Showing 1 results

Archival description
Only top-level descriptions Bodwrda, William, 1593-1660 Tudur, Siôn
Print preview View:

Barddoniaeth Gymraeg (Casgliad William Bodwrda),

  • NLW MS 16129D.
  • File
  • 1958

Copi ffotostat o 'Harvard MS Welsh 8,' sef cyfrol yn perthyn i gasgliad llawysgrifau William Bodwrda yn cynnwys barddoniaeth Gymraeg gan feirdd o'r 14 gan. hyd at 17 gan., a gopïwyd [1640x1660]. = A photostat facsimile of 'Harvard MS Welsh 8' which is a volume from the collection of manuscripts of William Bodwrda containing Welsh poetry from 14 cent to 17 cent, copied [1640x1660]
Ceir awdlau, cywyddau a darnau o hen ganu brud yn y llawysgrif, nifer ohonynt yn canu i deuluoedd sir Gaernarfon; cerddi a briodolir i Daliesin a Llywarch Hen; a nifer o eitemau sy'n unig gopïau, sef gwaith Huw Pennant (tt. 13-17), Ifan Tew Brydydd (tt. 53-5), Howel ab Reinallt (tt. 65-7), Siôn Phylip (tt. 90-4), Syr Huw Roberts Llên (tt. 94-7), a Siôn Tudur (tt. 127-31). Mae'n debyg nad llaw William Bodwrda mo'r un o'r ddwy brif law yn y gyfrol, ond credir fod y llawysgrif yn gynsail i un neu fwy o lawysgrifau ffolio William Bodwrda, megis BL Add. 14966 a Mostyn 145 (NLW MS 3048D). = The manuscript comprises 'awdlau', 'cywyddau' and old vaticinatory poetry, many relating to Caernarfonshire families; poems attributed to Taliesin and Llywarch Hen; and a number of items which are unique copies, namely the works of Huw Pennant (pp. 13-17), Ifan Tew Brydydd (pp. 53-5), Howel ab Reinallt (pp. 65-7), Siôn Phylip (pp. 90-4), Sir Huw Roberts Llên (pp. 94-7) and Siôn Tudur (pp. 127-31). It seems that neither of the two main hands in the volume belong to William Bodwrda, although it is likely that the manuscript served as the basis for one or more of William Bodwrda's folio manuscripts, particularly BL Add. 14966 and Mostyn 145 (NLW MS 3048D).

Bodwrda, William, 1593-1660