Showing 36 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Heol Tre-Dŵr
Print preview View:

Gohebiaeth Ysgrifennydd y Capel

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth rhwng ysgrifennydd y Capel ac eraill, 1939-1995, yn ymwneud yn bennaf â rhedeg y Capel o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud ag adnewyddu'r Capel ar gyfer ei ganmlwyddiant ym 1952, ac yn ymwneud â'r cyfarfod dathlu canmlwyddiant. Ceir hefyd eitemau yn ymwneud â datgorffori'r Capel rhwng 1993 a 1995, megis llythyrau, papurau ariannol a phapurau yn ymwneud â'r gwasanaeth datgorffori.

CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Heol Tre-Dŵr

  • GB 0210 BETDWR
  • fonds
  • 1851-1999

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â gweinyddu'r Capel a'r Ysgol Sul, [c.1851]-1999.

Eglwys Bethel, Heol Tre-Dŵr (Water Street, Wales)

Hanes yr Eglwys

Mae'r ffeil yn cynnwys gweithiau gan yr ysgrifennydd, Jenkin M. Wilde, ar hanes yr Eglwys. Mae'n cynnwys darlith a draddodwyd ganddo yng nghyfarfod datgorffori'r Capel, erthygl ar gyfer y papur bro, a darn o waith estynedig dan y teitl 'Hanes yr Eglwys a Rhai Atgofion'. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llungopïau o ddwy ddogfen gyfreithiol, 1879 a 1945, yn ymwneud â phrydles a pherchnogaeth tir y safle.

Results 1 to 20 of 36