Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cyfansoddiadau cerddorol

Pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel (Tlws y cerddor ); emyn-dôn i eiriau Tecwyn Owen; cyfansoddiad ar gyfer ensemble jazz neu blues (GNC/1a); darn ar gyfer ensemble taro (3-6 offeryn); darn i ddeuawd offerynnol; darn ar gyfer côr ieuenctid SATB; a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng (i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed).

Llawysgrif gyntaf Gwilym Elian

Llyfr nodiadau yn cynnwys barddoniaeth, 1856-1859, yn llaw William Cosslett (Gwilym Elian), ar amrywiol bynciau yn ymwneud yn bennaf ag ardaloedd Pontypridd a Chaerffili. = A notebook containing holograph poetry, 1856-1859, of William Cosslett (Gwilym Elian), on a variety of subjects relating mainly to the Pontypridd and Caerphilly areas.
Mae'r farddoniaeth yn cynnwys marwnadau i David Davies (Telynor Gelligaer) ac eraill (ff. 5 verso-6 verso, 13 verso-19, 29-31 verso, 80 verso-86); canu mawl i ffigyrau lleol (ff. 36-39, 41-43, 45-46, 49-52, 65-69); 'Pryddest i Gymmru [sic]' (ff. 1 verso-2, 3-5); ‘Cân ar gyflafan y Cymer’ [yn dilyn y ffrwydrad ar 15 Gorffennaf 1856] (ff. 7 verso-13); a cherddi i Ffynnon Taf (ff. 60-61 verso), y bont newydd ym Mhontypridd (ff. 75-78), a'r cynnydd masnachol yng Nghaerdydd (ff. 62-64 verso), Ystradyfodwg (ff. 72 verso-74 verso), a Phontypridd (f. 91 verso). = The poetry includes elegies for David Davies (Telynor Gelligaer), amongst others (ff. 5 verso-6 verso, 13 verso-19, 29-31 verso, 80 verso-86); poetry in praise of local figures (ff. 36-39, 41-43, 45-46, 49-52, 65-69); a pryddest in praise of Wales (ff. 1 verso-2, 3-5); a song commemorating the Cymmer Colliery explosion of 15 July 1856 (ff. 7 verso-13); and poems in praise of Taff's Well (ff. 60-61 verso), the new bridge at Pontypridd (ff. 75-78), and the growth of commerce in Cardiff (ff. 62-64 verso), Ystradyfodwg (ff. 72 verso-74 verso), and Pontypridd (f. 91 verso).

Barddoniaeth

  • NLW MS 23943B.
  • File
  • [1795]-[1830]

Cyfrol o farddoniaeth, [1795]-[1830], yn cynnwys copïau o faledi a cherddi eraill, yn dyddio'n bennaf o'r ddeunawfed ganrif. Mae'r rhan helaethaf o'r llawysgrif (ff. 1-42) yn llaw John Davies, gydag ychwanegiadau, [?1820au], gan John Evans, gof o Lanrhaeadr[?-ym-Mochnant], sir Ddinbych (ff. 42 verso-46). = A volume, [1795]-[1830], containing transcripts of Welsh ballads and other poems, mainly of the eighteenth century. The majority of the manuscript (ff. 1-42) is in the hand of one John Davies, with later additions, [?1820s], by John Evans, blacksmith, of Llanrhaeadr[?-ym-Mochnant], Denbighshire.
Ymysg y beirdd a gynrychiolir yn y gyfrol mae Jonathan Hughes (ff. 3-4 verso, 12 verso, 34 verso-36), Huw ap Huw [Hugh Hughes, y Bardd Coch o Fon] (ff. 4 verso-9 verso, 11 verso-12 verso), Rhys Jones [y Blaenau] (ff. 10-11), Jonathan Hughes Ifangc (f. 13), Walter Davies [Gwallter Mechain] (f. 13 recto-verso), David Thomas [Dafydd Ddu Eryri] (f. 13 verso), Ellis Roberts [Elis y Cowper] (ff. 14-16 verso, 18-22, 38 verso-41 verso), Hugh Roberts y Teiliwr o blwy Llanllyfni (ff. 16 verso-18), Richard Llwyd o'r Plas [Meini] (f. 22 recto-verso), Robert Richard o Bentraeth (ff. 24 verso-26 verso), Richard Parry [o Niwbwrch] (ff. 26 verso-29, 33 verso-34 verso), Humphrey Wiliam, Tywyn, Meirionnydd (ff. 29-30), Y Parch. [William] Williams, Llaneilian-yn-Rhos (ff. 30-32 verso), a Huw Morris [Huw Morys] (ff. 32 verso-33 verso). Ymddengys bod y mwyafrif o'r cerddi wedi eu copïo o ffynnonellau printiedig, gan gynnwys Blodeu-gerdd Cymry, o gynnulliad David Jones o Drefriw (Amwythig: Stafford Prys, 1759, Libri Walliae 2804) (ff. 22-34 verso) ac amryw bamffledi. Mae yn y gyfrol hefyd ymgais gan John Evans i ysgrifennu beddargraff, dyddiedig 1825 a 1830 (f. 44), a dwy fersiwn o 'Cerdd yr Offeiriad Dur neu Steel Parson', o bosib gan John Evans, [1820au] (ff. 43, 46 recto-verso), gyda chopi teipysgrif o'r ddwy fersiwn, [20 gan., ail ½], [?gan D. Tecwyn Lloyd] yn rhydd yn y gyfrol (2 ff.). Mae taflen o dablau rhifyddol a werthwyd gan P. Sandford, Amwythig, [c. 1795], wedi ei bastio y tu mewn i'r clawr blaen. = Amongst the poets represented in the volume are Jonathan Hughes (ff. 3-4 verso, 12 verso, 34 verso-36), Huw ap Huw [Hugh Hughes, y Bardd Coch o Fon] (ff. 4 verso-9 verso, 11 verso-12 verso), Rhys Jones [y Blaenau] (ff. 10-11), Jonathan Hughes, junior (f. 13), Walter Davies [Gwallter Mechain] (f. 13 recto-verso), David Thomas [Dafydd Ddu Eryri] (f. 13 verso), Ellis Roberts [Elis y Cowper] (ff. 14-16 verso, 18-22, 38 verso-41 verso), Hugh Roberts, tailor, of Llanllyfni (ff. 16 verso-18), Richard Llwyd ('o'r Plas [Meini]') (f. 22 recto-verso), Robert Richard, Pentraeth (ff. 24 verso-26 verso), Richard Parry [of Newborough] (ff. 26 verso-29, 33 verso-34 verso), Humphrey Wiliam, Tywyn, Meirionnydd (ff. 29-30), the Rev. [William] Williams, Llaneilian-yn-Rhos (ff. 30-32 verso), and Huw Morris [Huw Morys] (ff. 32 verso-33 verso). The majority of the poems were apparently copied from printed sources, including Blodeu-gerdd Cymry, selected by David Jones, Trefriw (Shrewsbury: Stafford Prys, 1759, Libri Walliae 2804) (ff. 22-34 verso) and numerous pamphlets. The volume also contains attempts by John Evans at composing an epitaph, in 1825 and 1830 (f. 44), and two versions of 'Cerdd yr Offeiriad Dur neu Steel Parson', possibly by John Evans, [1820s] (ff. 43, 46 recto-verso), with a typescript copy of both versions, [20 cent, second ½], [?by D. Tecwyn Lloyd], inserted loose in the volume (2 ff.). A sheet of arithmetical tables, sold by P. Sandford, Shrewsbury, [c. 1795], is pasted inside the front cover.

