Carolau Gilmor, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, 2011 [yr argraffiad cyntaf yn 1991]. Cynnwys: Ganwyd Crist i'r byd; Fe anwyd mab ym Methlem; Hwn yw fy mhlentyn i; Nos Nadolig yw; Carol ben-blwydd; Beth yw'r seren dlos?; Ave Maria; Anwylyn Mair; Goleuni'r byd; Carol Parsal (S.A.T.B. a S.S.A.A.).
Llyfryn a thudalennau rhydd o ddrafftiau a brasluniau o sgorau, gyda nifer o gopïau o 'Carol Benblwydd' [sic.] gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Llyfryn hefyd yn c ynnwys 'Linden Lea' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun.
Cardiau Nadolig a phen-blwydd, [1850]-[1945], a dderbyniwyd gan Mathonwy Hughes ac aelodau o’i deulu, gan gynnwys ei ewythr Silyn Roberts, a rhai cardiau coffa. Ceir cerdyn Nadolig hefyd oddi wrth 'Squadron-Leader & Mrs G. ap Silyn-Roberts, Henlow.
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1990-1999, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith yn trafod polisïau iaith carchardai Cymru; Arcêd y Frenhines Caerdydd; CIA Arena Ryngwladol Caerdydd; Cymdeithas Pêl-droed Cymru.
Papurau a llythyrau, yn ymwneud â’r cyhoeddiad o ddarlith flynyddol y Ganolfan, 1983; llyfryn y Gyngres Geltaidd, 1983; a’r llyfr ‘Canu Llywarch Hen’, 1983; yn cynnwys memoranda (1980 a 1983); amcangyfrifon argraffu (1981 a 1983); copi o lyfryn y Gyngres Geltaidd, (1983); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1981 a 1983), oddi wrth Eluned Morris; R. Geraint Gruffydd; Olwen Daniel; a H. Reid.
Caneuon Newydd i Ysgolion, y drydedd gyfrol, y geiriau gan Leslie Harries, y gerddoriaeth gan Gilmor Griffiths. Cyhoeddwyd gan Hughes a'i fab, Wrexham, 1960.
Mae’r ffeil yn cynnwys pedwar bocs mynegai Phyllis Kinney (2 goch a 2 lwyd) wedi eu trefnu A-E (ff.1-371), F-M (ff. 372-742), N-W (ff. 743-972), Y (ff. 973-1229). Maent yn nodi teitl, llinell gyntaf, enw lle, a’r ffynonellau lle cafwyd y caneuon (ceir allwedd i’r byrfoddau ar ddechrau bocs 1).
Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Cân y Tylwyth Teg', gyda 'trawsgyweiriad i'r Llywydd' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Morien Phillips. Rhan-gân i leisiau merched (S.S.A.).