Showing 18 results

Archival description
Papurau Nansi Selwood
Print preview View:

Brychan dir

Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'i nofel gyntaf, adolygiadau o'r nofel a gyhoeddwyd yn 1993, ynghyd â llyfr lloffion, 1985-1988, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gerallt Lloyd Owen ar ran Gwasg Gwynedd. Ceir llythyrau oddi wrth ddarllenwyr yn ei llongyfarch ar ysgrifennu'r nofel, adolygiadau o gylchgronau ac anerchiadau i gymdeithasau ar gefndir hanesyddol a daearyddol y nofel a nodiadau ar gyfer cyfweliad radio.

Ysgrifau

Ysgrifau, [2002]-[2004], yn bennaf, gan gynnwys 'Hen Lyfr Cownt Ifan Williams y Bwtshwr', 'Cadw mis y pregethwr', 'Y ddafad golledig', 'Prynu mynaran', ‘Y dresar’, 'W. M. Llewelyn' ac ‘Ymweliad Trevor Fishlock â Phenderyn'. [Cyhoeddwyd rhai ohonynt o bosib yn Clochdar, papur bro Cwm Cynon].

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, [1937]-[2011], yn ei llongyfarch ar lwyddiant ei nofelau ac yn ymateb i'w chyhoeddiadau eraill, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'i gwaith radio.

Sgriptiau radio

Sgriptiau radio ‘At, i ac am Ferched yn bennaf’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1978; ‘Dim hiraeth’, ‘Merched yn Bennaf, 1978; ‘Newid bro’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1979; Berthlwyd a’r pregethwyr, 1981; ‘Gweithwyr crwydrol’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1977; ‘Cnwylla, blacled a cwshing’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1979; ‘Te parti’r Foel’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1979 a ‘Spectral Chapel’, 1981.

Dylanwadau

Pum sgript deipysgrif ganddi yn y gyfres ‘Dylanwadau’ a ddarlledwyd yn 1994, ynghyd â llyfr nodiadau yn cynnwys y sgriptiau mewn llawysgrif.

Papurau personol

Gohebiaeth yn ymwneud â’i chyfansoddiadau llenyddol, 1937-2011, papurau'n deillio o’i chyfnod fel disgybl ysgol, 1934-1940, a phersonalia, 1947-2017.

Gohebiaeth

Gohebiaeth, 1937-2011, yn ymwneud â'i gweithiau llenyddol a'i diddordebau amrywiol.

Papurau academaidd

Cyfrol yn cynnwys adroddiadau ysgol Nansi Selwood fel disgybl yn Ysgol y Faenor a Phenderyn, [Cefncoedycymer],1934-1940, tystysgrifau arholiadau a thystlythyrau yn deillio o’i chyfnod fel athrawes.

Papurau Nansi Selwood

  • GB 0210 NANWOOD
  • Fonds
  • [1934]-2017

Papurau’r nofelydd a’r hanesydd lleol Nansi Selwood, [1934]-2017, yn cynnwys gohebiaeth, drafftiau o'i nofelau Brychan dir, Dan faner Dafydd Gam a Y rhod yn troi, erthyglau a sgriptiau radio. = Papers of the novelist and local historian Nansi Selwood, [1934]-2017, comprising correspondence, drafts of her novels Brychan dir, Dan faner Dafydd Gam and Y rhod yn troi, articles and radio scripts.

Selwood, Nansi

Land of Brychan

Cyfieithiad Jack Selwood o nofel ei wraig Brychan dir a gyhoeddwyd fel The land of Brychan yn 1994, ynghyd â llungopïau o ddarluniau Roger Jones.

Selwood, J. R. (Jack Raymond)

Dan faner Dafydd Gam

Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'r nofel a alwyd yn 'Rhwng dau dywysog' yn wreiddiol, ynghyd ag adolygiadau o'r nofel a gyhoeddwyd yn 1991. [Comisiynwyd y nofel gan Gyngor y Celfyddydau ac fe'i cyhoeddwyd dan nawdd Cynllun Llyfrau Darllen Cyd-bwyllgor Addysg Cymru fel rhan o Brosiect Hanes Cymru].
Ceir trosiad hefyd o'r nofel gan Jack Selwood a gyhoeddwyd fel Beneath the banner of Dafydd Gam yn 1992.

Y rhod yn troi

Drafftiau llawysgrif o'r nofel a gyhoeddwyd yn 1993. Gelwid y nofel yn wreiddiol yn 'Tro'r rhod' neu 'Elisabeth Bodwigiad', ynghyd â chopi o Llais Llyfrau, Gwanwyn 1994, yn cynnwys adolygiad R. Cyril Hughes o'r nofel.

Adroddiadau darllenwyr

Adroddiad gan Nesta Wyn Jones ar y nofel Brychan dir gyda'i theitl gwreiddiol 'Rhwng dau dywysog', Y rhod yn troi gan R. Cyril Hughes a Dan faner Dafydd Gam gan Philip Wyn Jones, 1987-1991.

Jones, Nesta Wyn.

Personalia

Papurau personol amrywiol Nansi Selwood ac yn ymwneud â hi, 1947-2017, gan gynnwys rhaglen Noson Wobrwyo Gwobr Goffa Griffith John Williams, 1988, pan ddyfarnwyd iddi'r wobr gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei nofel Brychan dir; rhaglenni cymdeithasau y bu'n eu hannerch; allbrintiau o erthyglau a gyhoeddwyd ar y We yn 2012 yn ymwneud â’i golwg yn dirywio ac fel yr aeth ati i ddysgu braille yn ei hwythdegau, ynghyd â thaflen angladd ei mam Martha Williams, 1969, a thaflen gwasanaeth angladd Nansi Selwood, 18 Chwefror 2017.