthnasol; yn eu plith mae cyfres o gerddi'n dwyn y teitl 'Helfa' (nid oes sicrwydd mai John Stoddart oedd y cyfieithydd ac os oeddynt yn rhan o'r gwaith ai peidio).

Papurau ymchwil

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau, [1943x2001], sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil John Stoddart (Osian, ieithoedd, yn arbennig yr Aeleg, a cherddoriaeth); ynghyd â thorion papur newydd a phapurau amrywiol eraill.

Deunydd printiedig

Mae'r ffeil yn cynnwys eitemau printiedig amrywiol a llungopïau o gerddoriaeth gyhoeddedig yn bennaf, [1910]-1994, amryw ohonynt yn ganeuon Gaeleg.

Cyfieithiadau cerddorol

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfieithiadau Cymraeg yn bennaf, 1987-2001, o ganeuon gan John Stoddart ynghyd â gohebiaeth berthnasol.

Caneuon

Mae'r ffeil yn cynnwys rhai darnau, 1988-1999, ar gyfer Cystadleuaeth Lieder.

Cyfieithiadau o gerddi Gaeleg

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau, [1985x2000], o gyfieithiadau John Stoddart o gerddi Iain Crichton Smith (Iain Mac a'Ghobhainn) a ymddangosodd yn y gyfrol Cerddi Gaeleg cyfoes: detholiad o farddoniaeth Aeleg a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod 1937-1982, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau yr Academi Gymreig cyf. VI (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru ar ran Yr Academi Gymreig, 1986).

Results 1 to 20 of 31