Showing 115 results

Archival description
Papurau T. Ifor Rees a J. T. Rees
Print preview View:

Papurau T. Ifor Rees a J. T. Rees

  • Fonds

Papurau T. Ifor Rees, y diplomydd, cyfieithydd, ac awdur, a phapurau ei dad, J. T. Rees, y cerddor.

Ganed Thomas Ifor Rees yn 1890, yn un o blant J. T. Rees ac Elizabeth, Bronceiro, Bow Street, Ceredigion. Ar ôl derbyn ei addysg gynnar yn Ysgol Rhydypennau ac Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, aeth ymlaen i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1910. Dechreuodd ei yrfa fel diplomydd pan benodwyd ef yn Is-Gonswl Gweithredol ym Marseilles, Ffrainc yn 1913, ac yna yn Chargé d'Affaires yn Caracas, Feneswela yn 1914. Ar ôl treulio cyfnodau yn Managua, Nicaragwa; Bilbao, Sbaen; Mecsico; Havana, Ciwba; Milan, yr Eidal, fe'i penodwyd yn Weinidog Prydeinig yn Bolifia yn 1943 ac yn Llysgennad Ei Fawrhydi yn 1947 tan ei ymddeoliad yn 1950. Ef oedd Llysgennad cyntaf Prydain yn Bolifia. Bu farw yn 1977.
Mae ei bapurau yn cynnwys yn bennaf gohebiaeth deuluol a phersonol, gyda rhai yn ymwneud â'i yrfa a drafftiau o'i weithiau.

Ganed John Thomas Rees yn 1857 yng Nghwmgiedd, Ystradgynlais, sir Frycheiniog. Treuliodd ychydig o amser yn Aberystwyth o dan hyfforddiant y Dr Joseph Parry, cyn graddio gyda Mus.Bac. ym Mhrifysgol Toronto. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, bu'n athro, yn arweinydd corau ac yn dysgu yng Ngholeg Aberystwyth.

Rees, T. Ifor (Thomas Ifor), 1890-1977

'Y galon friw'

Drafft teipysgrif o 'Y galon friw: cyfieithiad a chyfaddasiad o "Torn sails" gan Allen Raine', gyda diwygiadau yn llaw T. Ifor Rees. Ymddengys mai Megan Morgan yw'r cyfieithydd, a chyhoeddwyd y gwaith o dan y teitl 'Calonnau briw' yn 1968.

Papurau Timothy Lewis

Un amlen wreiddiol yn cynnwys copïau o weithiau Timothy Lewis (1877-1958), wedi'u llofnodi a'u cyfarch yn bersonol i T. Ifor Rees, gan gynnwys copïau o 'Aberystwyth Revisions'.

Results 1 to 20 of 115