Davies, John, fl. 1795.

'Colofn Awen'

Cyfrol yn cynnwys torion, Tachwedd 1916-Rhagfyr 1918, o 'Colofn Awen', colofn Cybi yn Yr Udgorn, papur newydd ardal Pwllheli (ff. i, 1-77 (rectos a 64 verso yn unig), tu mewn i'r clawr cefn). Defnyddiwyd y gyfrol yn wreiddiol gan Cybi, [c. 1906], i ysgrifennu barddoniaeth, sydd nawr, gan fwyaf, wedi ei orchuddio gan y torion. = A volume containing pasted-in cuttings, November 1916-December 1918, of 'Colofn Awen', Cybi's column in the Pwllheli newspaper, Yr Udgorn (ff. i, 1-77 (rectos and 64 verso only), inside back cover). The volume was was originally used by Cybi, [c. 1906], to write autograph poetry in Welsh, now mostly obscured by the cuttings.

Cybi.

Llythyrau G-H

Llythyrau oddi wrth Megan Lloyd George, Gwyn Griffiths, Kate Bosse Griffiths, William Griffiths, Rowe Harding, Cledwyn Hughes, D. R. Hughes, H. Harold Hughes a T. Rowland Hughes, 1937-1970.

Lloyd George, Megan, 1902-1966

Llythyrau, [1965]-[1993]

Llythyrau, [1965]-[1993], yn ei longyfrach ar y ddoethuriaeth er anrhydedd a ddyfarnwyd iddo yn 1993 ar achlysur canmlwyddiant y Brifysgol, llwyddiant y gyfres 'Lleifior', ynghyd â llungopi o lythyr a anfonodd at Angharad Tomos yn 1989 ar grefft y nofel.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1848, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno yn Saesneg (tt. 3-56) yn nodi manylion pregethau a darlithoedd, gwaith golygu ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1848, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries in English (pp. 3-56) including sermons preached, other engagements, editing work and names of correspondents.
Mae yn cofnodi marwolaeth ei fam ar 9 Mawrth (t. 13). = He records his Mother's death on 9 March (p. 13).

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1853, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno, yn bennaf yn Saesneg (tt. 4-55), yn nodi manylion pregethau a darlithoedd, gwaith ysgrifennu a golygu ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1853, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries, mostly in English (pp. 4-55), recording sermons preached, other engagements, writing and editing work and names of correspondents.
Mae yna gofnodion a nodiadau amrywiol tu mewn i'r cloriau ac ar tt. i-ii, 98. = There are miscellaneous memoranda and notes inside the front and back covers and on pp. i-ii, 98.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1854, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno, yn bennaf yn Saesneg (tt. 3-55), yn nodi manylion pregethau a darlithoedd, gwaith ysgrifennu a golygu ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1854, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries, mostly in English (pp. 3-55), recording sermons preached, other engagements, writing and editing work and names of correspondents.

Results 1 to 20 of 1284