Showing 4 results

Archival description
Jones, Bobi, 1929-2017 Lewis, Saunders, 1893-1985
Advanced search options
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1959

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys, trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Alun Llywelyn-Williams, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Iorwerth Peate, Saunders Lewis, G. J. Williams, D. J. Williams, J. M. Edwards a Crwys. Yn ogystal â hyn ceir trafodaeth ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1960

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod cyfarfodydd cynnar yr Academi ac ethol ei swyddogion cyntaf; Yr Athro Griffith John Williams (Llywydd), Iorwerth Peate (Cadeirydd), Bobi Jones (Ysgrifennydd) a Gwilym R. Jones (Trysorydd), ynghyd â llungopïau o'r drafodaeth a fu yn y wasg a sylwadau ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' ac a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, John Gwilym Jones, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Saunders Lewis, J. M. Edwards, Thomas Parry, Gwenallt, Waldo Williams, Aneirin Talfan Davies, Pennar Davies, Euros Bowen, D. J. Williams, T. J. Morgan a D. Myrddin Lloyd.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1962

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Bobi Jones, ynghyd a sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; R. Gerallt Jones, Iorwerth Peate, Caradog Pritchard, Saunders Lewis, G. J. Williams a D. J. Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Llythyrau J-M,

Llythyrau, [1937]-[1965]. Ymhlith y gohebwyr mae Bobi Jones (5), Gildas [Jaffrennou] (17), Bedwyr L[ewis] Jones (4), David Jenkins, J. R. Jones (2), Gwenallt Jones (3), Thomas Jones (2), Gwyn [Erfyl] (3), A. O. H. Jarman (2), Selwyn Jones (3), Gwenan Jones, John [Gwilym Jones], Saunders Lewis, Roland Mathias (3), a Dyfnalt [Morgan].

Jones, Bobi, 1929-2017