Print preview Close

Showing 13 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Jenkins, Nigel, 1949-2014
Advanced search options
Print preview View:

Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss (2001), gan gynnwys adolygiadau, datganiadau i'r wasg, drafft o ragair gan Nigel Jenkins, llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth Tony Conran, un o gyfieithwyr y cerddi, a chyfieithiadau o rai o'r cerddi i Bortiwgaleg.

The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry

Deunydd yn ymwneud â The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (2003), cyfrol o gerddi mewn cyfieithiad a gyd-olygwyd gan Menna Elfyn a'r Athro John Rowlands, gan gynnwys adolygiadau, erthyglau, datganiadau i'r wasg, drafft o'r rhagymadrodd a gohebiaeth oddi wrth gyfranwyr i'r gyfrol (neu eu cynrychiolwyr) - sy'n cynnwys llythyr oddi wrth Twm Morys yn gwrthod y cynnig o gyflwyno'i waith - ynghyd â llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth John Rowlands ac oddi wrth aelodau o'r tîm cyfieithu, sy'n cynnwys Nigel Jenkins, Tony Conran, Robert Minhinnick a Joseph Clancy.

Gohebiaeth deuluol

Gohebiaeth at neu oddi wrth aelodau o deulu Menna Elfyn, gan gynnwys llythyr at Menna Elfyn oddi wrth ei mam; llythyr at Wynfford James, gŵr Menna Elfyn, oddi wrth Plaid Cymru; llythyrau cyd-rwng Wynfford James a Chyngor Celfyddydau Cymru; ebost at Menna Elfyn oddi wrth Wynfford James sy'n blaenyrru ebyst oddi wrth amryw ohebwyr; ebost at Menna Elfyn oddi wrth ei merch Fflur Dafydd sy'n blaenyrru ebyst a anfonwyd cyd-rwng Fflur Dafydd a Nigel Jenkins; a nifer o gardiau post a anfonwyd gan Menna Elfyn o amryw lefydd ledled y byd at ei rhieni a'i chwaer.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol, y rhan helaethaf ohono yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn, gan gynnwys erthyglau gan y beirdd Tony Conran a Nigel Jenkins, teyrngedau i Nigel Jenkins gan Menna Elfyn, Stevie Davies a Peter Finch a rhaglen ar gyfer digwyddiad i goffau Tony Conran; cyfeweliad rhwng Iwan Llwyd, Menna Elfyn a Nigel Jenkins; tri darn o'r nofel Martha, Jac a Sianco (2004) gan Caryl Lewis yn llawysgrif yr awdur; gwahoddiad i ddigwyddiad yng nghartref yr arlunydd Mary Lloyd Jones; deunydd PEN Cymru; datganiadau i'r wasg; torion a llungopïau o ddeunydd print; a thorion papur newydd, gan gynnwys rhaghysbyseb o berfformiad cerddorol gan Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn, yn Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin, 2007.

Cyfieithiadau o farddoniaeth Menna Elfyn gan eraill

Deunydd yn ymwneud â chyfieithu gwaith barddonol Menna Elfyn i ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Tsieinëeg, Lithwaneg, Swedeg, Wcreineg, Groeg, Hindi a Slofeneg. Ymysg y cyfieithwyr i'r Saesneg mae Robert Minhinnick, R. S. Thomas, Gwyneth Lewis, Tony Conran, Nigel Jenkins, Joseph Clancy, Elin ap Hywel a Gillian Clarke. Ynghyd â gohebiaeth yn ymdrin â'r gwaith cyfieithu rhwng Menna Elfyn, Nigel Jenkins, Gillian Clarke, Tony Conran a Joseph Clancy.

Madog

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Madog (1989), gan gynnwys drafft o'r sgript, adolygiadau o'r wasg, posteri printiedig yn hysbysebu'r ddrama a llythyr at Menna Elfyn oddi wrth Nigel Jenkins.

Prosiect celf dinesig Abertawe

Deunydd yn ymwneud â phrosiect celf dinesig yn ninas Abertawe, gan gynnwys cynlluniau, drafftiau a nodiadau, torion papur newydd a llythyr at Menna Elfyn oddi wrth ei chyd-weithiwr Nigel Jenkins a'r caligraffydd Ieuan Rees.

Prosiect Ysbyty Treforys

Prosiect celf gyhoeddus ar y cyd rhwng y beirdd Menna Elfyn, Nigel Jenkins, David Hughes a Rhys Owain Williams a'r artisitiaid Katie Allen, David Jones, Alan Goulbourne a Danielle Arbrey, gan gynnwys brasluniau, nodiadau a drafftiau, toriad papur newydd a gohebiaeth rhwng cyd-weithwyr y prosiect, yn bennaf oddi wrth Nigel Jenkins at eraill o'r cyfranwyr.

Prosiectau amrywiol

Llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth y bardd a'r llenor Nigel Jenkins ynghylch Gŵyl Ardd Glyn Ebwy 1992 (gan amgau llythyr oddi wrth y bardd a'r artist aml-gyfrwng Peter Meilleur) a llythyr at Menna Elfyn oddi wrth yr artist aml-gyfrwng Carwyn Evans ynghylch ei ymateb i gerdd gan Menna Elfyn.

