Showing 5 results

Archival description
Papurau'r Parch. W. J. Griffiths,
Print preview View:

Papurau'r Parch. W. J. Griffiths,

  • GB 0210 GRIFFWJ
  • fonds
  • 1880-1991/

Papurau amrywiol,1880-1991, a gasglwyd gan y Parch. W. J. Griffiths, yn ymwneud gan mwyaf ag enwad yr Annibynwyr yng Nghymru. Maent yn cynnwys hanes printiedig capel Seion, y Golch, Chwitffordd, sir y Fflint; gohebiaeth a phapurau'n ymwneud â chysylltiad y rhoddwr â'r mudiad dirwestol yng ngogledd Cymru; gohebiaeth a phapurau'n ymwneud â Chyngor Eglwysi Rhyddion Llanelli,1986-1990; amryw ysgrifau diwinyddol ar fedydd, safonau moesol, proffwydoliaeth etc.; llyfrau nodiadau a phregethau'r Parch. Cornelius Griffiths (1829-1905); a phapurau'n ymwneud â'r Parch. David Rees (1804-85) = Miscellaneous papers, 1880-1991, collected by Rev. W. J. Griffiths, relating mainly to the Independent denomination in Wales. They include a printed history of Seion chapel, y Golch, Whitford, Flintshire; correspondence and papers relating to the donor's involvement with the temperance movement in north Wales; correspondence and papers concerning the Council of Free Churches at Llanelli, 1986-1990; various theological essays on baptism, moral standards, prophecy etc.; notebooks and sermons of Rev. Cornelius Griffiths (1829-1905); and papers relating to Rev. David Rees (1804-85).

Y Parch. W. J. Griffiths

Tri llyfr nodiadau Saesneg yn perthyn i'r Parchedig Cornelius Griffiths (1829-1905), hen-hen-dad-cu'r rhoddwr, yn cynnwys darlith ar Martin Luther a ....

Tri llyfr nodiadau Saesneg yn perthyn i'r Parchedig Cornelius Griffiths (1829-1905), hen-hen-dad-cu'r rhoddwr, yn cynnwys darlith ar Martin Luther a draddodwyd rhwng 1880 a 1894; traethodau diwinyddol ar fedyddio, safonau moesol y Beibl, proffwydoliaeth, y Cyfamod Newydd, Dinistr Jerwsalem, a chrefydd Mahomed a Rhyfel, ynghyd â hanes y llong gyntaf a ddanfonwyd yn 1882 i fyny'r afon Congo gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, yn dwyn y teitl A Momento of the S.S. Peace; a chyfrol yn dwyn enw L. A. Jones gydag adysgrifiadau o gerddi amrywiol; pregethau poblogaidd y Parch. Cornelius Griffiths a fu'n allweddol yn ffurfio Undeb Bedyddwyr Cymru yn y Tabernacl, Caerfyrddin, 1867; ynghyd â'i ddarlith 'Mahomed and Mahometanism' ac anerchiad 'An address delivered from the chair of the Bristol Baptist Association, held at Broadmead, June 17th and 18th, 1895'; pregethau, 1883-7, a draddodwyd gan y Parch. W.J. Henderson yng nghapeli Coventry; papurau'n ymwneud ag un o hynafiaid W.J.G., y Parch. David Rees (1804-85), gan gynnwys teyrngedau, llyfryn Howard Crago, David Rees - a father of union (Victoria, 1985), ynghyd â llythyrau, 1984-7, oddi wrth yr awdur ynglyn ag atgyweirio beddau'r teulu ym mynwent St Kilda, Awstralia; llyfr nodiadau, 1886, y Parch. Elias Davies (1859-1908) yn cynnwys 'Atebion i'r cwestiynau a roddwyd i mi gan Proff. Lewis ar ddydd fy ordeiniad yn Brymbo'; gweithred, 1917, yn ymwneud â morgeisio eiddo yn Heol Cwmgarw, Brynaman; llyfryn gan y Parch. Haydn Davies, The Pound Chapel Llanbister, Radnorshire 1896-1996; a llungopïau allan o gyhoeddiadau'r Bedyddwyr yn ymwneud â chapeli yn ardal Caerdydd a'r Tabernacle, Toxteth. Trosglwyddwyd albwm hynafiad y Parch. W. J. Griffiths, sef Robert Carey Griffiths, a ffotograffau o weinidogion y Bedyddwyr i Adran y Darluniau a'r Mapiau (199700122-3).

