Saith llythyr a dau gerdyn, 1943-1968, oddi wrth Waldo Williams at Anna Wyn Jones (née Richards), Mynachlog Nedd, ei gyd-athro yn Ysgol Botwnnog, 1942-1944 (ff. 1-38). = Seven letters and two cards, 1943-1968, in Welsh, from Waldo Williams to Anna Wyn Jones (née Richards), Neath Abbey, his colleague at Botwnnog School, 1942-1944 (ff. 1-38).
Cyhoeddwyd dau o'r llythyrau (ff. 11-16, 20-24) yn Waldo Williams: Rhyddiaith, gol. gan Damian Walford Davies (Caerdydd, 2001), tt. 101-104. Cynhwysir hefyd lythyr, 29 Mehefin 1972, oddi wrth James Nicholas at Anna Wyn Jones (ff. 39-41); nodiadau ganddi, [1971]-[1980au], rhai ohonynt ar gyfer ei herthygl 'Waldo', yn Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, gol. gan James Nicholas (Llandysul, 1977), tt. 37-49 (ff. 42-64); ac effemera yn ymwneud â Waldo Williams, 1978-1998 (ff. 65-74). Ceir cerddi gan Williams ar ff. 1, 6-7, 29 verso, 42-44. = Two of the letters (ff. 11-16, 20-24) are published in Waldo Williams: Rhyddiaith, ed. by Damian Walford Davies (Cardiff, 2001), pp. 101-104. Also included is a letter, 29 June 1972, from James Nicholas to Anna Wyn Jones (ff. 39-41); notes compiled by her, [1971]-[1980s], some in preparation for her article 'Waldo', in Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, ed. by James Nicholas (Llandysul, 1977), pp. 37-49 (ff. 42-64); and ephemera relating to Waldo Williams, 1978-1998 (ff. 65-74). Poems by Williams are on ff. 1, 6-7, 29 verso, 42-44.