Showing 159 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Ffeil / File
Advanced search options
Print preview View:

Gŵyliau, darlleniadau, cynhadleddau, seminarau a theithiau

Deunydd yn ymwneud â'r mynych ŵyliau (gan gynnwys Gŵyl y Gelli, Gŵyl Gregynog a Gŵyl Tŷ Newydd), cynhadleddau, seminarau a theithiau barddonol y bu Menna Elfyn yn rhan ohonynt yng Nghymru, Prydain a thramor, gan gynnwys copïau o'r cerddi a ddatganwyd, llyfrynnau a phosteri, sgriptiau, amserlenni teithio/perfformio, gohebiaeth (gan gynnwys ymatebion i ddarlleniadau barddonol), torion papur newydd a nodiadau. Un o'r elfennau mwyaf diddorol o fewn y deunydd yw cyfres o frasluniau a dynnwyd o Menna Elfyn ac eraill oedd yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli 1997 gan Heather Spears. Ceir hefyd fanylion am ddarlleniad barddonol gan Menna Elfyn ar y cyd â pherfformiad cerddorol gan ei merch Fflur Dafydd.

Awdur preswyl

Deunydd yn ymwneud â chyfnodau Menna Elfyn fel awdur preswyl yn Nyffryn Clwyd, Ysgol Dinas Mawddwy a Phrifysgol Cymru Aberystwyth (ynghyd ag Elin ap Hywel), gan gynnwys nodiadau ac amlinelliadau o gyrsiau/dosbarthiadau, rhaghysbysebion a gwybodaeth am gyfnodau preswyl, datganiadau i'r wasg, torion papur newydd ac enghreifftiau o waith plant ysgol a gymerodd ran mewn gweithdai ysgrifennu.

Caneuon

Geiriau 'Cân yr Alltud/The Exile's Song', rhan gyntaf y gwaith corawl/cerddorfaol 'In These Stones, Horizons Sing', a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr a'r offerynnwr Karl Jenkins, y geiriau Cymraeg/Saesneg gan Menna Elfyn, y bardd, awdur, golygydd, libretydd, adolygydd llenyddol a'r cyn-ohebydd Grahame Davies a'r bardd Gwyneth Lewis. Comisiynwyd y gwaith ar gyfer agoriad Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2004 a'i ddatgan gan y canwr bâs-baritôn byd-enwog Bryn Terfel. Gwyneth Lewis gyfansoddodd y testun a ymddengys uwchben Canolfan y Mileniwm.
Testun yr eitem wedi'i arnodi/gywiro yn llaw Menna Elfyn.

Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg

Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron oddieithr Menna Elfyn ond sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn, gan gynnwys: adolygiadau o'i chasgliadau barddonol megis Aderyn Bach Mewn Llaw (1990), Cell Angel (1996), Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss (2001), Perffaith Nam/Perfect Blemish (2007) Merch Perygl (2011) a Murmur (Bloodaxe Books, 2012), The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (2003), a gyd-olygwyd gan Menna Elfyn a John Rowlands, Y Forwyn Goch (1992), drama am yr aflonyddwraig, diwinydd ac athronydd Simone Weil, ac Ar Dir Y Tirion (1993), drama'r geni tra amgen, ill dwy a sgriptiwyd gan Menna Elfyn, a'i nofel i blant a phobl ifanc Madfall ar y Mur (1993)); hanes digwyddiadau a gŵyliau y bu Menna Elfyn yn cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys Binding the Braids, digwyddiad barddonol rhyng-Geltaidd a gynhaliwyd yng Nghaeredin ym 1992, Gŵyl Lenyddol Ilkley, Swydd Efrog, 1992, a 'Threave Poets', digwyddiad fel rhan o Ŵyl Gelfyddydau Dumfries a Galloway a gynhaliwyd yn Castle Douglas ym 1994; erthygl yn ymwneud â darlleniad o farddoniaeth yng Nghymraeg, Saesneg, Lithwaneg a Malteg i ddathlu digwyddiad o fewn yr Undeb Ewropeaidd; datganiadau i'r wasg sy'n ymwneud yn bennaf â llwyddiannau barddonol a llenyddol Menna Elfyn, gan gynnwys ei phenodiad fel Bardd Plant Cymru am 2002-2003 (y bardd benywaidd cyntaf i'w hanrhydeddu â'r swyddogaeth honno); ac erthyglau yn ymwneud â Menna Elfyn, ei bywyd a'i gwaith, gan gynnwys toriad o'r Western Mail, 1 Rhagfyr 1970, sy'n dangos llun o Menna Elfyn a rhai o'i chyd-fyfyrwyr o Goleg y Brifysgol Abertawe yn gwrthdystio yn erbyn yr hyn a welsant fel y mewnlifiad gormodol o fyfyrwyr Seisnig i'r Brifysgol.
Dwy erthygl yn ymddangos fel petaent yn anghyflawn.
Sawl eitem yn ddi-ddyddiad.
Am y gweithiau gan Menna Elfyn a grybwyllir, gweler dan y penawdau perthnasol o fewn yr archif.