Braslun o hanes Tabernacl, eglwys y Bedyddwyr, Brecon Road, Merthyr Tudful, a ysgrifennwyd, c 1938, gan y gweinidog, y Parchg ....

Braslun o hanes Tabernacl, eglwys y Bedyddwyr, Brecon Road, Merthyr Tudful, a ysgrifennwyd, c 1938, gan y gweinidog, y Parchg J R Evans; llyfr cofnodion, 1984-9, Cyngor Eglwysi Rhyddion Aberafan (Port Talbot Free Church Council) ynghyd â gohebiaeth a phapurau perthnasol; tri llyfr nodiadau yn cynnwys torion o hanes a lluniau gweinidogion gan mwyaf; copi o benillion er cof am y Parchg T Eirug Davies; a llythyrau, 1961-2, at Wjg ynglyn â'r Parchg Evan Davies ('Eta Delta', 1794-1855) oddi wrth Edith M Davies, Llundain, un o'i ddisgynyddion.

Gohebiaeth a phapurau amrywiol yn ymwneud â Chyngor Eglwysi Rhyddion Llanelli, 1986-90, a Chynhadledd Genedlaethol Cyngor Ffederal Eglwysi Rhyddion, 1985-6 ....

Gohebiaeth a phapurau amrywiol yn ymwneud â Chyngor Eglwysi Rhyddion Llanelli, 1986-90, a Chynhadledd Genedlaethol Cyngor Ffederal Eglwysi Rhyddion, 1985-6, a gynhaliwyd yn Llanelli ym mis Mawrth 1986; gan gynnwys rhaglen Cymanfa Ganu Gwyl Llanelli yng Nghapel Als, Llanelli, Tachwedd 1987; copïau o'r Free Church Chronicle, 1989-90; copi o raglen Cyfarfod Sefydlu Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Llanelli (yr Adran Gymraeg) am 1990-1, sef y Parch. W. J. Griffiths; a chopi o gerdd i W.J.G. a'i fam gan Thomas Richards, Aberhonddu, a gyhoeddwyd yn Y Tyst, Rhagfyr 1990; ac hefyd copi o Llawlyfr yr Arddangosfa Genhadol yn Neuadd y Brifysgol, Aberystwyth, Mai 1927, yn gyflwynedig i'r Prifathro Owen Prys.

Llyfr cofnodion, 1942-6, cyfarfodydd chwarterol Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin; llyfr cofnodion, 1965-6, is-bwyllgor Cyngor Eglwysi Cristnogol Aberafan (Port Talbot Christian Council) ....

Llyfr cofnodion, 1942-6, cyfarfodydd chwarterol Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin; llyfr cofnodion, 1965-6, is-bwyllgor Cyngor Eglwysi Cristnogol Aberafan (Port Talbot Christian Council) yn ymwneud a'u tystiolaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, 1966; memorandwm, 1961, ynglyn a phenodi ymddiriedolwyr yn eglwys Annibynnol Ebenezer, Trelawnyd; hanes (printiedig, 7 tt.) eglwys Seion, y Golch, Chwitffordd, Sir Fflint; llyfrynnau dathlu hanner canmlwyddiant sefydlu Cymdeithas Cymrodorion y Rhyl a'r Cylch a Chymdeithas Cymrodorion Prestatyn, 1909-1959; a gohebiaeth a phapurau amrywiol yn ymwneud gan mwyaf a gweithgaredd y rhoddwr gyda'r mudiad dirwest, yn arbennig Undeb Dirwest Gwynedd (North Wales Temperance Union) ac Undeb Dirwestol Sir Fflint (Flintshire Temperance Federation).