Darlithoedd, cyrsiau academaidd a gweithdai

Deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai y bu Menna Elfyn yn darlithio iddynt, yn eu cyfarwyddo, neu fel arall yn ymwneud â hwynt, gan gynnwys: cwestiynau a bras nodiadau yn ymwneud â chwrs 'Merched o Feirdd yng Nghymru, Ddoe a Heddiw', a gynhaliwyd, yn ôl tystiolaeth pennawd y papur arholiad y defnyddiwyd ar gyfer y nodiadau, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan; bras nodiadau (llaw a theipysgrif) a wnaed gan Menna Elfyn ar gyfer seminarau fel rhan o gwrs 'Barddoniaeth yr Wythdegau' y bu'n darlithio arno yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd yn ystod y 90au, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol ar y "bardd dawnus" (yng ngeiriau Menna Elfyn) Ennis Evans, a fu farw ym 1982 yn 29 oed, gan y bardd a'r llenor Einion Evans, tad Ennis, ysgrif gan Ennis Evans yn dwyn y teitl 'Pe Meddwn Ddawn ...' a dau nodyn ar y deunydd bywgraffyddol ac ar ysgrif Ennis Evans yn llaw Einion Evans; manylion ynghylch amserlenni cwrs Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, 1999-2010, a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn a'r bardd a'r llenor Nigel Jenkins, ynghyd â datganiad o'r wasg yn ymwneud â'r cwrs ac amrywiol ddeunydd perthnasol, megis trosolygon y cwrs, gohebiaeth, cofnodion cyfarfodydd ac adroddiadau; gweithlen a baratowyd ar gyfer gweithdy llenyddol a gynhaliwyd yn Unol Daleithiau America yn 2005; cofnodion arsylwi ansawdd a dull dysgu a darlithio Menna Elfyn (arsylwyd gan y bardd, dramodydd a darlithydd Dr Dic Edwards, a sefydlodd y cwrs Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, lle bu'n ddarlithydd hyd at 2019; deunydd yn ymwneud â chwrs Ysgrifennu Ymchwil a gynhaliwyd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, 2014; a bras nodiadau darlith/trafodaeth yn llaw Menna Elfyn.
Gweler hefyd dan bennawd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant o fewn yr archif hon.
Mae Menna Elfyn yn Athro Emerita mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan.

Papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones

Papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn, yn cynnwys: llyfryn a argraffwyd ar gyfer Cyfarfodydd Ordeinio T. Elfyn Jones yn weinidog ar gapeli Annibynnol Llanboidy a Rhydyceisiaid, Mai 5 & 6 1937; cerdyn post, 8 Mawrth 1949, oddi wrth y Parchedig T. Elfyn Jones o Ficerdy Christ Church, Caerwynt (Winchester) at Mr & Mrs B. Stephens, Llysderi, Tymbl Uchaf, ger Llanelli; llyfryn a argraffwyd ar gyfer Cyfarfodydd Sefydlu'r Parchedig T. Elfyn Jones yng Nghapel Annibynnol y Tabernacl, Pontardawe, 6 Hydref 1949; copi o erthygl ysgrifennwyd gan T. Elfyn Jones i'r Tyst, cylchgrawn Undeb yr Annibynnwyr a'r capeli Annibynol (rhifyn 19 Ebrill 1973); llyfrau nodiadau yn cynnwys lloffion o erthyglau argraffedig, 1981, 1986, 1988-1997, a gyfrannodd y Parchedig T. Elfyn Jones i'r Tyst (arnodiadau yn llaw T. Elfyn Jones), ynghyd ag un erthygl yn llaw T. Elfyn Jones; erthygl o rifyn Tachwedd 2005 o Papur y Cwm, papur bro Cwm Gwendraeth, yn adrodd hanes lansio Seinio Clod (Gwasg Morgannwg, 2005), cyfrol o emynau'r Parchedig T. Elfyn Jones (gweler nodyn bywgraffyddol T. Elfyn Jones ym mhrif weithlen y rhan hon o'r archif); taflen wasanaeth angladdol y Parchedig T. Elfyn Jones, 15 Hydref 2008; llythyrau, ebyst a cherdyn cydymdeimlad a anfonwyd at Menna Elfyn ar achlysur marwolaeth ei thad, y Parchedig T. Elfyn Jones, y gohebwyr yn cynnwys y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor (mab y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans), John Roberts (Radio Cymru), Dr Medwin Hughes (Prifathro Coleg y Drindod, Caerfyrddin), y bardd a'r llenor Nigel Jenkins, yr awdur a'r cynghorydd tref Peter Hughes Griffiths a'r academydd, hanesydd, darlledydd ac awdur Hywel Teifi Edwards; ysgrif goffa i'r Parchedig T. Elfyn Jones gan Alun Lenny a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Barn, Tachwedd 2008; llyfrynnau a argraffwyd ar gyfer Oedfaon Teyrnged i'r Parchedig T. Elfyn Jones yng Nghapel y Tabernacl, Pontardawe, 23 Tachwedd [2008] (y daflen yn cynnwys detholiad o gerdd yn dwyn y teitl 'Nhad gan Menna Elfyn, un o'r cerddi a ymddangosodd yn ei chasgliad 'Stafelloedd Aros (Gwasg Gomer, 1978)), ac yng Nghapel Seion, Drefach, 22 Chwefror 2009; teyrnged (teipysgrif) i'r Parchedig T. Elfyn Jones gan y Parchedig Wilbur Lloyd Roberts (gweler hefyd lyfryn yr Oedfa Deyrnged i'r Parchedig T. Elfyn Jones); taflen argraffedig ar gyfer gwasanaeth i ddathlu bywyd y Parchedig T. Elfyn Jones, 30 Tachwedd [2008]; a llyfryn a argraffwyd ar gyfer Oedfa o Fawl i'r Parchedig T. Elfyn Jones a J. Rhyddid Williams yng Nghapel Seion, Drefach, 23 Medi 2012.