Barddoniaeth gynnar

Llyfrau nodiadau Menna Elfyn yn cynnwys ymdrechion barddoni cynnar a drafftiau o gerddi, rhai ohonynt a gynhwyswyd yn ddiweddarach ar ffurf cyflawn mewn gweithiau cyhoeddiedig megis Mwyara (1976), 'Stafelloedd Aros (1978) a Tro'r Haul Arno (1982), ynghyd â barddoniaeth gan feirdd eraill ac amrywiol ddyfyniadau.

O'r Iawn Ryw

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd O'r Iawn Ryw (1991), a olygwyd gan Menna Elfyn, gan gynnwys adolygiadau ac erthyglau.

Trying the Line

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd Trying the Line, (1997), a olygwyd gan Menna Elfyn, gan gynnwys adolygiadau.

Ffŵl yn y Dŵr

Deunydd yn ymwneud â Ffŵl yn y Dŵr (1999), cyfrol o gerddi ar gyfer pobl ifanc a olygwyd gan Menna Elfyn, gan gynnwys adolygiad.

Bondo

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Bondo (2017), gan gynnwys drafft anodiadol o'r gyfrol a datganiad i'r wasg.

Cerddi amrywiol

Cerddi gan Menna Elfyn a gynhwysir yn ei chyfrolau cyhoeddiedig ond nad oeddent wedi'u cyplysu o fewn y casgliad ag unrhyw gyfrol(au) penodol.

Teyrngedau i Seamus Heaney

Teyrngedau i Seamus Heaney, gan gynnwys barddoniaeth a rhyddiaith gan Hayden Murphy ac arlunwaith gan Hugh Bryden a John Behan.

Deunydd amrywiol

Deunydd cyffredinol yn ymwneud â chyfieithu, gan gynnwys hanes sefydlu canolfan gyfieithu yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, datganiad am y llenor Basgaidd Eli Tolaretxipi, cerddi yn yr iaith Arabeg a chyfieithiadau i'r Saesneg o hen benillion Cymraeg.

Erthyglau ac ysgrifau gan neu am Menna Elfyn

Erthyglau ac ysgrifau gan neu yn ymwneud â Menna Elfyn, gan gynnwys drafftiau o ragymadroddion, rhageiriau a phenodau ar gyfer deunydd cyhoeddedig; ynghyd â dwy erthygl am Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn, a gohebiaeth berthnasol at Menna Elfyn oddi wrth yr Athro John Rowlands ac eraill.

Nofel: Madfall ar y Mur

Deunydd yn ymwneud â Madfall ar y Mur (1993), nofel gyntaf Menna Elfyn ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys drafft cyntaf o'r gwaith, llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth sefydliad Juconi, sy'n cynnig lloches i blant y stryd yn ninas Puebla, Mecsico (a lle bu Menna Elfyn yn aros tra'n ymchwilio i'r nofel), nodiadau cefndirol, erthyglau papur newydd a chopi printiedig o'r nofel.

Y Ni a Nhw

Drafftiau o'r ddrama Y Ni a Nhw, sef addasiad Cymraeg gan Menna Elfyn o ddrama un-act David Campton Us and Them (1972).

Dadlau Rhin

Deunydd yn ymwneud â Dadlau Rhin, drama a gomisiynwyd ar gyfer Cwmni Theatr Hwyl a Fflag, Mawrth 1993, gan gynnwys crynodeb o'r naratif a chopïau drafft a theg o'r sgript.

Melltith y Mamau

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Melltith y Mamau (1995), gan gynnwys copi teg o'r sgript, posteri a thocynnau ar gyfer y perfformiad ac adolygiadau.

Trwy Waed y Galon/A Lifetime on Tiptoes

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Trwy Waed y Galon (2012), sef addasiad Cymraeg gan Menna Elfyn o ddrama Mazhar Tirmazi A Lifetime on Tiptoes (2012), gan gynnwys copi teg o destun y llyfr A Lifetime on Tiptoes: Script in Three Languages (2012), posteri printiedig yn hysbysebu noson agoriadol y ddrama, cardiau printiedig yn hysbysebu'r llyfr a gwybodaeth gefndirol.

Garden of Light

Deunydd yn ymwneud â Garden of Light, symffoni gorawl a gomisiynwyd gan gwmni Walt Disney ac a ysgrifenwyd ar gyfer Cerddorfa Philharmonig Efrog Newydd, y gerddoriaeth gan Aaron Jay Kernis a'r geiriau gan Menna Elfyn a David Simpatico, gan gynnwys rhaglenni printiedig, sgôr gerddorol, erthygl o'r wasg, cyfweliadau yn y wasg gyda Menna Elfyn a llythyr ynghylch ymweliad Menna Elfyn â'r Unol Daleithiau.

Results 1 to 20 of 159